Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cynllunio Mynediad y Cyhoedd a Thelerau ac Amodau Defnydd

  • Nid yw'r wybodaeth ar y wefan hon yn disodli cofrestr statudol y Cyngor o geisiadau cynllunio.
  • Yn sgil gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni all y Cyngor warantu y bydd yr adran hon o'r wefan ar gael bob amser.
  • Gall lluniau a dogfennau maith fod yn ffeiliau mawr, a gallant gymryd peth amser i'w lawrlwytho, gan ddibynnu ar eich cyflymder cysylltu. Mae safon y ddelwedd yn dibynnu ar ansawdd yr un a gyflwynwyd yn wreiddiol.
  • Dylech chi sicrhau bod yr holl sylwadau perthnasol yn cael eu derbyn o fewn yr amser penodedig. Defnyddiwch y cyfleusterau gwneud sylwadau ar-lein ar y wefan ar gyfer hyn.
  • Nid yw'r hanes cynllunio ar-lein sy'n cael ei gyhoeddi ar y wefan ar hyn o bryd wedi'i gwblhau, ac ni ddylid ei ddefnyddio i ddisodli'r dasg o gynnal 'Chwiliad Pridiant Tir' ffurfiol. Nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad neu hepgoriau yn y wybodaeth sydd yn yr hanes cynllunio sydd ar y wefan. Yn yr un modd, nid yw'r wybodaeth ar y wefan yma mewn unrhyw fodd yn ffurfio hysbysiad ffurfiol o benderfyniad cynllunio, ac fel y cyfryw, bydd unrhyw gamau gweithredu a gymerir o ganlyniad i wybodaeth sy'n cael ei harddangos ar y wefan ar fenter y darllenwr ei hun yn llwyr.
  • Er bod pob cynllun a lluniad ar y wefan hon wedi'i sganio o gopïau gwreiddiol sydd wrth raddfa, ni fydd y delweddau'n ymddangos ar unrhyw raddfa benodol ar sgrin eich cyfrifiadur. Maint y rhain mewn ffigurau (lle maent ar gael), yw'r unig fynegiad o fesuriadau ar y delweddau hyn

 
Hawlfraint

Mae Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988 yn diogelu cynlluniau, lluniadau a deunyddiau sy'n cael eu cyflwyno i'r Cyngor. Dim ond at ddibenion ymgynghori, er mwyn cymharu ceisiadau cyfredol gyda chynlluniau blaenorol, a gwirio a gwblhawyd datblygiadau yn unol â'r cynlluniau cymeradwy y caniateir lawrlwytho a/neu argraffu. Rhaid peidio â chynhyrchu rhagor o gopïau heb ganiatâd blaenorol perchennog yr hawlfraint.