Hysbysiad preifatrwydd cludiant o'r Cartref i'r Ysgol a Chludiant Cyhoeddus
Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio pa ddata personol (gwybodaeth) sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac efallai'n rhannu gwybodaeth amdanoch. Mae'n ofynnol i ni roi'r wybodaeth hon i chi o dan gyfraith diogelu data.
Pwy ydym ni:
Mae Cyngor Sir Powys (PCC) yn casglu, yn defnyddio ac yn gyfrifol am wybodaeth bersonol benodol amdanoch. Pan fyddwn yn gwneud hynny, cawn ein rheoleiddio o dan Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU) ac rydym yn gyfrifol fel 'rheolydd' y wybodaeth bersonol honno at ddibenion y cyfreithiau hynny.
Gwybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu a'i defnyddio:
Gwybodaeth a gesglir gennym:
Wrth alluogi mynediad i gynlluniau cludiant, efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol pan fyddwch yn ei darparu i ni:
· enw
· cyfeiriad
· manylion cyswllt
· dyddiad geni
· manylion unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych neu wybodaeth arall sydd ei hangen i sicrhau bod y gwasanaeth a ddarparwn yn briodol i chi
· rhywfaint o wybodaeth ariannol benodol (os oes angen i chi wneud taliad i'r gwasanaeth gael ei ddarparu)
· gwybodaeth mewn perthynas â'r hawl i deithio ar y cerbyd (tocynnau cludiant ysgol)
Rydym hefyd yn derbyn gwybodaeth bersonol o'r ffynonellau eraill canlynol:
· adrannau eraill y PCC, megis yr adran Gwasanaethau Ysgolion
· sefydliadau addysgol
Sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol:
Rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i:
· hwyluso trefniadau trafnidiaeth angenrheidiol gan gynnwys defnyddio cardiau a chodau trafnidiaeth
· cynhyrchu neu newid tocynnau teithio
· derbyn taliad mewn perthynas â ffioedd a thaliadau
· gellir prosesu data'n awtomatig, er enghraifft pan fyddwch yn cyflwyno cais drwy'r rhyngrwyd a phan fydd tocyn teithio'n cael ei gynhyrchu.
Am ba hyd y bydd eich data personol yn cael ei gadw:
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol am y cyfnod y darperir y cludiant, neu gyfnod y budd-dal, yn ogystal ag 1 flwyddyn, neu yn unol â'n hamserlen gadw gyhoeddedig.
At ddibenion teithio ar gerbyd, yna
· Cedwir data personol dysgwyr am 7 diwrnod ar gyfer y llwybrau y maent wedi teithio arnynt
· Data llwybr dienw am 8 mlynedd
Rhesymau y gallwn gasglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
Er mwyn darparu a rheoli'r gwasanaeth cludiant i'r ysgol, yna'r sail gyfreithiol y dibynnir arni yw cyflawni tasgau cyhoeddus er budd ehangach y cyhoedd, a rhai sydd o ddiddordeb sylweddol i'r cyhoedd.
Mae angen darparu data personol a/neu sensitif gennych i'n galluogi i hwyluso eich mynediad i'r gwasanaethau trafnidiaeth a ddarperir gan PCC
Rhannu data personol:
Rydym yn rhannu'n rheolaidd
· data personol lle mae angen gwneud trefniadau teithio priodol neu er mwyn galluogi mynediad i wasanaethau cludiant a ddarperir gan CSP
· data personol sensitif lle mae angen sicrhau bod y cludiant a ddarperir yn diwallu eich anghenion penodol
Byddai'r wybodaeth hon yn cael ei rhannu gyda:
· darparwyr cludiant
· gweithgynhyrchwyr cardiau teithio trydydd parti (fel Trafnidiaeth Cymru)
· sefydliadau addysgol
· cyflenwyr meddalwedd trydydd parti i'r Cyngor
Mae'r rhannu data hwn yn galluogi gwneud trefniadau teithio priodol. Am restr o'n cyflenwyr trydydd parti, anfonwch e-bost at buses@powy.gov.uk gan ddyfynnu cais GPDR. Byddwn yn rhannu gwybodaeth bersonol â swyddogion gorfodi'r gyfraith neu awdurdodau eraill os caniateir neu gofynnir i ni wneid hynny yn unol â'r gyfraith berthnasol.
Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel
Mae gennym fesurau diogelwch technegol a gweithredol priodol ar waith i atal gwybodaeth bersonol rhag cael ei cholli'n ddamweiniol, neu ei defnyddio heb awdurdod. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich gwybodaeth bersonol i'r rhai sydd â rheswm busnes go iawn i wybod amdani. Dim ond mewn modd awdurdodedig y bydd y rhai sy'n prosesu eich gwybodaeth yn gwneud hynny a bydd yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Mae gennym hefyd weithdrefnau ar waith i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol am amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
I gael rhagor o fanylion am eich hawliau gwybodaeth a sut mae Sir Powys yn prosesu data personol, ewch i https://cy.powys.gov.uk/prefaitrwydd
Cyswllt
Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data yn information.compliance@powys.gov.uk i arfer unrhyw un o'ch hawliau gwybodaeth, neu os oes gennych gŵyn ynghylch pam y casglwyd eich gwybodaeth, sut y cafodd ei defnyddio neu am ba hyd yr ydym wedi'i chadw.
Yr awdurdod goruchwylio yn y DU ar gyfer materion diogelu data yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar 03031 231113.