Gofal Ychwanegol
Beth yw Gofal Ychwanegol
Un o'r dewisiadau y mae gofal cymdeithasol yn ei gefnogi yw Gofal Ychwanegol fel dewis arall i'r ffurfiau mwy traddodiadol o ddarparu gofal preswyl neu lety gwarchod.
Mae Gofal Ychwanegol yn cynnig llety modern a phwrpasol lle mae gofal a chymorth ar gael 24 awr ar y safle i ddiwallu anghenion a disgwyliadau newidiol preswylwyr. Trwy'r llety yma gallant fyw mor annibynnol ag y bo modd yn eu cartrefi eu hunain.
Gall tai Gofal Ychwanegol ddarparu dewis gwahanol i ofal preswyl, gofal nyrsio neu dai gwarchod. Y bwriad yw cynnig 'cartref am oes' i lawer o bobl hyd yn oed os bydd eu hanghenion gofal yn newid dros amser.
Mae'n wahanol i'r ffurfiau mwy traddodiadol o gynnig ofal preswyl a thai gwarchod. Mae'n caniatáu i bobl fyw yn eu cartref eu hunain ar y safle Gofal Ychwanegol gan fod ganddynt eu cartref hunangynhwysol o fewn eu drws ffrynt eu hunain.
Hanfod gofal ychwanegol yw ansawdd bywyd, nid ansawdd gofal yn unig. Gyda gwasanaethau gofal 24 awr wedi eu lleoli ar y safle, caiff parau a ffrindiau aros gyda'i gilydd ac mae cymysgedd o bobl gydag anghenion amrywiol.
Fel arfer mae'r fflatiau'n cynnwys un neu ddwy ystafell wely. Mae gan bob rhandy ystafell wely, lolfa, a chegin ar wahân hawdd mynd atynt a chawod gyda mynediad gwastad. Yn aml mae ganddynt leoedd cyffredin, larymau cymunedol a gofal gyda chymorth technoleg.
Cyfleuster Gofal Ychwanegol cyntaf Powys - Llys Glan-yr-Afon yn Y Drenewydd Llys Glan Yr Afon, Y Drenewydd - Wales & West Housing Association (wwha.co.uk) Agordd Llys Glan-yr Afon yn 2017 gyda 48 o fflatiau mewn partneriaeth â Chymdeithas Tai Wales and West.
Dechreuodd y gwaith yn haf 2021. Mae gwaith yn mynd rhagddo nawr i drawsnewid Neuadd Maldwyn yn Y Trallwng yn gyfleuster Gofal Ychwanegol ar y cyd â Chymdeithas Tai ClwydAlyn. Bydd yn cynnig 66 o fflatiau gydag un neu ddwy ystafell wely ar gyfer pobl hŷn o'r ardal. Disgwylir y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau yn 2023.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i nodi cyfleoedd i gyflwyno cyfleusterau Gofal Ychwanegol i drefi eraill yn y sir.