Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Hysbysebion ymgyrch etholiad a gwybodaeth ddibynadwy

Sut wyt ti'n penderfynu pwy byddi di'n pleidleisio drostyn nhw?

Y peth pwysicaf i'w gofio yw fod dy bleidlais yn perthyn i ti yn unig. Ti sy'n penderfynu sut rwyt ti'n ei defnyddio. Ddylai neb roi pwysau arnat ti, dy flacmelio, neu gynnig lwgrwobr i ti er mwyn dy annog i bleidleisio mewn ffordd arbennig. Mae hynny'n groes i'r gyfraith.

Cyflwyniad i ymgyrchoedd Etholiadol

Felly, sut wyt ti'n dewis pwy rwyt ti'n pleidleisio drostyn nhw? Yn bwysicaf oll, mae dy bleidlais yn perthyn i ti yn unig. Ni ddylai unrhyw un roi pwysau arnat ti i bleidleisio mewn ffordd arbennig. Cymer amser i ymchwilio i dy ymgeiswyr, a rho sylw arbennig i'r wybodaeth o dy amgylch di, fel y gelli di wneud y penderfyniad sydd orau i ti. Gall hi deimlo fel bod gormod o wybodaeth cyn rhai etholiadau. Byddi di'n gweld llawer o hysbysebion gan bleidiau gwleidyddol i dy annog i bleidleisio drostyn nhw. Caiff hyn ei alw'n ymgyrchu. Gall ymgyrchu fod yn llawer o bethau gwahanol. Darganfod rhagor am ymgyrchu trwy Comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu

Felly, sut wyt ti'n dewis pwy rwyt ti'n pleidleisio drostyn nhw? Yn bwysicaf oll, mae dy bleidlais yn perthyn i ti yn unig. Ni ddylai unrhyw un roi pwysau arnat ti i bleidleisio mewn ffordd arbennig. Cymer amser i ymchwilio i dy ymgeiswyr, a rho sylw arbennig i'r wybodaeth o dy amgylch di, fel y gelli di wneud y penderfyniad sydd orau i ti. Gall hi deimlo fel bod gormod o wybodaeth cyn rhai etholiadau. Byddi di'n gweld llawer o hysbysebion gan bleidiau gwleidyddol i dy annog i bleidleisio drostyn nhw. Caiff hyn ei alw'n ymgyrchu. Gall ymgyrchu fod yn llawer o bethau gwahanol.

Y cyfryngau. Bydd papurau newydd yn cyhoeddi erthyglau am bolisïau pleidiau gwleidyddo yn ogystal â chyfweliadau gyda gwleidyddion yn ystod cyfnodau ymgyrchu. Mae llawer o bapurau Newydd yn cefnogi plaid wleidyddol yn gyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gallet ti weld papur newydd yn cyhoeddi mwy o straeon cadarnhaol am un blaid wleidyddol na'r gweddill. Byddwch hefyd yn gweld yr erthyglau hyn yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Hysbysebion. Mae pleidiau gwleidyddol yn prynu hysbysfyrddau mawr, dosbarthu llawer o daflenni, ac yn gosod posteri yn dy ardal. Yn y DU, nid yw pleidiau gwleidyddol yn cael hysbysebu ar y teledu. Yn hytrach, caiff y prif bleidiau gwleidyddol amser ar y teledu I gyflwyno eu polisïau i bleidleiswyr.

Caiff y rhain eu galw'n ddarllediadau etholiadol pleidiau. Gallai cefnogwyr pleidiau gwleidyddol roi posteri yn eu ffenestri. Nid yw'n anarferol gweld strydoedd cyfan yn arddangos yr arwyddion hyn. Byddi di hefyd yn gweld hysbysebion ymgyrchu ar y cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn gynnwys hysbysebion uniongyrchol oddi wrth bleidiau gwleidyddol, yn ogystal â grwpiau sy'n eu cefnogi nhw, neu hyd yn oed y rheiny sy'n eu gwrthwynebu nhw.

Siarad â'ch ymgeiswyr. Gallai ymgyrchwyr gnocio ar dy ddrws di i siarad â thi.

Canfasio. Caiff hyn ei alw'n 'ganfasio'. Mae croeso i ti ofyn cwestiynau iddyn nhw. Dyna pam maen nhw yna. Gallai ymgeiswyr hefyd gymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus gydag ymgeiswyr eraill.

Caiff y rhain eu galw'n hystingau. Ar gyfer rhai etholiadau, bydd rhai pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi dogfennau yn amlinellu eu holl bolisïau. Caiff y rhain eu galw'n faniffestos. Maen nhw'n yn lle da i ddarganfod rhagor am beth mae plaid wleidyddol yn sefyll drosto.

Gwybod beth I ymddiried ynddo a beth sy'n deg. Dylai ymgyrchoedd fod yn deg ac agored. Dylet ti wybod o ble mae gwybodaeth ymgyrchu yn dod, a dy fod yn gallu ymddiried ynddi. Mae yna derfynau i faint o arian y caiff pleidiau gwleidyddol ei wario ar ymgyrchu. Os byddan nhw'n torri'r rheolau, rhaid iddyn nhw dalu dirwyon. Mae yna reolau o ran yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ai peidio yn ystod ymgyrchu. Er enghraifft, all ymgeisydd ddim ceisio dwyn perswâd arnat ti i bleidleisio drostyn nhw trwy addo i brynu siocled i ti a phawb yn dy dref os ydyn nhw'n ennill a chaiff ymgeiswyr ddim dweud celwyddau ynghylch cymeriad ac ymddygiad ymgeisydd arall.

Newyddion ffug. Gall fod peth gwybodaeth gamarweiniol yn ystod cyfnodau ymgyrchu, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall y wybodaeth ffug hon, neu 'newyddion ffug', gael ei rhannu filoedd o weithiau heb i unrhyw un ei chwestiynu. Weithiau, byddi di'n gallu gweld yn rhwydd nad yw rhywbeth yn wir. Mae pennawd fel 'Y Prif Weinidog yn cyfaddef ei fod yn aliwn' yn debygol o seinio larwm amheuaeth. Ond yn aml nid yw e mor hawdd ei weld â hynny. Ni fydd popeth a weli di yn wir, felly'n mae'n bwysig ein bod ni'n gwirio bod gennyn ni wybodaeth sy'n ddibynadwy a chywir cyn i ni ei rhannu.

Darganfod rhagor am ymgyrchu trwy Comisiwnetholiadol.org.uk/dysgu.

Gwybod beth i ymddiried ynddo a beth sy'n deg

Gwybod beth I ymddiried ynddo a beth sy'n deg. Dylai ymgyrchoedd fod yn deg ac agored. Dylet ti wybod o ble mae gwybodaeth ymgyrchu yn dod, a dy fod yn gallu ymddiried ynddi. Mae yna derfynau i faint o arian y caiff pleidiau gwleidyddol ei wario ar ymgyrchu. Os byddan nhw'n torri'r rheolau, rhaid iddyn nhw dalu dirwyon. Mae yna reolau o ran yr hyn sy'n cael ei ganiatáu ai peidio yn ystod ymgyrchu. Er enghraifft, all ymgeisydd ddim ceisio dwyn perswâd arnat ti i bleidleisio drostyn nhw trwy addo i brynu siocled i ti a phawb yn dy dref os ydyn nhw'n ennill a chaiff ymgeiswyr ddim dweud celwyddau ynghylch cymeriad ac ymddygiad ymgeisydd arall.

Y cyfryngau ac ymgyrchoedd etholiadol

Y cyfryngau. Bydd papurau newydd yn cyhoeddi erthyglau am bolisïau pleidiau gwleidyddo yn ogystal â chyfweliadau gyda gwleidyddion yn ystod cyfnodau ymgyrchu. Mae llawer o bapurau Newydd yn cefnogi plaid wleidyddol yn gyhoeddus. Mae hyn yn golygu y gallet ti weld papur newydd yn cyhoeddi mwy o straeon cadarnhaol am un blaid wleidyddol na'r gweddill. Byddwch hefyd yn gweld yr erthyglau hyn yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol.

Newyddion ffug

Newyddion ffug. Gall fod peth gwybodaeth gamarweiniol yn ystod cyfnodau ymgyrchu, yn enwedig ar y cyfryngau cymdeithasol. Gall y wybodaeth ffug hon, neu 'newyddion ffug', gael ei rhannu filoedd o weithiau heb i unrhyw un ei chwestiynu. Weithiau, byddi di'n gallu gweld yn rhwydd nad yw rhywbeth yn wir. Mae pennawd fel 'Y Prif Weinidog yn cyfaddef ei fod yn aliwn' yn debygol o seinio larwm amheuaeth. Ond yn aml nid yw e mor hawdd ei weld â hynny. Ni fydd popeth a weli di yn wir, felly'n mae'n bwysig ein bod ni'n gwirio bod gennyn ni wybodaeth sy'n ddibynadwy a chywir cyn i ni ei rhannu.

Siarad â ymgeiswyr etholiad

Siarad â'ch ymgeiswyr. Gallai ymgyrchwyr gnocio ar dy ddrws di i siarad â thi.

Canfasio. Caiff hyn ei alw'n 'ganfasio'. Mae croeso i ti ofyn cwestiynau iddyn nhw. Dyna pam maen nhw yna. Gallai ymgeiswyr hefyd gymryd rhan mewn dadleuon cyhoeddus gydag ymgeiswyr eraill.

Caiff y rhain eu galw'n hystingau. Ar gyfer rhai etholiadau, bydd rhai pleidiau gwleidyddol yn cyhoeddi dogfennau yn amlinellu eu holl bolisïau. Caiff y rhain eu galw'n faniffestos. Maen nhw'n yn lle da i ddarganfod rhagor am beth mae plaid wleidyddol yn sefyll drosto.

Ffynhonnell : Y Comisiwn Etholiadol

Cysylltiadau

  • Ebost: electoral.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826202
  • Cyfeiriad: Gwasanaethau Corfforaethol Cyfreithiol a Democrataidd, Neuadd y Sir, Cofrestru Etholiadol, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma