Toglo gwelededd dewislen symudol

Rolau swyddi ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion

Os hoffech wneud gwahaniaeth i unigolion ym Mhowys, efallai mai rôl ym maes Gofal Cymdeithasol i Oedolion yw'r yrfa iawn i chi.

Dyma rai o'r gwahanol fathau o feysydd arbenigedd cymwysedig ac anghymwysedig a allai fod o ddiddordeb i chi:

CYMORTH (Ein drws ffrynt)

CYMORTH yw'r gwasanaeth drws ffrynt ar gyfer Gofal Cymdeithasol Oedolion ac mae'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i unigolion a gweithwyr proffesiynol..

Mae ein Swyddogion Cyswllt yn cynnal sgyrsiau "beth sy'n bwysig" gydag unigolion i ddeall eu rhesymau dros alw a'r canlyniadau y maent yn awyddus i'w cyflawni. Byddant yn darparu gwybodaeth a chyngor neu'n defnyddio gwybodaeth fanylach o'r atgyfeiriad i'w throsglwyddo i'r tîm priodol er mwyn ei gweithredu ymhellach. Bydd y swyddogion cyswllt bob amser yn ceisio datrys ymholiadau ar y pwynt cyswllt cyntaf os oes modd gwneud hynny.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Diogelu (Diogelu oedolion mewn perygl)

Ein nod yw diogelu unigolion drwy eu cadw'n ddiogel rhag niwed, camdriniaeth neu esgeulustod.

Mae gennym dîm diogelu arbenigol sy'n gwetihio ar bob agwedd ar bryderon diogelu oedolion, ar y cyd â phartneriaid mewnol ac allanol.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Uned Penodeion/Dirprwyon

Ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion, gallwn gynnig cymorth a gweithredu ar ran unigolion na allant reoli eu heiddo a'u materion ariannol eu hunain os bernir nad oes ganddynt alluedd meddyliol i reoli'r rhain eu hunain. Dim ond i'r rhai sy'n derbyn gwasanaeth statudol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion y cynigir y gwasanaeth hwn.

Os bydd unigolyn yn derbyn budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) gall yr Adran Gwaith a Phensiynau awdurdodi rhywun i weithredu ar ei ran a gelwir y person hwn yn 'Benodai'.

Dim ond rheoli budd-daliadau'r Adran Gwaith a Phensiynau a wneir trwy Benodeiaeth. Mewn achosion lle mae angen cysylltu â sefydliadau ariannol eraill, gellir gwneud cais yn y Llys Gwarchod i benodi Dirprwy ar gyfer Eiddo a Materion Ariannol a Benodir gan y Llys.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Gweithwyr Cymdeithasol a Swyddogion Cymorth Cymunedol

Mae gennym nifer o rolau gweithwyr cymdeithasol a swyddogion cymorth cymunedol sy'n rhychwantu anableddau, pobl hŷn a gwasanaethau iechyd meddwl.

Rydym yn gweithio gydag unigolion a'u teuluoedd/gofalwyr mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar sail cryfderau. Ystyr hyn yw ein bod yn nodi eu cryfderau a'u rhwydweithiau cymorth yn ogystal ag unrhyw anghenion gofal.

Ein nod yw cynorthwyo pobl i fyw eu bywydau eu hunain mor annibynnol a diogel â phosibl ac yr un pryd i gyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Gweithwyr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy (AMHP)

Mae ein AMHP yn gweithio o fewn ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol sydd wedi'u cydleoli â chydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys ac yn gweithio gydag unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Mae gofyn i bob deiliad swydd fod yn AMHP cymwysedig a dilyn y broses ail-achredu yn rheolaidd. Mae ein AMHP yn gweithio mewn rota i fodloni gofynion statudol y Cyngor mewn perthynas ag Asesiadau'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Therapyddion Galwedigaethol

Mae ein timau therapi galwedigaethol yn cefnogi unigolion i aros mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.

Bydd unigolion yn derbyn cyngor a chymorth ar ddefnyddio technegau gwahanol i barhau i fyw'n annibynnol. Gall y tîm hefyd drefnu i offer gael ei ddarparu neu wneud addasiadau i wneud bywyd pob dydd yn haws ac yn fwy diogel i unigolion.

Mae'r tîm Therapi Galwedigaethol yn gweithio mewn partneriaeth â'n timau gweithredu, darparu a chomisiynu yn ogystal â chydweithwyr ym meysydd tai, iechyd a'r sector preifat / gwirfoddol.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Gwasanaethau Darparwyr - Ailalluogi a Gofal yn y Cartref

Mae Powys yn sir wledig iawn ac ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru, rydym yn awyddus i bob oedolyn gael y dewis i allu aros yn ddiogel yn ei gartref ei hun gan gynnal ei annibyniaeth.

