Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymgynghoriad Cyhoeddus ar drefniadau derbyn mapiau dalgylchoedd ysgolion.

Mae Cyngor Sir Powys wedi adolygu'r trefniadau derbyn ar gyfer 2025-26, ac yn unol â gofynion y Cod Derbyn, maent bellach yn ymgynghori ar y trefniadau arfaethedig.

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 1 Mawrth 2024 ac mae bellach ar gau.

Yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd rhwng 29 Ionawr 2024 hyd 1 Mawrth 2024, mae Cyngor Sir Powys wedi gwneud penderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer 2025-26.
Ar ôl ystyried y sylwadau'n ofalus, bydd y newidiadau canlynol yn cael eu gwneud:
Ailintegreiddio pentrefan Cwmdu i ddalgylch Ysgol G.G. Llangynidr
Diwygio dalgylch Ysgol Pennant i gynnwys Ddôl Cownwy
Yn ogystal, mae'r defnydd o'r gair 'dalgylch' wedi'i reoleiddio yn y meini prawf gor-alw.  
Os ydych yn dymuno gwrthwynebu'r penderfyniad ar y trefniadau derbyn ar gyfer 2025-26, yna mae'n rhaid i chi wneud hynny drwy ysgrifennu at Weinidogion Cymru o fewn chwe wythnos o gyhoeddi'r hysbysiad yma, sef 25 Ebrill 2024. Ceir gwybodaeth pellach am y broses ar dudalen 9 o'r Cod Derbyniadau Ysgolion 005/2013, neu dilynwch y ddolen hon. https://llyw.cymru/y-cod-derbyn-i-ysgolion

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys y mapiau dalgylch, a gymeradwywyd gan Gabinet y cyngor yn 2023. Mae'r mapiau hyn yn cael eu defnyddio gan y cyngor wrth ddyrannu lleoedd i ysgol sy'n cael ei gordanysgrifio. Bydd y cyngor hefyd yn defnyddio'r mapiau hyn wrth ystyried ceisiadau o dan y polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol.

Dalgylchoedd cynradd: Mae'r mapiau dalgylch yn seiliedig ar yr ysgol gynradd agosaf gyda rhai addasiadau yn cael eu gwneud i adlewyrchu amgylchiadau lleol fel mynyddoedd neu afonydd.

Dalgylchoedd uwchradd: Mae dalgylchoedd uwchradd yn seiliedig ar ddalgylchoedd cyfunol grŵp o ysgolion cynradd.

Mapiau Dalgylch

Gallwch weld a gwneud sylwadau ar y mapiau dalgylch isod