gwelededd ddewislen symudol Toggle

Pleidleisio pan fyddwch chi'n 16 ac 17

Yng Nghymru, gallwch bleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru a llywodraeth leol, y cyfeirir atynt weithiau fel etholiadau'r Cyngor Lleol, pan fyddwch yn 16.

Gallwch bleidleisio ym mhob etholiad arall pan fyddwch yn 18.

Pleidleisio fel myfyriwr

Os ydych chi'n symud i ffwrdd i astudio, fel rheol gallwch chi gofrestru i bleidleisio o'ch cyfeiriad cartref ac o'ch cyfeiriad yn ystod y tymor. Cofiwch, dim ond un waith y gallwch chi bleidleisio mewn etholiad cenedlaethol  (fel etholiad Senedd Cymru neu'r DU). Er enghraifft, os fyddwch yn pleidleisio yn etholiad Senedd DU o'ch cyfeiriad yn ystod y tymor, ni allwch bleidleisio hefyd yn etholiad Senedd y DU o'ch cyfeiriad cartref, achos byddwch wedi pleidleisio un waith yn barod mewn etholiad cenedlaethol.

Mae etholiadau llywodraeth leol (a elwir hefyd yn etholiadau Cyngor lleol) yn wahanol. Os yw eich cyfeiriad cartref mewn ardal wahanol y Cyngor i'ch cyfeiriad yn ystod y tymor, gallwch bleidleisio yn y ddau etholiad Cyngor lleol. Caiff hyn ei ganiatáu achos nid etholiadau cenedlaethol ydyn nhw, felly gallwch bleidleisio un waith yn y ddwy ardal, ar yr amod nad yr un Cyngor sydd yn y ddwy ardal, a'ch bod wedi cofrestru i bleidleisio yn y ddwy ardal.

Os ydych chi'n parhau i fod yn ansicr, cysylltwch â ni neu â'r cyngor ble mae eich cyfeiriad yn ystod y tymor wedi ei leoli, i gael cyngor.

This is permitted because they are not national elections but are separate elections, so you can vote once in both areas, provided they are not the same Council area, and you are registered to vote in both areas.

Etholiadau cyngor lleol yng Nghymru

Mae cynghorau lleol yn gofalu am bethau sy'n benodol i dy ardal leol. Gall hyn gynnwys ailgylchu, cyfleustrerau chwaraeon a hamdden, trafnidiaeth gyhoeddus, tai cymdeithasol, a gwasanaethau pobl ifanc. Mae 22 o gynghorau lleol yng Nghymru. Rwyt ti'n cael dy gynrychioli gan hyd at 4 cynghorydd leol, sy'n cael eu hethol bob 4 blynedd. Mae cynghorwyr yn treulio'u hamser yn datblygu cynlluniau at y dyfodol ar gyfer dy ardal gan benderfynu faint o arian i'w wario ar wasanaethau lleol a helpu pobl leol gyda phetau sy'n bwysig iddyn nhw. Gelli di ddarganfod rhagor am yr eholidadau rwyt ti'n gallu pleidleisio ynddyn nhw, a sut i gofrestru, fan hyn: comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Etholiadau Senedd Cymru

Mae'r Senedd wedi ei leoli ym Mae Caerdydd ac mae'n cynnwys 60 Aelod o'r Senedd, neu AS. Maen nhw'n deddfu ac yn gwneud penderfyniadau am ystod o faterion sy'n effeithio ar Gymru, gan gynnwys addysg a hyfforddiant, trafnidiaeth, treftadaeth, a gofal iechyd. Mae pob person yng Nghymru yn cael ei gynrychioli gan pump Aeold 'or Senedd, sy'n cael eu hethol bob pum mlynedd. Maen nhw'n rhannu eu hamser rhwng gweithio yng Nghaerdydd a gweithio yn eu hardal leol. Gallai gwaith aelodau gynnwys helpu'r bobl maen nhw'n eu cynrychioli, dadlau am faterion yn y Senedd, eistedd ar un o bwyllgorau'r Senedd, neu ofyn cwestiynau swyddogol i weinidogion. Gelli di ddarganfod rhagor am y etholiadau rwyt ti'n gallu pleidleisio ynddyn nhw, a sut i gofrestru, fan hyn: comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Etholiadau Senedd DU

Pan fyddi di'n 18 oed, gelli di bleidleisio yn etholiadau Senedd y DU, cyn belled â dy fod yn ddinesydd y DU, neu yr Iwerddon, neu'r Gymanwlad a hefyd â chaniatâd i aros yn y DU. Mae Senedd y DU wedi'i leoli yn Llundain, ac mae'n cynnwys Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi. Mae'r cyhoedd yn ethol y 650 o Aelodau Seneddol yn Nhŷ'r Cyffredin, ond does dim etholiadau ar gyfer Tŷ'r Arglwyddi. Mae Senedd yn DU yn gofalu am rai pethau sy'n effeithio ar Gymru, fel meterion tramor, amddiffyn, a mewnfudo. Caiff rhain eu galw'n 'faterion a gedwir yn ôl'. Mae pob person yn y DU yn cael ei gynrychioli gan un Aeolod Seneddol, neu AS. Mae 40 AS yn cynrychioli Cymru. Maen nhw'n cael eu hethol fel arfer bob pum mlynedd, neu yn gynt na hynny os yw'r Llywordraeth yn penderfynu galw etholiad cyn y pum mlynedd llawn. Mae pob AS yn cynrychioli un etholaeth. Maen nhw'n rhannu eu hamser rhwng gweithio yn Llundain, a gweithio yn yr ardal maen nhw'n ei chynrychioli. Maen nhw'n treulio'u hamser yn gwrando ar bobl leol, llunio a newid cyfreithiau, dadlau yn y Senedd, a chraffu ar gynlluniau'r Llywodraeth. Gelli di gysylltu â'r bobl sy'n dy gynrychioli di I godi materion a gofyn cwestiynau. Gelli di ddod o hyd i'w manylion nhw ar-lein. Gelli di ddarganfod rhagor am y etholiadau rwyt ti'n gallu pleidleisio ynddyn nhw, a sut i gofrestru, fan hyn: comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Beth yw'r gwahanol ffyrdd o bleidleisio?

