Grant Hanfodion Ysgol (a elwir yn gynt Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad)
Mae cynllun newydd 2024-25 wedi agor bellach. Byddwn yn ysgrifennu atoch o 1af Gorffennaf 2024 er mwyn gwahodd ceisiadau, os ydych chi'n gymwys i ymgeisio, gan roi'r manylion angenrheidiol ichi.
Grant Hanfodion Ysgol
Bydd pob plentyn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu hawlio grant Llywodraeth Cymru. Ni fydd pob plentyn sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn gymwys i hawlio'r grant.
Telir y grant i'r rhai hynny sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn unig.
Ni fydd disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd mesurau amddiffyn wrth bontio neu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bawb (o fis Medi 2022) yn gallu hawlio'r arian hwn.
Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.
Dyma'r symiau:
- £125 fesul dysgwr cymwys.
- Bydd disgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi 2024 yn gallu hawlio £200 y pen.
Bydd staff Powys yn archwilio'r gofrestr o ddysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim i gadarnhau a yw pob plentyn yn gallu hawlio'r arian grant. Bydd ceisiadau newydd am brydau ysgol am ddim hefyd yn cael eu gwirio.
Os yw eich plentyn yn symud i ysgol tu allan i Bowys, dylech wneud cais i'r awdurdod sy'n gyfrifol am yr ysgol honno.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim ond nad ydych yn eu hawlio ar hyn o bryd, cysylltwch â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01597827462 (sylwch na fyddwn yn cymryd manylion banc dros y ffôn).
Bydd y gronfa'n talu am wisg ysgol, dillad arall sy'n cael ei wisgo yn yr ysgol megis dillad chwaraeon, offer ar gyfer tripiau tu allan i'r ysgol (gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored) ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm megis dylunio a thechnoleg.
Gallwch dderbyn un grant fesul blwyddyn academaidd a sylwch y gall gymryd rai wythnosau i'r arian gyrraedd eich cyfrif ar ôl derbyn y manylion banc.
Grant Hanfodion Ysgol Ffurflen Gais Grant Hanfodion Ysgol Ffurflen Gais