Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhoi gwybod am gam-drin plant - Gwybodaeth i staff proffesiynol

Os nad ydych yn siŵr p'un ai i wneud atgyfeiriad, trafodwch eich pryderon gyda'r swyddog amddiffyn plant /arweinydd diogelu dynodedig yn eich sefydliad.

Os hoffech ymgynghori â Gweithiwr Cymdeithasol cyn gwneud atgyfeiriad i Wasanaethau Cymdeithasol Plant, ffoniwch Dîm Drws Ffrynt Powys ar 01597 827666.

Rhaid i chi lenwi Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol ym mhob achos oni bai eich bod yn barnu bod y plentyn mewn perygl o niwed sylweddol ar unwaith. Mewn achos felly bydd Swyddogion Cynghori a Gwybodaeth Drws Ffrynt yn derbyn gwybodaeth dros y ffôn yn y lle cyntaf. Wedyn rhaid llenwi Ffurflen Atgyfeirio Amlasiantaethol.

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen atgyfeirio, anfonwch hi drwy e-bost at: csfrontdoor@powys.gov.uk

Ceisio cydsyniad i gael adroddiad

Rhaid i fuddiannau'r plentyn sydd mewn perygl o niwed fod yn brif ystyriaeth wrth benderfynu a ddylid ceisio caniatâd plentyn a/neu rieni cyn gwneud adroddiad.  Dylid ceisio caniatâd bob amser oni bai y bydd gwneud hynny'n rhoi'r plentyn mewn perygl o niwed ar unwaith.

Dylai ymarferwyr geisio caniatâd gan y rhieni. Rydym yn argymell hyn oherwydd bod cynnwys teuluoedd a gofalwyr yn fwy tebygol o:

  • arwain at ymgysylltu yn y broses ddiogelu ac at ganlyniadau sy'n canolbwyntio ar anghenion y plentyn;
  • hybu partneriaeth weithiol effeithiol gyda'r teulu.

Dylech hefyd ymgynghori â phlant, os ydynt yn iach a chymwys, a chael eu caniatâd hwythau. Mae'n bwysig cynnwys plant yn y broses cyn gynted ag y bo modd er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eu dymuniadau a'u teimladau'n lle bo modd a'u hatal rhag dod yn 'destun sy'n peri pryder' yn unig.

Fodd bynnag, diogelwch a lles y plentyn yw'r brif ystyriaeth o ran ceisio caniatâd. Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'ch tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol i gael cyngor.

Mae Cyngor Sir Powys yn un o bartneriaid Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae'r Bwrdd yn gweithio yn rhanbarthol ac yn cysylltu ag is-grwpiau diogelu lleol i helpu i amddiffyn plant ac oedolion sy'n profi, neu sydd mewn perygl o brofi, cam-drin, esgeuluso neu fathau eraill o niwed. Gallwch weld gwefan y bartneriaeth isod: Cysur | Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru Diogelu plant ac oedolion

Cewch fwy o wybodaeth ac arweiniad o'r dolenni canlynol:

Os ydych wedi bod mewn cysylltiad ag aelod o staff o'n Tim Drws Ffrynt Gwasanaethau Plant hoffwn gael eich barn am y gwasanaeth ry'n ni'n ei ddarparu.

Gadewch Adborth Adborth Defnyddiwr Drws Ffrynt