Toglo gwelededd dewislen symudol

Lleoedd Lleol ar gyfer natur

Mae Partneriaeth Natur Powys wedi cael yn disgwyl cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Lleoedd Lleol i Natur (LlLliN). (Nid yw'r cyllid wedi ei gadarnhau eto).

Nod LlLliN yw creu byd natur ar garreg eich drws, gan ymgysylltu â chymunedau i greu a gwella lleoedd i fyd natur.

Mae LlLliN yn rhaglen o'r gwaelod i fyny sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol, yn enwedig ardaloedd o amddifadedd a/neu'r rhai sydd â mynediad cyfyngedig at natur.

Mae Partneriaeth Natur Powys yn cynnig cyfle i bartneriaid, sefydliadau a gwasanaethau i wneud cais am arian grant i greu lleoedd lleol ar gyfer natur mewn cymunedau.

Mae'r cyllid yn agored i grwpiau cymunedol, sefydliadau gwirfoddol, elusennau a sefydliadau trydydd sector eraill. Mae hefyd yn agored i'r bwrdd iechyd, ysgolion, yr awdurdod lleol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus. Mae prosiectau blaenorol mewn ysgolion wedi cynnwys bioamrywiaeth neu erddi bwyd ac ysgolion coedwig.

Gweler y canllawiau a'r ffurflen gais am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i wneud cais.

Ffurflen Gais Grantiau Lleoedd lleol ar gyfer natur (Word doc) [893KB]

Anfonwch eich ffurflen gais wedi'i chwblhau ac unrhyw ffotograffau neu ddogfennau cefnogol i biodiversity@powys.gov.uk.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 21 Gorffennaf 2023.