Grant Hanfodion Ysgol (a elwir yn gynt Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad)
Bydd y grant ar gyfer y flwyddyn academaidd o fis Medi 2022 tan fis Mehefin 2023 yn agor ar 21 Gorffennaf 2022.Rydym wedi ysgrifennu atoch os ydych yn gymwys i ymgeisio. Bydd angen i chi ddarparu cyfeirnod rhif disgybl a ddarparwyd i chi yn y llythyr gyda'r ffurflen gais.
Grant Hanfodion Ysgol
Bydd pob plentyn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu hawlio grant Llywodraeth Cymru. Ni fydd pob plentyn sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn gymwys i hawlio'r grant.
Telir y grant i'r rhai hynny sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn unig.
Ni fydd disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd mesurau amddiffyn wrth bontio neu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bawb (o fis Medi 2022) yn gallu hawlio'r arian hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £100 yn ychwanegol fesul dysgwr eleni. Cytunwyd ar y cyllid ychwanegol hwn am y flwyddyn academaidd 2022/23 yn unig.
Dyma'r symiau:
- £225 fesul dysgwr cymwys.
- Bydd disgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi 2022 yn gallu hawlio £300 y pen.
Bydd staff Powys yn archwilio'r gofrestr o ddysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim i gadarnhau a yw pob plentyn yn gallu hawlio'r arian grant. Bydd ceisiadau newydd am brydau ysgol am ddim hefyd yn cael eu gwirio.
Os yw eich plentyn yn symud i ysgol tu allan i Bowys, dylech wneud cais i'r awdurdod sy'n gyfrifol am yr ysgol honno.
Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim ond nad ydych yn eu hawlio ar hyn o bryd, cysylltwch â ni.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01597827462 (sylwch na fyddwn yn cymryd manylion banc dros y ffôn).
Bydd y gronfa'n talu am wisg ysgol, dillad arall sy'n cael ei wisgo yn yr ysgol megis dillad chwaraeon, offer ar gyfer tripiau tu allan i'r ysgol (gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored) ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm megis dylunio a thechnoleg.
Gallwch dderbyn un grant fesul blwyddyn academaidd a sylwch y gall gymryd rai wythnosau i'r arian gyrraedd eich cyfrif ar ôl derbyn y manylion banc.