Mae ein timau Ail-alluogi yn gweithio gydag unigolion, ar sail tymor byr i'w cynorthwyo i gadw neu adennill eu hannibyniaeth ar adegau o newid a phontio; mae hyn yn hybu iechyd, lles, annibyniaeth, urddas a chynhwysiant cymdeithasol.

Mae ein gofalwyr yn y cartref yn gweithio allan yn y gymuned yng nghartrefi unigolion, lle mae angen gofal wedi'i asesu.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Cymorth Cartref

Mae ein Timau Cymorth Cartref (Home Support) yn darparu gwasanaeth cymorth ac atal cynnar i unigolion (50+) sy'n galluogi ac yn darparu'r gefnogaeth a'r cymorth ymarferol a allai fod ei angen arnynt yn eu bywyd pob dydd i fyw gartref yn hyderus, mewn iechyd da, yn annibynnol ac yn ddiogel.

Drwy gynorthwyo a darparu'r cymorth cywir, gall unigolion gael gafael ar y cymorth hwn a'r cymorth arbenigol pan fydd ei angen arnynt ac thrwy wneud hynny rydym yn:

  • Darparu cymorth hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac mae'r cymorth hwn yn ymateb i anghenion unigol
  • Helpu unigolion i helpu eu hunain
  • Darparu cymorth pan fydd ei angen ar unigolion
  • Darparu cymorth arbenigol

Nid yw mynediad yn seiliedig ar brawf modd nac yn dibynnu ar feini prawf cynhwysiant/gwahardd. Unwaith y bydd unigolyn yn dod yn aelod o Gymorth Cartref gall fynd i mewn ac allan o'r gwasanaeth yn unol â'i anghenion heb orfod cael ei ailgyfeirio.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Cyfleoedd Dydd

Ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion mae gennym nifer o swyddi sy'n cefnogi unigolion sy'n mynychu canolfannau dydd neu wasanaethau dydd.

Mae ein cyfleoedd yn ystod y dydd yn caniatáu i bobl ddod at ei gilydd mewn lle diogel a derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt i ddysgu sgiliau newydd efallai ac i lawer mae hefyd yn gyfle i ddal i fyny â hen ffrindiau. Pan fydd unigolion yn mynychu cyfleoedd dydd, gall hyn hefyd roi seibiant i'w gofalwr.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Rhannu Bywydau

Gofalwyr Rhannu Bywydau yn agor eu cartref eu hunain i gefnogi eraill fel pobl ifanc sy'n symud wrth iddynt ddod yn oedolion neu unigolion sy'n byw gydag anabledd gydol oes.

Ein nod yw darparu'r cymorth sydd ei angen ar unigolion i'w galluogi i fyw'n ddiogel ac mor annibynnol â phosibl gyda chymorth rhwydwaith teuluol a chymunedol. Mae Rhannu Bywydau yn seiliedig ar ddiddordebau a ffyrdd o fyw a rennir ac mae'n ddewis amgen i byw â chymorth neu ofal preswyl.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Tîm Dyletswydd Argyfwng

Mae ein Tîm Dyletswydd mewn Argyfwng yn delio â sefyllfaoedd brys y tu allan i oriau nad yw'n ddiogel eu gadael tan y diwrnod gwaith nesaf.

Mae ein tîm yn gweithio ar sail rota ac yn darparu gwasanaeth generig ar gyfer y sir gyfan ar sail rota; mae'r tîm yn gweithio ar draws disgyblaethau'r Gwasanaethau i Oedolion a'r Gwasanaethau Plant.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Tîm Gweinyddu

Mae ein Goruchwylwyr a'n Gweinyddwyr yn darparu cymorth effeithlon ac effeithiol i'n timau Gofal Cymdeithasol i Oedolion er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gefnogi unigolion i gyflawni'r hyn sy'n bwysig iddynt.

Mae'r gwaith yn eang, gyda'n Gweinyddwyr yn arwain gyda thasgau gweinyddol pur fel cymryd cofnodion, a chefnogi'r agenda ddiogelu neu brosesu trafodion ariannol.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Prentisiaethau

Ym maes Gofal Cymdeithasol Oedolion rydym wedi ymrwymo i ddarparu cyfleoedd ar gyfer prentisiaethau.

Gweld y swyddi sydd ar gael

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu