Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Ymgynghoriadau ym Mhowys

Rydyn ni am i bawb gael cyfle i ddweud eu dweud ar y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu a helpu i lunio dyfodol Powys. Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, rydym yn cynnal gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu i'n preswylwyr gymryd rhan ynddynt.

Ein Hwb Ymgynghori

Bydd ein holl brosiectau ymgynghori yn ymddangos ar ein platfform ymgynghori ac ymgysylltu pwrpasol y gallwch ymweld ag ef yma: www.dweudeichdweudpowys.cymru  

Darganfyddwch am yr hyn rydyn ni'n ymgynghori â phobl arno ar hyn o bryd a dweud eich dweud!

Panel Pobl Powys. 

Grŵp o drigolion yw Panel Pobl Powys sy'n cymryd rhan mewn arolygon a chyfleoedd eraill i ddatgan eu barn ar wasanaethau'r cyngor a materion eraill ar fyw ym Mhowys.  Mae'n gyfle da i ddylanwadu ar sut y bydd gwasanaethau'n cael eu cyflwyno, tynnu sylw at broblemau a helpu i lywio gwasanaethau cyhoeddus yn eich cymuned. 

Os hoffech gael eich cynnwys a derbyn gwahoddiadau i gymryd rhan o dro i dro, ticiwch y blwch ar broffil Fy Nghyfrif.