Toglo gwelededd dewislen symudol

Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2022/2023

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnig cyllid i gefnogi busnesau cymwys ym Mhowys gyda Chynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2023.

Mae'r cynllun trosiannol hwn nawr ar gau

Bydd y cynllun yn cynnig disgownt o 50% i fusnesau cymwys ar fil trethi busnes eiddo.  Bydd y cynllun yn berthnasol i drethdalwyr cymwys sydd â gwerth ardrethol o £110,000 neu lai.

Rhaid i'r busnesau hyn fod yn y sectorau manwerthu, hamdden, lletygarwch neu dwristiaeth, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, mannau perfformio a gwestai.

I fod yn gymwys am y gostyngiad hwn:

  • Rhaid i'r eiddo busnes fod yn cael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfangwbl ar gyfer y dibenion cymwys.
  • Dylai'r prif fasnach fod ar agor i'r cyhoedd.
  • Dylai'r eiddo fod ar agor ac yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd.

Am fanylion llawn y cynllun hwn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Trethi annomestig - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru - 2022-23 / Busnes Cymru (gov.wales)

Os oes gan eich busnes mwy nag un eiddo ar draws Cymru, yna gallwch dim ond gyflwyno cais am eich holl eiddo busnes gyda gwerth ardrethol hyd at £110,000 ar draws y cyfan.

 

Cysylltiadau

  • Ffôn: 01597 827463  (oriau agor y swyddfa 9am - 1pm Llun - Gwe)

    Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig.  Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.
  • E-bost: revenues@powys.gov.uk
  • Ysgrifennwch aton ni yn: Neuadd Sir Powys, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau