Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Amodau a Thelerau Partner Sianel Nominet

Mae Adran Gwasanaeth TGCh Cyngor Sir Powys yn darparu gwasanaeth cofrestru enw parth ar gyfer meysydd gwasanaeth mewnol, prosiectau sy'n cael eu hariannu gan y Cyngor a thrydydd partïon cysylltiedig. Fel Partner i Sianel Nominet mae gofyn i ni gyhoeddi'r manylion cysylltu, y gweithdrefnau cwyno a'r amodau a'r telerau i gwsmeriaid.

Manylion cyswllt cofrestru Enw Parth

Cyfeiriad Post:  Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Ffôn: 01597 826100

Ebost: domain.admin@powys.gov.uk

 

Gweithdrefn Gwyno

Os ydych yn awyddus i gwyno am y gwasanaeth cofrestru enw Parth, cysylltwch â'r Gwasanaethau TGCh gan ddefnyddio un o'r dulliau cysylltu uchod. Y tu allan i oriau swyddfa, anfonwch e-bost atom yn  domain.admin@powys.gov.uk. Byddwn yn ymateb i'r holl bwyntiau cyswllt o fewn 1 diwrnod gwaith, ac yn ceisio datrys unrhyw broblemau sydd gennych cyn pen 5 diwrnod gwaith.

Os ydych am godi cwyn am unrhyw gamdriniaeth yr ydych wedi'i dderbyn (gwe-rwydo, e-byst sbam ac ati), cysylltwch â ni yn ictsecurity@powys.gov.uk a rhowch cymaint â phosibl o wybodaeth i ni am y gamdriniaeth. Byddwn yn ymchwilio i'ch cwyn o fewn 1 diwrnod.

Os nad ydych yn hapus gyda chanlyniad cychwynnol eich cwyn, yna mae croeso i chi uwchgyfeirio eich problem i Nominet (cofrestrfa'r DU) yma: http://www.nominet.org.uk/disputes/complaining-about-registrar/complaints-procedure

 

Amodau a Thelerau Cwsmeriaid

Bydd pob parth yn cael ei adnewyddu bob dwy flynedd. Bydd Gwasanaethau TGCh yn cyhoeddi cadarnhad o adnewyddu'r parth i'r cyswllt sydd wedi'i gofrestr o leiaf 60 diwrnod cyn y dyddiad dod i ben. Oni bai bod hysbysiad ysgrifenedig neu hysbysiad i'r cyfeiriad e-bost uchod, bydd y parth yn cael ei adnewyddu ar eich rhan. Bydd Gwasanaethau TGCh yn sicrhau bod yr holl fanylion cyswllt ar gyfer y cofrestriad yn cael eu diweddaru a'u cywiro. Os nad ydych am i barth gael ei adnewyddu, a wnewch chi gysylltu â ni o leiaf 45 diwrnod cyn i'ch parth ddod i ben trwy anfon e-bost atom yn y cyfeiriad e-bost uchod. Bydd pob parth yn cael ei adnewyddu o leiaf 30 diwrnod cyn i enw'r parth ddod i ben.

Mae Gwasanaethau TGCh yn cadw'r hawl i ail-godi cost cofrestru ac adnewyddu Parthau. £5 bob dwy flynedd yw'r gost gysylltiedig.

Pe byddai unrhyw gwsmer am drosglwyddo'u henw parth i Ddarparwr Gwasanaeth arall, bydd y Gwasanaethau TGCh yn yna adfer unrhyw gostau perthnasol gan y cwsmer.