Proses Cwyno, Canmol, a Sylwadau Gwasanaethau Cymdeithasol
Os oes gennych bryder, os ydych am ddweud wrthym pan wnaethon ni'n dda, neu os hoffech wneud sylw am ein gwasanaeth, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod i ni. Byddwn fel arfer yn ymateb o fewn ddau i bum diwrnod gwaith.
Gallwch wneud sylw neu ein canmol yn rhwydd trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.. Os hoffech gwyno, darllenwch y wybodaeth isod.
Pwy sy'n gallu gwneud cwyn?
Unrhyw un sydd wedi derbyn, neu oedd â hawl i dderbyn, gwasanaeth mae gwasanaethau cymdeithasol (ni) yn ei ddarparu. Cewch chi hefyd gwneud cwyn os ydych wedi derbyn gwasanaeth a gomisiynwyd gennym.
Cewch chi wneud cwyn ar ran rhywun arall yn yr amgylchiadau isod:
- Os ydy'r unigolyn yn blentyn. Ond rydym yn annog plant a phobl ifanc i gysylltu â ni yn uniongyrchol eu hunain.
- Os ydy'r unigolyn wedi gofyn i chi weithredu ar ei ran. Mae angen i'r cais hwn fod yn ysgrifenedig fel arfer.
- Ar ran rhywun nad yw'r gallu ganddo/ganddi i gwyno.
- Os ydy'r unigolyn wedi marw.
Bydd angen i ni benderfynu a ydych yn briodol a bod gennych ddigon o ddiddordeb yn lles yr unigolyn i weithredu ar ei ran.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cwyn, hoffem glywed gennych o hyd ac mae croeso i chi wneud sylw am ein gwasanaeth.
Mae gennych hawl i eiriolwr (rhywun a fydd yn eich helpu i ddatgan eich safbwynt). Gallwn ddweud wrthych ble i ddod o hyd i un. Os oes angen cymorth arnoch i gael eiriolwr, byddwn yn eich helpu.
Fel arfer, dylech wneud cwyn o fewn 12 mis o'r dyddiad y cododd y pryder. Y cam cyntaf wrth ddatrys pryder yw cysylltu â'r Swyddog Cwynion.
Cam 1
Pan fyddwch yn gwneud cwyn, byddwn fel arfer yn ei chydnabod o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Wrth geisio datrys problem, byddwn yn cynnig trafod eich cwyn â chi. Fel arfer, cynhelir y drafodaeth o fewn 10 diwrnod gwaith o'r dyddiad pan wnaethon ni gydnabod y cwyn.
- Efallai y byddwn yn cytuno i wneud yr hyn rydych yn gofyn i ni ei wneud.
- Efallai y bydd yn rhaid i ni ymddiheuro i chi am wneud camgymeriadau.
- Efallai y bydd yn rhaid i ni egluro pethau'n well.
Efallai y bydd angen i'r sawl sy'n ymchwilio i'ch cwyn ddarllen eich ffeil a gofyn cwestiynau cyn penderfynu beth ddylen ni ei wneud. Trwy wneud cwyn rydych yn cytuno y caiff y Swyddog Cwynion a'r Ymchwilydd fynediad at y wybodaeth i ymdrin â'ch cwyn.
Yn dilyn y drafodaeth byddwn fel arfer yn ysgrifennu atoch o fewn pum diwrnod gwaith gyda phenderfyniad.
Cam 2
Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd aethon ni ati i ddatrys eich cwyn yn ystod Cam 1, gallwch ofyn i rywun sy'n annibynnol o'r Cyngor ymchwilio i'r mater.
Beth os nad ydw i'n siŵr at bwy i gwyno?
Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn cydweithio'n agos â llawer o sefydliadau. Efallai bod gennych gwyn am wasanaeth rydym wedi'i drefnu ar eich rhan, fel cartref gofal preswyl, asiantaeth gofal cartref, neu wasanaeth dydd. Fel arfer, rhaid i'r darparwr fod wedi ymchwilio i gwynion cyn y gallwn ni fynd ati i ymdrin â nhw. Os nad ydych yn siŵr sut i gwyno, neu os nad ydych yn fodlon â'u hymateb, cysylltwch â'r Swyddog Cwynion.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â rhywbeth rydym wedi'i ddarparu ar y cyd â sefydliad arall, fel y bwrdd iechyd, byddwn yn edrych ar eich cwyn ar y cyd â nhw. Fel arfer byddwn yn anfon un ymateb atoch wedyn. Bydd angen eich caniatâd arnon ni i rannu gwybodaeth pan fyddwn yn gweithio ar y cyd â sefydliad arall.
A gaf gwyno wrth rywun arall os nad ydw i'n fodlon â sut rydych chi wedi ymdrin â fy nghwyn?
Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau cyfreithiol i ymchwilio i gwynion am wasanaethau cyhoeddus a darparwyr gofal annibynnol yng Nghymru. Fel arfer ni fydd yr Ombwdsmon ond yn edrych ar gwynion ar ôl i ni gael cyfle i'w datrys.
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma