Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Grant Hanfodion Ysgol (a elwir yn gynt Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad)

Bydd y ffurflen cais grant ar gyfer y flwyddyn academaidd Medi 2023 i Fehefin 2024 ar agor. Byddwn ni wedi ysgrifennu atoch o fis Gorffennaf 2023 i wahodd ceisiadau, os byddwch yn gymwys i wneud cais, gan roi'r manylion sydd eu hangen arnoch.

Bydd angen i chi ddarparu cyfeirnod rhif disgybl a ddarparwyd i chi yn y llythyr gyda'r ffurflen gais. Mae'r Grant Hanfodion Ysgolion yn daladwy i Ddisgyblion hyd at Flwyddyn 11 yn unig.

 

Grant Hanfodion Ysgol

Bydd pob plentyn sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu hawlio grant Llywodraeth Cymru.  Ni fydd pob plentyn sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn gymwys i hawlio'r grant.

Telir y grant i'r rhai hynny sydd â hawl i brydau ysgol am ddim yn unig.

Ni fydd disgyblion sy'n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd mesurau amddiffyn wrth bontio neu'r cynllun prydau ysgol am ddim i bawb (o fis Medi 2022) yn gallu hawlio'r arian hwn.

Mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys i gael y grant, p'un a ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.

Dyma'r symiau:

  • £125 fesul dysgwr cymwys.
  • Bydd disgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 7 ym mis Medi 2023 yn gallu hawlio £200 y pen.

Bydd staff Powys yn archwilio'r gofrestr o ddysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim i gadarnhau a yw pob plentyn yn gallu hawlio'r arian grant.  Bydd ceisiadau newydd am brydau ysgol am ddim hefyd yn cael eu gwirio.

Os yw eich plentyn yn symud i ysgol tu allan i Bowys, dylech wneud cais i'r awdurdod sy'n gyfrifol am yr ysgol honno.

Os ydych chi'n meddwl eich bod chi'n gymwys am Brydau Ysgol Am Ddim ond nad ydych yn eu hawlio ar hyn o bryd, cysylltwch â ni.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch 01597827462 (sylwch na fyddwn yn cymryd manylion banc dros y ffôn).

Bydd y gronfa'n talu am wisg ysgol, dillad arall sy'n cael ei wisgo yn yr ysgol megis dillad chwaraeon, offer ar gyfer tripiau tu allan i'r ysgol (gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored) ac offer ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm megis dylunio a thechnoleg.

Gallwch dderbyn un grant fesul blwyddyn academaidd a sylwch y gall gymryd rai wythnosau i'r arian gyrraedd eich cyfrif ar ôl derbyn y manylion banc.

Grant Hanfodion Ysgol Ffurflen Gais Grant Hanfodion Ysgol Ffurflen Gais