Rhwydwaith ardal eang pŵer isel (LoRaWAN) yw math o rwydwaith telegyfathrebu ardal eang di-wifr a ddylunnir i ganiatáu cyfathrebu pellter hir ar raddfa bit isel ymysg pethau, megis synwyryddion a weithredir ar fatri.
LoRaWANym Mhowys
Mae Cyngor Sir Powys yn gweithio ar hyn o bryd i osod dros 60 o lwybrau LoRaWAN i greu rhwydwaith mynediad am ddim ar draws y sir yn dilyn prawf llwyddiannus yn Llanidloes. Bydd y llwybrau hyn yn caniatáu i unigolion, busnesau a'r Cyngor i ddefnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer pethau megis synwyryddion i synhwyro, monitro, rheoli ac adrodd.