Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Ein Cynllun Corfforaethol

Cryfach Tecach Gwyrddach logo

Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol yn nodi gweledigaeth y cyngor ar gyfer dyfodol Powys ac mae'n cynnwys yr amcanion lles y byddwn yn canolbwyntio arnynt i helpu i wireddu ein gweledigaeth.

Mae'r cynllun yn weithredol o fis Ebrill 2023 ymlaen yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Bwriedir cynnal amrywiaeth o wasanaethau a gweithgareddau er mwyn cyflawni ein hamcanion.

Ein huchelgais yw y byddwn, erbyn 2027:  

  • Yn gryfach - byddwn yn dod yn sir sy'n llwyddo gyda'n gilydd, gyda chymunedau a phobl sydd wedi eu cysylltu'n dda yn gymdeithasol ac sy'n bersonol ac economaidd wydn. 
  • Yn decach - byddwn yn Gyngor agored wedi'i redeg yn dda sy'n gwrando ar leisiau pobl sy'n cyfrannu at ein gwaith a'n blaenoriaethau, gyda mynediad tecach a mwy cyfartal at wasanaethau a chyfleoedd.  Byddwn yn gweithio i ddelio â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi lles pobl Powys. 
  • Gwyrddach - rydym eisiau sicrhau dyfodol gwyrddach i Bowys gyda'n lles wedi'i gysylltu i les y byd naturiol a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur wrth galon popeth a wnawn. 

Beth sydd angen i ni ei wneud i gyflawni'r nod hwn? 

Er mwyn cyflawni ein huchelgais, rydym wedi gosod tri amcan i ni ein hunain ac sy'n nodau craidd y Cynllun hwn: 

  1. Byddwn yn gwella ymwybyddiaeth pobl o wasanaethau a sut i'w derbyn fel y gall pobl wneud dewisiadau gwybodus. 
  2. Byddwn yn cefnogi cyflogaeth dda a chynaliadwy a darparu cyfleoedd hyfforddiant gan weithio tuag at fod yn gyflogwr cyflog byw gwirioneddol achrededig. 
  3. Byddwn yn gweithio i ddelio â thlodi ac anghydraddoldeb i gefnogi lles pobl Powys. 

I gael gwybod mwy, edrychwch ar y cyflwyniad rhyngweithiol: Ein Cynllun Cydraddoldeb Corfforaethol a Strategol

I ddeall sut rydym yn symud ymlaen gyda'r cynllun hwn, edrychwch ar ein tudalen Diweddariadau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu