Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid

Pound symbol

Isod mae'r cyllid presennol i helpu gwella cysylltedd band eang yng Nghymru:

Pound symbol

Allwedd Band Eang Cymru

Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau i ariannu (neu rannol ariannu) costau gosod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru.

Cynllun Talebau Gigabeit y DU gydag Ychwanegiad Cymreig

Tocynnau gwerth hyd at £1,500 i gartrefi a £3,500 i fusnesau i helpu darparu ar gyfer costau gosod  band eand gigabeit hyd at garreg drws pobl fel rhan o Gynllun Band Eang Cymunedol.

Cynlluniau Band Eang Cymunedol

Gwiriwch i weld a yw eich cymuned yn rhan o Brosiect Band Eang Cymunedol

Cronfa Band Eang Lleol: canllawiau

Cronfa i gefnogi awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i gyflwyno prosiectau band eang yn lleol.

Cyflwynodd Cyngor Sir Powys gais i'r Gronfa Band Eang Leol ar 28 Ionawr 2021. Roedd y cais yn llwyddiannus ac rydym yn llunio achosion busnes a mapio er mwyn cyrraedd yr eiddo hynny sydd fwyaf anodd eu cyrraedd ym Mhowys.

Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol

O'r 20 Mawrth 2020, os na allwch gael cyflymder lawr lwytho o 10 Mbit/s a chyflymder uwch lwytho o 1 Mbit/s, gallwch ofyn am gysylltiad gwell oddi wrth BT (nid oes rhaid i chi fod gyda BT).

Os mai cost adeiladu neu ddiweddaru eich rhan o'r cysylltiad rhyngrwyd yw £3,400 neu lai, ni fydd rhaid i chi dalu i wneud y gwaith hwn.

*Os y bydd yn costio mwy na £3,400 i gysylltu eich cartref, a'ch bod yn parhau i fod eisiau cysylltiad, fe fydd rhaid i chi dalu'r costau dros ben. Os ydych eisiau gwneud hyn, bydd BT yn cynnal arolwg ac yn rhoi dyfynbris i chi o fewn 60 diwrnod.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu