Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hysbysiad Preifatrwydd Y Cynllun Seibiant Dyledion (Lle i Anadlu)

Dylech ddarllen yr hysbysiad hwn ar y cyd â'r Hysbysiad Preifatrwydd Incwm a Dyfarniadau presennol

Beth rydym yn ei wneud

Mae Cyngor Sir Powys yn derbyn a phrosesu hysbysiadau Lle i Anadlu o dan Reoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020. Cynllun seibiant dyledion yw Lle i Anadlu. Mae'n amddiffyn pobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr sydd â dyled sy'n achosi anawsterau iddyn nhw.  Mae lle i anadlu ar gael i'r rhai sydd â dyledion sy'n peri problem, sy'n derbyn cyngor ar ddyled, ac sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Bydd hyn yn cynnwys rhannu hysbysiadau ag adrannau eraill y Cyngor y tu allan i'r un pwynt cyswllt.

Pa wybodaeth ydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi? O ble rydyn ni'n cael eich gwybodaeth honno?

Rydym yn casglu, cadw ac yn defnyddio gwybodaeth amdanoch yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth Ansolfedd a chynghorwyr dyledion, o dan Reoliadau Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl (Cymru a Lloegr) 2020. Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys enwau, dyddiadau geni, cyfeiriad(au), manylion cyswllt, cyfeiriad e-bost, rhif yswiriant gwladol, manylion cyflogaeth, gwybodaeth am berthnasau, manylion ariannol a gwybodaeth iechyd.

Mae'r Gwasanaeth Ansolfedd yn rhoi gwybodaeth i ni drwy e-byst a Phorth y Gwasanaeth Ansolfedd.

Sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth

Rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i atal camau gorfodi dros dro (gall atafaelu enillion ac atafaelu Credyd Cynhwysol barhau yn unol â rheoliadau lle i anadlu) a chysylltu â chi mewn perthynas â dyledion sy'n ddyledus i'r cyngor. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhewi'r rhan fwyaf o log a thaliadau ar eich dyled.  Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'ch cynghorydd dyled am ddyledion ychwanegol sy'n ddyledus i'r Cyngor na chawsant eu cynnwys yn wreiddiol yn y gorchymyn lle i anadlu.

Sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data

Rydym yn defnyddio data personol lle mae gennym 'rwymedigaeth gyfreithiol' i wneud hynny.  Rydym yn defnyddio categori arbennig lle mae 'budd cyhoeddus sylweddol' megis budd statudol neu lywodraethol.  Y gyfraith sy'n gwneud hwn yn ofynnol neu'n caniatáu i ni ddefnyddio'r data hwn yw Rheoliadau'r Cynllun Seibiant Dyledion (Moratoriwm Lle i Anadlu a Moratoriwm Argyfwng Iechyd Meddwl) (Cymru a Lloegr) 2020.

Gallwn rannu'ch gwybodaeth â'r asiantaethau canlynol:

  • Y Gwasanaeth Ansolfedd
  • Asiantaethau cyngor ar ddyledion
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Asiantaethau Gorfodi
  • Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol
  • Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi
  • Cyfreithwyr Allanol
  • Gwasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  • Adrannau eraill y Cyngor
  • Cynrychiolwyr sy'n cael eu penodi

Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaeth bersonol i drydydd parti arall oni bai ei bod yn ofynnol neu os ydym yn cael gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Neu, lle mae'n briodol i gefnogi ein dyletswydd i ddiogelu arian cyhoeddus a / neu ganfod ac atal twyll neu ofynion gweithgarwch troseddol neu ddiogelu eraill.

Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw drydydd parti at ddibenion masnachol neu farchnata.

Pam rydym yn prosesu eich data

  • Deddfwriaeth statudol
  • Darparu gwasanaethau
  • Cynllunio gwasanaethau

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Ni fyddwn ond yn cadw eich gwybodaeth am y cyfnod gofynnol sy'n angenrheidiol. Byddwn yn cadw'r wybodaeth a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar ôl i'r holl gamau gweithredu ar eich cais ddod i ben. Hefyd, ar ôl i'r cyfnod sy'n ofynnol gan y cyngor at ddibenion cyfreithiol ac archwilio ddod i ben. Byddwn yn cadw'r holl wybodaeth yn ddiogel ac yn ei dinistrio'n gyfrinachol pan fydd y cyfnod cadw gofynnol yn dod i ben.