Skip to content
Skip to content

Looking for English?

The English Flag Go to our English Consultation and Engagement Hub: CLICK HERE


Cyngor Sir Powys - Hwb Ymgynghori ac Ymgysylltu

Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn gofyn am farn trigolion, perchnogion busnesau, ymwelwyr a rhan ddalwyr ar wahanol bynciau. Rydym wedi newid y ffordd y mae ein hymgynghoriadau'n gweithio yn ddiweddar sy'n golygu mai dim ond un ymateb y gallwn ei dderbyn fesul pob unigolyn. Bydd angen i chi gofrestru ar y llwyfan hwn i ateb ein harolygon a gynhelir ar y wefan hon. Cliciwch ar 'Cofrestrwch yma' i ymuno â'n cymuned. (Dim ond unwaith y mae angen i chi gofrestru).

Beth am weithio gyda'n gilydd

Rydym eisiau i bawb gael y cyfle i ddweud eu dweud ar ein gwasanaethau a helpu i lunio dyfodol Powys. Gallwch gyfrannu yn y ffyrdd canlynol...

Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus 2023-27

Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar ymgysylltu ag a gweithio gyda’n cymuned a phartneriaid eraill i hyrwyddo a chryfhau cysylltiadau cymunedol, datblygiad a gwydnwch i wireddu ein blaenoriaethau.

Prosiectau'r Gorffennol

Ein Gweledigaeth - Adeiladu Powys Gryfach, Decach a Gwyrddach

Ein huchelgais yw helpu Powys i ddod yn sir sy'n gryfach gyda'n gilydd, gyda chymunedau a phobl sy'n gadarn yn bersonol ac yn economaidd ac wedi'u cysylltu'n dda. Bydd lleisiau trigolion yn helpu i lywio'n gwaith a'n blaenoriaethau a bydd mynediad tecach, mwy cyfartal, at wasanaethau a chyfleoedd lleol. Byddwn yn ymdrin â'n cynlluniau mewn ffordd wyrddach, gan ganolbwyntio ar les a sicrhau dyfodol hirdymor y sir, gyda chynaliadwyedd a bioamrywiaeth wrth wraidd popeth a wnawn.

Stronger Fairer Greener Branding



Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol yn nodi gweledigaeth y cyngor ar gyfer dyfodol Powys ac mae'n cynnwys yr amcanion lles y byddwn yn canolbwyntio arnynt i helpu i wireddu ein gweledigaeth. Darllen rhagor: https://cy.powys.gov.uk/eingweledigaeth







Cyngor Sir Powys

Cyfathrebu ac Ymgysylltu

haveyoursay@powys.gov.uk