Cyn etholiad, byddi di'n derbyn cerdyn pleidleisio. Sy'n dweud wrthyt ti ble mae dy orsaf bleidleisio. Mae gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm. Os byddi di yn y ciw erbyn 10pm, cei di bleidleisio. Pan fyddi di'n cyrraedd yr orsaf bleidleisio, rho dy enw a'th gyfeiriad i'r staff, ac fe wnân nhw roi dy bapur pleidleisio i ti. Cer â dy bapur pleidleisio i fwth pleidleisio. Cofia ymddwyn yn barchus tuag at bobl eraill fel bod pawb yn gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Bydd yna bensil yn y bwth pleidleisio, ond mae croeso i ti ddod â dy ben dy hunan, os hoffet ti. Noda bwy rwyt ti am bleidleisio drostyn nhw ar y papur, gan ddilyn y cyfarwyddiadau. Galle fod gyda thi ddau neu ragor o bapurau pleidleisio ar gyfer gwahanol ehtoliadau. Paid â phoeni os gwnei di gamgymeriad. Gofynna i aelod o'r staff ac fe wnân nhw roi dy bapur pleidleisio i ti. Cer â dy bapur pleidleisio i fwth pleidleisio. Cer â dy bapur pleidleisio i fwth pleidleisio. Cofia ymddwyn yn barchus tuag at bobl eraill fel bod pawb yn gallu pleidleisio yn gyfrinachol. Bydd yna bensil yn y bwth pleidleisio, ond mae croeso i ti ddod â dy ben dy hunan, os hoffet ti. Noda bwy rwyt ti am bleidleisio drostyn nhw ar y papur, gan ddilyn y cyfarwyddiadau. Galle fod gyda thi ddau neu ragor o bapurau pleidleisio ar gyfer gwahanol etholiadau. Paid â phoeni os gwnei di gamgymeriad. Gofynna i aelod o'r staff ac fe wnân nhw roi papur pleidleisio newydd i ti. Pan fyddi di wedi cwblhau dy ddewisiadau, rho dy bapur pleidleisio yn y blwch pleidleisio. Os wyt ti'n ansicr am unrhyw beth, neu oes oes angen cymorth arnat ti, gofynna i aelod o'r staff a byddan nhw'n hapus i egluro'r broses cyn i ti bleidleisio. Ar ddiwedd y dydd, caiff y blwch pleidleisio ei gymryd i ffwrdd er mwyn i'r pleidleisiau gael eu cyfri. Bydd dy bleidlais yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn gyfrinachol, ac ni fydd unrhyw un yn gwybod pwy gwnes ti bleidleisio drostyn nhw. A dyna fe. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Os byddi di oddi cartref ar ddiwrnod y bleidlais, neu os na elli di gyrraedd yr orsaf bleidleisio am ba bynnag rheswm. Gelli di gofrestru i bleidleisio trwy'r post. I bleidleisio trwy'r post, mae angen i ti wneud cais i'ch cyngor lleol. Gelli lawrlwytho ffuflen, neu fe elli di ofyn i un gael ei hanfon atat. Bydd rhaid i ti roi dy lofnod ar dy ffurflen gais ac eto pan fyddi di'n pleidleisio. Mae hyn er mwyn cadarnhau pwy wyt ti. Caiff pecyn pleidlais bost ei anfon atat ti cyn yr etholiad. Dilyna'r cyfarwyddiadau a rho bopeth yn ôl yn yr amlen radbost sydd eisoes gyda'r cyfeiriad arni a'i phostio at dy gyngor er mwyn iddi gael ei chyfri. Os anghofi di bostio dy pleidlais, gelli di ei gollwng mewn gorsaf bleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad. Cofia, bydd angen i dy bleidlais bost gyrraedd dy gyngor erbyn 10pm ar ddiwrnod y bleidlais os wyt ti am i dy bleidlais gael ei chyfri yn yr etholiad. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Os na elli di gyrraedd yr orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y bleidlais, gelli di ofyn i rywun rwyt ti'n yfddiried ynddyn nhw bleidleisio ar dy ran. Caiff hyn ei alw'n bleidleisio trwy ddirprwy, a chaiff y person rwyt ti'n ymddiried ynddyn nhw ei alw'n 'ddirprwy'. I bleidleisio trwy ddirprwy, bydd angen i ti wneud cais i dy gyngor. Gelli di lawrlwytho ffurflen gais, neu fe elli di ofyn i hon gael ei hanfon atat ti. Bydd rhaid i ti roi dy lofnod a dy ddyddiad geni ar dy ffurflen gais, ac eto pan fyddi di'n pleidleisio. Mae hyn er mwyn cadarnhau pwy wyt ti. Gallai hyn fod yn lle gwahanol i ble y byddan nhw'n mynd i bleidleisio. Bydd angen iddyn nhw roi dy enw di a hefyd eu henw nhw i staff yr orsaf bleidleisio, ac yna byddan nhw'n dilyn y prosesau arferol i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Os na all dy ddirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallan nhw wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais bost drwy ddirprwy. Darganfod rhagor am sut i fwrw dy bleidlais trwy comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Ffynhonnell: Y Comisiwn Etholiadol

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma