Toglo gwelededd dewislen symudol

Mynediad at y Gronfa Sefyll Mewn Etholiad

Cynllun peilot yw'r Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad a weinyddir gan Anabledd Cymru a'i hariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae'r gronfa'n bodoli i roi cymorth i bobl anabl sydd am sefyll am etholiad mewn etholiadau Cymuned a Chyngor Sir.

Beth sy'n cael ei gynnwys yn y Gronfa?

Mae arian ar gael i leihau rhwystrau y mae pobl sy'n byw gydag anableddau yn eu hwynebu wrth geisio sefyll mewn etholiad. Ymhlith enghreifftiau o gostau y gellir eu hawlio mae:

Gallwch wneud cais am gymorth â chostau ychwanegol i dalu am gefnogaeth i oresgyn rhwystrau sy'n berthnasol i nam, er mwyn eich galluogi i gyfranogi yn yr etholiad. Gallai hyn gynnwys:

  • Cymhorthion, offer a meddalwedd cynorthwyol, addasiadau i offer a hyfforddiant i'w ddefnyddio
  • Teithio o gwmpas etholaeth os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Cymorth personol
  • Gweithwyr cymorth cyfathrebu fel Iaith Arwyddion, Cyfieithwyr, Palanteipyddion a Siaradwyr gwefusau  

Mae'r cymorth ariannol sy'n cael ei ddyfarnu gan y Gronfa ar gael i dalu am gostau sy'n codi rhwng cau enwebiadau a datgan canlyniad yr etholiad. 

 

Sut i wneud cais am Fynediad at y Gronfa Sefyll Mewn Etholiad

I ddechrau, dylech ymgynghori â gwefan y Comisiwn Etholiadol i gadarnhau eich bod chi'n gymwys i sefyll yn yr etholiad. Ar ôl i chi gadarnhau eich cymhwysedd a'ch bwriad i sefyll, dylech gysylltu ag Anabledd Cymru. Bydd y ffurflen gais ar gael ar wefan Anabledd Cymru. 

 

Manylion cyswllt:

E-bost: accesstopolitics@disabilitywales.org

Ffôn: 02920 887325

Gwefan: https://www.disabilitywales.org/projects/access-to-elected-office-fund-wales/

 

Beth yw'r Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad yng Nghymru?

Caiff y Mynediad at y Gronfa Sefyll mewn etholiad ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chyflenwi drwy Anabledd Cymru. A nod y gronfa hon yw sicrhau bod pobl anabl yn cyfranogi'n wleidyddol. Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am ein cymuned, mae'n hynod o bwysig fod pawb yn y gymuned yn cael eu cynrychioli ac yn rhan o'r broses honno o wneud penderfyniad.  A phan fyddwn yn edrych ar ein gwleidyddion etholedig presennol, nid yw

hynny'n cael ei adlewyrchu ar hyn o bryd. Felly rydym ni wirioneddol am sicrhau fod pobl anabl yn gallu teimlo'u bod yn gallu dechrau ar y daith wleidyddol honno. Nid yw'n digwydd dros nos, ond mae'n rhaid i chi ddechrau yn y dechrau, ac mae angen cefnogaeth arnoch chi i wneud hynny. A dyna beth yw holl fyrdwn y Mynediad at y Gronfa Sefyll Mewn Etholiad: sef cael gwared ar rai o'r rhwystrau hynny y bydd pobl anabl yn eu hwynebu'n naturiol yn y broses wleidyddol honno. Mae'n syniad da yn fy marn i. Rwy'n meddwl y bydd yn annog rhagor o bobl anabl i wynebu'r her, pobl na fyddai wedi gwneud yn y gorffennol, gan feddwl "wel, alla'i ddim gwneud hynna, achos fyddwn i ddim yn gallu gwneud pethau ar fy mhen fy hun, byddai angen help arna'i." Ac efallai nad oes pobl ganddyn nhw i'w helpu. Mae'r Mynediad at y Gronfa Sefyll Mewn Etholiad yn fy ngalluogi i gael cynorthwyydd gyda fi i helpu. Mae'r pethau allwn i ddim eu gwneud heb yr help hwnnw yn enfawr. Felly dyna un enghraifft o ble gall y Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad wirioneddol ein helpu ni fel pobl anabl i gyfranogi mewn ymgysylltiad gwleidyddol. Gallwn ymgyrchu, gallwn ymgysylltu, a cheisio perswadio pobl i bleidleisio drosom ni.

Gwnes i sefyll dros y Senedd. Ac roedd...roedd yn beth enfawr. Ceisio mynd allan at ryw 60 mil o bobl. Yna sylweddolais beth oedd cost popeth a bod y gronfa hon yna ar gyfer hyn i fy helpu i dalu am yr help. Byddwn i'n bendant, bendant yn annog pobl i ymgeisio amdani am ei bod yn gronfa newydd ac yn enwedig am ei bod yn gronfa newydd a fydd yn dangos i Lywodraeth Cymru yr holl angen sydd yna am y gronfa honno i annog rhagor o bobl sydd ag anghenion gwahanol i wneud cais a sefyll mewn etholiadau.

Rwy'n credu ei fod yn bwysig fod pobl anabl yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth a phopeth achos mae ganddyn nhw bersbectif gwahanol ar fywyd, a dim ond nhw all ryw esbonio sut beth yw bod â nam ar eich golwg, bod mewn cadair olwyn, bod â nam ar eich clyw. Ac felly, allwch chi ddim cael profiad ohono oni bai ei fod yn rhan o'ch bywyd. Felly mae'n hawdd tybio sut beth yw e a gosod pethau yn eu lle yr ydych chi'n meddwl fyddai'n fanteisiol, ond hanner yr amser dyw e ddim.

Felly er mwyn cael mynediad at y Gronfa, byddai ymgeisydd anabl yn cwblhau cais, sy'n broses uniongyrchol iawn, a dwi'n gwybod fod ffurflenni'n dal pobl yn ôl weithiau, ond, mae yna gefnogaeth ar gael i gwblhau'r ffurflen. Felly peidiwch â gadael i hynny eich atal chi os oes diddordeb gyda chi. Mae'r panel yn cynnwys pobl sydd ag anableddau neu sydd a...chi'n gwybod, maen nhw wedi bod ar daith, y daith honno, nhw yw'r bobl iawn i fod yno achos byddan nhw'n deall, a byddan nhw'n gwybod eich bod chi'n gofyn am, a beth sydd ei angen arnoch.

Mae yna lawer y gellir ei wneud dros bobl anabl pan maen nhw'n cael cefnogaeth dda a phan fo ganddynt yr holl ofynion hygyrch sydd eu hangen arnynt. Gall pobl wneud llawer a chael gwrandawiad i'w llais. Gall pobl wirioneddol gynrychioli rhan anferthol o'r gymuned. Does dim byd gwaeth na gwrando ar gynghorydd yn clebran ymlaen am rywbeth nad yw'n gwybod amdano. Ond gyda pherson anabl, sy'n siarad am y pethau sy'n effeithio ar ei fywyd, mae e'n gwybod am beth mae'n sôn. Rhaid i chi wneud i gynifer o bobl ag y gallwch chi, fod yn ymwybodol nid yn unig o'ch sefyllfa bersonol, ond o eraill sydd fel chi, ac yn waeth na chi. Dyna'r unig ffordd o...Dyna'r unig ffordd o newid pethau. Ac mae angen i bawb fod yn ymwybodol fod angen rhoi gwrandawiad i'w llais. Ac os allwn ni gael y syniadau hynny, a'r sylwadau hynny oddi wrth bobl sydd â phrofiad bywyd o anabledd ar bob lefel, yna mae'n mynd i wneud Cymru'n lle gwell i bobl anabl fyw ynddi.

Iaith Arwyddion Prydain

Beth yw'r Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad yng Nghymru?

Nod Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad yng Nghymru yw cael gwared ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth geisio sefyll mewn etholiad, drwy ddarparu cymorth tuag at gost addasiadau rhesymol a chefnogaeth. Caiff y gronfa ei gweinyddu gan Anabledd Cymru gydag arian oddi wrth Lywodraeth Cymru. Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Gronfa ar gyfer  Etholiad Senedd Cymru yn 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo sicrhau fod y Gronfa ar gael i ymgeiswyr anabl sy'n sefyll yn Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais i'r Gronfa? Rydych chi'n gymwys i wneud cais i'r Gronfa os ydych chi'n berson anabl sydd am sefyll yn Etholiadau Llywodraeth Leol Cymru 2022, a bod angen help arnoch ar gyfer yr addasiadau rhesymol i oresgyn rhwystrau sy'n gysylltiedig ag anabledd y byddai fel arall yn eich atal rhag sefyll. Rydych yn gymwys p'un a ydych chi'n bwriadu sefyll ar gyfer Awdurdod Lleol, fel Bwrdeistref, Dinas neu Gyngor Sir, neu eich cyngor cymuned neu gyngor dref. Gallwch wneud cais p'un a ydych chi'n sefyll dros blaid wleidyddol neu yn annibynnol.

Pa gostau allwch eu hawlio?

Ymhlith y costau y gallwch eu hawlio'n ôl o'r gronfa mae pethau fel cymhorthion, offer a meddalwedd cynorthwyol, addasiadau i offer a hyfforddiant i'w ddefnyddio, teithio o gwmpas yr etholaeth os na allwch chi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Cynorthwywyr personol, gweithwyr cefnogi cyfathrebu, fel Iaith Arwyddion, cyfieithwyr, palanteipyddion, a siaradwyr gwefus. Ni all y Gronfa eich cynorthwyo â chostau arferol ymgyrchu y byddai ymgeisydd nad yw'n anabl yn eu talu.

Dyma rai enghreifftiau o gostau y gallech eu cymhwyso i'r gronfa ar gyfer eich helpu.

Mae gan Dyfrig nam difrifol ar ei olwg, ac mae'n cael trafferth gweld ei ffordd o gwmpas y rhwystrau sydd yn y ffordd pan fydd yn dosbarthu taflenni ac ymgyrchu o dŷ i dŷ yn ei ward. Mae modd iddo wneud cais i'r gronfa am gymorth ariannol i dalu am gynorthwyydd personol i gadw cwmni iddo pan fydd yn canfasio a dosbarthu taflenni.

Mae Bethan mewn cadair olwyn ac yn wynebu rhwystrau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i fynd o gwmpas ei ward i ganfasio a mynychu hustyngau gwleidyddol. Gall hi wneud cais i'r gronfa i dalu am gostau ychwanegol defnyddio tacsis.

Mae dyslecsia gan Habib ac mae'n cael trafferth darllen ac ymateb i e-byst oddi wrth bleidleiswyr. Mae modd iddo wneud cais i'r gronfa ar gyfer technoleg cynorthwyo i ddarllen sgrin er mwyn darllen ei e-byst.

Mae gan Denisa nam ar ei chlyw ac mae'n teimlo wedi ei heithrio o hustyngau gwleidyddol achos heb gyfieithydd Iaith Arwyddion, nid yw hi'n gallu dilyn a chyfrannu at y drafodaeth. Mae modd iddi hi wneud cais i'r gronfa am gymorth gyda chostau cyfieithydd Iaith Arwyddion.

Mae'r cymorth ariannol y mae'r Gronfa yn ei ddyfarnu ar gael i dalu costau rhwng y cyfnod o gau enwebiadau hyd at y datganiad o ganlyniadau'r etholiad.

Sut ydw i'n ymgeisio? I ddechrau, dylech ymgynghori â gwefan y Comisiwn Etholiadol i gadarnhau eich bod chi'n gymwys i sefyll yn yr etholiad. Ar ôl i chi gadarnhau eich bod yn gymwys i sefyll, dylech chi edrych ar y wybodaeth a'r cais ar dudalen prosiect Mynediad at Gronfa Sefyll Mewn Etholiad yng Nghymru, ar wefan Anabledd Cymru neu e-bostio accesstopolitics@disabilitywales.org am ffurflen gais yn eich fformat dewisol.

Sut ddylech chi gwblhau'r ffurflen gais?

I wneud cais am gymorth oddi wrth y Gronfa, bydd gofyn i chi gwblhau ffurflen gais.

Gellir darparu'r ffurflen mewn fformatau hygyrch, ac maen nhw ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg. Os ydych chi'n cael trafferth cwblhau'r ffurflen eich hun, gallwn drefnu bod rhywun yn mynd drwyddo gyda chi ac yn ei gwblhau ar eich rhan. Mae'r ffurflen yn eich ysgogi i feddwl am yr addasiadau rhesymol sy'n ofynnol gennych mewn perthynas â'r pum maes canlynol.

1. Cymhorthion, offer a meddalwedd cynorthwyol.  

2. Addasiadau ar gyfer offer a hyfforddiant ar gyfer ei ddefnyddio.

3. Teithio o gwmpas yr etholaeth os na allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

4. Cynorthwywyr personol, gweithwyr cefnogi cyfathrebu fel Iaith Arwyddion, cyfieithwyr, palanteipyddion a siaradwyr gwefus.

5. Unrhyw addasiadau rhesymol eraill sydd heb eu cynnwys uchod.

Ar gyfer pob un o'r rhain, gofynnir i chi ddisgrifio'r rhwystr sy'n gysylltiedig ag anabledd yr ydych yn ei wynebu, yr addasiad rhesymol sy'n ofynnol arnoch i oresgyn y rhwystr, a sut y mae'r rhain yn berthnasol i'r gweithgareddau ymgyrchu rydych yn eu cynllunio.

Cyn cwblhau'r ffurflen gais, dylech dreulio peth amser i feddwl am gynllun eich ymgyrchu. Fyddwch chi'n canfasio o ddrws i ddrws? Mynychu hustyngau gwleidyddol? Ymgyrch cyfryngau cymdeithasol? Faint o gefnogaeth fydd eich tîm ymgyrchu yn gallu ei ddarparu, a pha addasiadau rhesymol allan nhw ei wneud ar gyfer y rhwystrau sy'n berthnasol i'ch nam.

Pa weithgareddau ymgyrchu fyddwch chi'n ymgymryd â nhw, a faint o'r gweithgaredd hwnnw ydych chi'n disgwyl ei wneud eich hun? Yna, bydd angen i chi feddwl am rwystrau sy'n berthnasol i nam, y gallech eu hwynebu yn ystod eich gweithgareddau ymgyrchu. Pa addasiadau rhesymol fyddai'n eich galluogi chi i oresgyn y rhwystrau hynny? Os ydych chi'n ansicr am hyn, cysylltwch â ni, a byddwn yn hapus i drafod a chynnig awgrymiadau. Po fwyaf o fanylion y gallwch eu darparu am y gweithgareddau ymgyrchu rydych wedi eu cynllunio, yr hawsaf a chyflymaf y byddwn yn gallu sicrhau gosod unrhyw gefnogaeth yn ei lle.

Sut gaiff penderfyniadau eu gwneud? Ar ôl derbyn eich cais, bydd Anabledd Cymru'n cyfrifo'r math a'r swm o gymorth sy'n ofynnol arnoch. Caiff hyn ei anfon mewn dogfen y byddwn yn gofyn i chi ei gymeradwyo. Caiff dogfen ddienw ei chyflwyno i'r panel wneud penderfyniadau, sy'n cynnwys aelodau â phrofiad o fyw ag anabledd ac o wneud addasiadau rhesymol.  Byddan nhw'n adolygu eich cais yn erbyn meini prawf y Gronfa. Byddwn yn eich hysbysu o'r penderfyniad, os fyddwch chi'n llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr dyfarniad a chopi o'n telerau ac amodau i'w arwyddo a'i ddychwelyd. Os fyddwch chi'n aflwyddiannus, byddwch yn derbyn adborth a bydd Anabledd Cymru'n trafod eich opsiynau.

Sut i gysylltu â ni. Gallwch gysylltu â'r gronfa drwy ffonio Anabledd Cymru ar  02920 887325, neu drwy e-bostio: accesstopolitics@disabilitywales.org

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma