Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Flaengar Powys

Cyflwyniad i Bartneriaeth Flaengar Powys

Mae etholiadau mis Mai 2022 wedi gweld newid enfawr i gyfansoddiad Cyngor Sir Powys. Mae pob un o'r pleidiau blaengar wedi ennill seddi, sy'n dangos awydd ar ran etholaeth y sir i Gyngor Sir Powys newid cyfeiriad, diwylliant a gwerthoedd.

Roedd pleidiau gwleidyddol blaengar ym Mhowys wedi ymladd yr etholiad ar eu polisïau unigryw eu hunain, a bydd pob un ohonom yn ceisio rhoi'r polisïau hynny ar waith dros y pum mlynedd sydd i ddod. Er bod gwahaniaethau'n bodoli, rydym yn cytuno ar lawer o bethau sy'n arwain at sail gadarn ar gyfer gweinyddiaeth ar y cyd fydd yn meithrin dyfodol cryfach, tecach a gwyrddach ar gyfer ein sir.

Mae'r bartneriaeth flaengar ar gyfer Powys yn adeiladu ar yr hyn sy'n gyffredin i ni er mwyn cynnig rhaglen ar y cyd ar gyfer gweinyddiaeth newydd i Gyngor Powys.

Ein 7 prif flaenoriaeth

  • Mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, tlodi a'r argyfwng tai
  • Mynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth
  • Sicrhau'r cychwyn gorau posibl mewn bywyd ar gyfer pobl ifanc
  • Datblygu trefi a phentrefi ffyniannus
  • Cefnogi pobl sy'n agored i niwed
  • Cymunedau Cysylltiedig
  • Rhedeg Cyngor Agored a Democrataidd

Mynd i'r afael â'r Argyfwng Costau Byw, Tlodi a'r Argyfwng Tai

Mae'r argyfwng costau byw yn cael yr effaith fwyaf ar drigolion tlotaf Powys, gan amlygu'r sefyllfa anghyfartal.  Mae prisiau rhentu neu brynu'n codi tu hwnt i gyrraedd miloedd o bobl ifanc, tra bo'r henoed yn gweld effaith benodol oherwydd costau cynyddol ynni a bwyd.

Byddwn yn cynyddu cost Treth y Cyngor ar ail gartrefi, ac yn cefnogi newidiadau i ddeddfwriaeth mewn perthynas ag ail gartrefi er mwyn cael gwared ar fylchau sy'n galluogi trin gormod o ail gartrefi fel busnesau.

Byddwn yn defnyddio'r adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i adeiladu tai cymdeithasol a fforddiadwy yn y lleoliadau cywir, gan sicrhau datblygiad cynaliadwy mewn trefi a phentrefi ar draws Powys. Byddwn yn parhau i adeiladu tai Cyngor uchel eu safon ac yn manteisio ar gyfleoedd i brynu eiddo gwag er mwyn mynd i'r afael â'r angen ar gyfer cartrefi.

Byddwn yn ceisio cynyddu safonau a gwella ansawdd tai y sector preifat. Rydym yn cefnogi sefydlu Cymdeithas Tai Sector Preifat i Denantiaid.

Byddwn yn sefydlu tasglu ar dlodi plant i weithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus i leihau'r argyfwng cynyddol mewn perthynas â thlodi plant yn ein cymunedau.

Byddwn yn gweithio i ehangu rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru ym Mhowys er mwyn i fwy o blant a theuluoedd elwa o gymorth a chefnogaeth gynnar.

Byddwn yn galluogi rhaglenni sy'n defnyddio asedau'r cyngor (adeiladau, tir neu gyllid) i gynyddu mynediad ein cymunedau at ynni, bwyd neu drafnidiaeth fwy fforddiadwy.

Byddwn yn gofalu fod Cyngor Sir Powys yn derbyn statws cyflogwr Cyflog Byw i helpu sicrhau y gall ein staff fodloni'r costau byw sylfaenol.

Mynd i'r afael â'r Argyfwng yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth

Er eu bod yn arafach yn dod i'r amlwg, mae'r argyfyngau yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth yr un mor niweidiol yn yr hirdymor, o'u cymharu â'r argyfyngau tai a chostau byw. Trwy gymryd camau arwyddocaol cyn gynted â phosibl, gallwn leihau cymaint ag y gallwn yr effaith negyddol ym Mhowys ond bydd hefyd yn ei wneud yn llawer haws i gymunedau newid i ffordd o fyw mwy cynaliadwy.

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill ac yn ymgynghori â'r cyhoedd wrth ddatblygu strategaeth argyfwng yr hinsawdd ar gyfer y sir gyfan; a byddwn yn buddsoddi mewn galluogi rhoi hyn ar waith. Byddwn yn defnyddio asedau'r Cyngor i ddangos arweinyddiaeth glir o ran cyrraedd allyriadau carbon sero net ar ran Cyngor Powys erbyn 2030 ac yn gweithredu rhaglen pum mlynedd i ddatgarboneiddio cerbydau'r Cyngor.

Byddwn yn buddsoddi mewn cartrefi'r cyngor i'w gwneud yn gynhesach ac yn wyrddach, gan sicrhau fod costau ynni'n fwy fforddiadwy i'n tenantiaid.

Byddwn yn hyrwyddo safonau effeithlonrwydd ynni da ym mhob cartref, gan sicrhau fod cyngor annibynnol a diduedd ar gael i'n holl drigolion a landlordiaid er mwyn ôl-osod eu cartrefi.

Byddwn yn defnyddio asedau'r Cyngor i hyrwyddo cynlluniau ynni sy'n eiddo i'r gymuned, i ôl-osod adeiladau er mwyn defnyddio cyn lleied â phosibl o ynni a manteisio i'r eithaf ar y gallu i greu ynni.

Byddwn yn datgarboneiddio ein cadwyn cyflenwi wrth inni gaffael ar nwyddau a gwasanaethau.

Byddwn yn sicrhau fod gan staff y Cyngor a Chynghorwyr yr adnoddau i allu gweithio o'u cartrefi neu o gymdogaeth leol, ble bynnag fo'n bosibl, gan leihau'r amser sy'n cael ei dreulio ar deithio ac allyriadau cerbydau.

Byddwn yn sicrhau y caiff tirddaliadaethau Cyngor Powys eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy i hyrwyddo bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd trwy ddefnyddio dulliau carbon isel, dal carbon a rheolaeth dalgylch dŵr.

Mae cyflwr ein prif afonydd yn dirywio oherwydd llygredd. Byddwn yn pwyso am roi diwedd ar adael i garthion heb eu trin mynd i'n hafonydd, a sicrhau y caiff gwastraff amaethyddol a diwydiannol ei reoleiddio mewn ffordd briodol; a byddwn yn cefnogi tenantiaid ein ffermydd sirol i ddatblygu cyfleusterau storio gwastraff a gwrtaith/slyri priodol.

Byddwn yn sicrhau fod adolygiad o Gynllun Datblygu'r Cyngor yn ystyried yn llawn yr argyfyngau yn yr hinsawdd ac ecoleg, wrth benderfynu ar bolisïau cynllunio.

Wrth benderfynu ceisiadau cynllunio, byddwn yn cymryd camau i alluogi'r effaith gronnus ar yr amgylchedd o ran gorgrynodiad unrhyw fath penodol o ddatblygiad fel ystyriaeth ddilys.

Byddwn yn hyrwyddo ein sir fel sir arweiniol mewn twristiaeth gynaliadwy.  Mae Powys yn cynnig llefydd i ymweld â nhw a mwynhau gwyliau, ac ar yr un pryd gwneud cyn lleied â phosibl o niwed i'r amgylchedd.

Byddwn yn ymchwilio i ddulliau 'torri a chasglu' wrth reoli lleiniau'r ffyrdd er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.

Mae gan ein tirwedd botensial enfawr o ran cefnogi bywyd gwyllt a dal carbon, a hynny oll mewn economi rheoli tir bywiog. Byddwn yn rhoi cefnogaeth rhagweithiol i bartneriaethau a rhaglenni i gynyddu coetiroedd, gyda'r coed priodol mewn lleoliadau priodol, megis tir anghynhyrchiol ar y dirwedd amaethyddol.  A byddwn yn cefnogi prosiectau sy'n rheoli ein pridd a'n dyfrffosydd er mwyn lleihau llifogydd a chynyddu'r gallu i ddal carbon.

Byddwn yn sicrhau y caiff llythrennedd yr hinsawdd ei hyrwyddo o fewn ein cymunedau, a sefydliadau partner, ac y caiff llythrennedd yr hinsawdd ei ymwreiddio'n well ymhlith Cynghorwyr a staff y Cyngor.

Y cychwyn gorau mewn bywyd

Rydym yn wynebu treigl demograffeg o bobl ifanc yn symud i ffwrdd o Bowys, ac yn enwedig o'r cymunedau mwyaf gwledig. Mae angen inni sicrhau, trwy'r holl wasanaethau a ddarperir gan Gyngor Powys, a thrwy ein partneriaethau gydag eraill, y gallwn sicrhau addysg, hyfforddiant, swyddi a chartrefi fforddiadwy angenrheidiol er mwyn i'n bobl ifanc aros yn ein cymunedau gwledig.

Byddwn yn adolygu'r rhaglen ad-drefnu ysgolion, ac yn sefydlu model newydd o ran trefniadaeth ysgolion cynradd ac uwchradd, sy'n darparu dyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer ein hysgolion a'n cymunedau.

Mae staff a disgyblion ysgolion yn bwysicach nag adeiladau ysgolion. Byddwn yn cynnal dadansoddiad costau/buddion er mwyn sicrhau y gellir cyfiawnhau'n llwyr y costau sylweddol sydd ynghlwm wrth bob adeilad newydd, ar adeg pan mae costau adeiladu a chyfraddau llog yn cynyddu, a byddwn yn cychwyn archwiliad llawn er mwyn deall sut yr oedd costau adeiladu prosiectau a orffennwyd yn ddiweddar wedi cynyddu cymaint.

Mae gormod o bobl ifanc yn gadael y sir i dderbyn addysg ôl-16. Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth agos gyda'r sectorau Addysg Bellach ac Addysg Uwch a darparwyr dysgu yn y gweithle i fanteisio i'r eithaf ar ddefnyddio technoleg newydd i sicrhau bod mwy o gyfleoedd ar gyfer addysg ôl-16 a hyfforddiant ar gael heb fod angen i bobl ifanc deithio tu allan i'r sir.

Gall y Gwasanaethau Ieuenctid wneud llawer iawn i gefnogi pobl ifanc mewn ardaloedd lle mae diffyg cyfleusterau i bobl ifanc. Mae angen i bobl ifanc allu mynd i leoliadau er mwyn gallu cwrdd yn ddiogel ac mewn awyrgylch cyfforddus. Byddwn yn ail-fuddsoddi yng ngwasanaeth ieuenctid y sir ac yn cefnogi eraill sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Byddwn yn parhau i annog defnydd o'r Gymraeg ym Mhowys, trwy gynyddu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn ysgolion, i annog cyfleoedd pellach i ddefnyddio a dysgu'r iaith mewn unrhyw agwedd ar fywyd.

Datblygu trefi a phentrefi ffyniannus

Sir o drefi bach yw Powys, sy'n cynnig ffocws ar gyfer gwasanaethau i gymunedau gwledig ehangach.  Busnesau sy'n eiddo i ac yn cael eu rhedeg gan bobl leol sydd wrth galon ein trefi a phentrefi ffyniannus, sy'n cyfrannu at economi gylchol er mwyn creu swyddi lleol a chynaliadwy.

Byddwn yn gweithio gyda'r Cynghorau Tref a fforymau masnach lleol a phobl leol i gynhyrchu cynlluniau lle sy'n cynnig gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol ein trefi, i hysbysu penderfyniadau cynllunio ac i ddenu buddsoddiad i'n trefi.

Byddwn yn adolygu polisïau parcio Cyngor Powys er mwyn darparu cyfleoedd i redeg ymgyrchoedd hyrwyddo parcio ar ddyddiau penodol er mwyn denu mwy o siopwyr ac ymwelwyr i'n trefi.

Byddwn yn datblygu strategaeth ganol trefi yn gyntaf i helpu sicrhau fod strydoedd mawr Powys yn ffynnu. Byddwn yn defnyddio'r pwerau sydd gan y Cyngor o ran mynnu fod perchnogion yn mynd i'r afael ag eiddo gwag a segur yng nghanol ein trefi er mwyn hyrwyddo adfywio canol ein trefi.

Byddwn yn cefnogi datblygu ac adfywio marchnadoedd yng nghanol y trefi fel cyrchfannau sylfaenol ein cymunedau.

Os bydd Cynghorau Tref a Chymuned yn dymuno, byddwn yn ymchwilio i ddatganoli gwasanaethau perthnasol i sicrhau eu bod yn ymateb yn well i anghenion lleol.

Byddwn yn paratoi i ddiweddaru'r cynllun datblygu economaidd ar gyfer y sir, a Bargen Twf Canolbarth Cymru i sicrhau eu bod yn ategu'r cynllun blaengar hwn, a'u bod yn gwireddu cynllun pontio hyfyw a bywiog i economi gylchol carbon isel.

Cefnogi pobl sy'n agored i niwed

Rydym yn ymwybodol o'r pwysau enfawr sy'n wynebu'r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaethau Oedolion ym Mhowys oherwydd y gofynion cynyddol yn sgil Covid a'r argyfwng costau byw, tra bo'r adnoddau dynol ac ariannol dal yn gyfyngedig.  Yn gynnar yn ystod ein gweinyddiaeth, byddwn yn hollol dryloyw ac agored am y pwysau sy'n wynebu ein gwasanaethau er mwyn gallu datblygu cynllun i recriwtio staff a sicrhau'r adnoddau eraill sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth o'r safon sy'n ddyledus i'n trigolion sydd yn agored i niwed.

Powys yw'r unig sir yng Nghymru sy'n rhannu ei ffiniau gyda Bwrdd Iechyd Lleol.  Mae angen brys i gynyddu'r ffordd o integreiddio gwasanaethau iechyd sylfaenol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, a'n cynnig yw cydweithio'n gyflym gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddatblygu dull o weithio integredig mor ddi-dor â phosibl rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Ni ddylai seilos fodoli sy'n creu rhwystrau diangen rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn ymestyn cysyniad yr hwb iechyd, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn Y Drenewydd, i ddod â Meddygfeydd, gwasanaethau lleol y GIG a gofal cymdeithasol ynghyd dan un tô ym mhob un o drefi mawr Powys.

Mae canolfannau dydd a chyfleoedd dydd yn wasanaeth pwysig i lawer o bobl.  Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i gydgynhyrchu cynigion i ddychwelyd i ddarparu canolfannau dydd a chyfleoedd dydd ar lefel estynedig, lle gellir darparu cyfleusterau priodol, modern ac addas i'w pwrpas.

Byddwn yn gweithio i sicrhau cynlluniau cymunedol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a delio cyffuriau. Mae camddefnyddio sylweddau'n achosi niwed i iechyd ac yn cynyddu ofn ac ansicrwydd mewn llawer o'n cymunedau, felly byddwn yn cydweithio gyda'r Heddlu, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau cefnogi lleol gwell, gyda dull o weithio a seilir ar iechyd i gefnogi pobl sy'n defnyddio cyffuriau, tra'n cefnogi asiantaethau sy'n gorfodi'r gyfraith i fynd i'r afael â phobl sy'n delio cyffuriau ac unigolion sy'n rhedeg llinellau cyffuriau sy'n ecsbloetio defnyddwyr.

Cymunedau cysylltiedig

Ym Mhowys mae angen system drafnidiaeth a chyfathrebu cydgysylltiedig, cynaliadwy a fforddiadwy, sy'n cysylltu pobl a chymunedau yn y ffordd gywir.

Byddwn yn cydlynu gyda darparwyr cludiant eraill i sicrhau ein bod yn cynnig gwasanaethau cydgysylltiedig sy'n galluogi cyfnewidfeydd corfforol rhwydd ac amserlenni cydgysylltiedig.

Byddwn yn adolygu strategaethau caffael y Cyngor i sicrhau fod cludiant cymunedol, fel y cynllun sy'n cael ei redeg gan PAVO, yn derbyn triniaeth deg, a phwyso ar gyfer llais cryf ar ran teithwyr wrth gyflenwi gwasanaethau.

Byddwn yn buddsoddi yn y rhwydwaith Teithio Llesol i ddarparu dewisiadau amgen diogel i deithio mewn cerbyd, ac yn gweithio i sicrhau y caiff hawliau tramwy cyhoeddus eu cynnal a'u cadw a'u harwyddbostio mewn ffordd briodol.

Rydym yn cefnogi'r ymgyrch am danwydd trafnidiaeth carbon isel, gan gynnwys cyflwyno bysiau trydan, symud nwyddau o'r ffyrdd i'r rheilffyrdd a chynlluniau ceir trydan sy'n eiddo i'r gymuned sy'n golygu y bydd y broses o bontio i gerbydau trydan yn fwy fforddiadwy.

Mae cynnal a chadw ein ffyrdd mewn ffordd briodol yn greiddiol i gysylltedd da a diogel. Byddwn yn adolygu ein rhaglen cynnal a chadw ffyrdd i gael hyd i atebion gwell o gynnal a chadw llawer o'n ffyrdd sy'n dirywio.

Mae cysylltedd band eang yn hanfodol i alluogi pobl i barhau i weithio a byw mewn cymunedau gwledig. Byddwn yn annog buddsoddiad mewn band eang gwell ledled Powys.

Cyngor Democrataidd ac Agored

Byddwn yn cydweithio i newid diwylliant y Cyngor er mwyn i drigolion a chymunedau feithrin hyder eto yn ein sefydliadau democrataidd. Byddwn yn sicrhau fod trigolion a chymunedau wrth galon popeth a wnawn, ac yn gweithio er budd pennaf Powys.

Yn lle osgoi ymgysylltiad uniongyrchol gyda phobl leol, byddwn yn croesawu hynny.  Bydd Cynghorwyr y wardiau a Chynghorau Tref a Chymuned yn cael eu diweddaru'n llawn am gynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer eu hardaloedd nhw ar ddechrau'r broses, pan fydd gwybodaeth leol yn gallu arwain at benderfyniadau gwell, yn hytrach nag ôl-ystyriaeth wrth baratoi adroddiad ar gyfer y Cabinet.

Byddwn yn gwella'r ffordd y mae Cyngor Powys yn gweithio gyda Chynghorau Tref a Chymuned.  Byddwn yn sicrhau y gall pob Cyngor Tref a Chymuned, pe dymunir, gwrdd ar-lein gydag aelod o Gabinet Cyngor Powys o leiaf unwaith y flwyddyn i rannu pryderon a phroblemau.

Byddwn yn hyrwyddo cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd y Cyngor ar-lein ac yn treialu sesiwn cwestiynau ar-lein i'r cyhoedd gydag Aelodau'r Cabinet.

Yn unol â deddfwriaeth ddiweddar, byddwn yn cychwyn y broses ymgynghori cyhoeddus mewn perthynas ag a ddylai'r Cyngor gynnig cynnal yr etholiadau nesaf i Gyngor Powys yn 2027 ar sail Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy a rhoi cyfle i'r Cyngor drafod a phleidleisio ar yr opsiwn hwnnw.

Mae gan bawb ran i'w chwarae, ac nid oes gan unrhyw un fonopoli o ran syniadau da.  Byddwn yn cynnwys pob Cynghorydd yn ein cynlluniau, ac yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorwyr sydd â diddordeb ac sy'n awyddus i'n helpu i symud Powys ymlaen.

Yr heriau o'n blaenau

Mae pwysau ariannol enfawr yn wynebu'r Cyngor. Er gwaethaf ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid Llywodraeth Leol, mae setliadau San Steffan yn cael effaith enfawr ar wasanaethau Cyngor Powys.  Bydd costau ynni cynyddol, cyfraddau llog cynyddol, a chynnydd yn y galw ar ein gwasanaethau oherwydd yr argyfwng costau byw, yn arwain at bwysau enfawr ar uchelgais y weinyddiaeth newydd ar gyfer y Cyngor. Mae'r rhain yn ychwanegu at yr angen parhaus i gynnal adolygiad trylwyr o'r lefel uchel o fenthyca cyfalaf, sy'n gosod dyledion sylweddol ar genedlaethau'r dyfodol, ac yn fwyaf pwysig, yr ymrwymiadau a wnaethpwyd yn rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer y dyfodol.

Nid yw'r Cyngor yn gweithredu ar ei ben ei hun.  Mae penderfyniadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cael effaith fawr ar wasanaethau'r Cyngor. Bydd y weinyddiaeth newydd yn ceisio osgoi gorfod cynyddu baich Treth y Cyngor ar drefniadau ariannol cartrefi, fel y gwnaeth grwpiau'r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur yn y ddadl ar gyllideb derfynol yr hen weinyddiaeth. Mae'n rhaid sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen ar gyfer gwasanaethau a gyllidir yn effeithiol a'r angen i osgoi ychwanegu at y baich ar ysgwyddau trethdalwyr y cyngor sy'n wynebu argyfwng costau byw. Byddwn yn agored am hyn, a byddwn yn ymgysylltu â Chynghorwyr, trigolion a'n cymunedau mewn perthynas â chynigion ar gyfer y gyllideb. Byddwn yn adolygu rhagdybiaeth y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y weinyddiaeth ddiwethaf, sy'n cynnwys cynnydd o 5% blwyddyn ar ôl blwyddyn am y 4 blynedd nesaf.

Nid yw Cyngor Powys ar ei ben ei hun yn gallu datrys yr argyfyngau costau byw, tai, gofal a'r amgylchedd, ond hefyd nid yw'n bosibl delio gydag effaith leol yr argyfyngau hyn heb Gyngor sy'n deall yr heriau, ac sy'n barod i fynd i'r afael â nhw.

Mae angen Cyngor sy'n gallu cydweithredu a chydgynhyrchu atebion gwell, sy'n barod i sefydlu partneriaethau mewn ffordd agored gyda'i gymunedau - Cyngor sy'n gallu manteisio i'r eithaf ar fuddsoddiad mewnol cronfeydd cyhoeddus a phreifat, a gwneud mwy gyda'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael.

Gallwn gyflawni cymaint mewn partneriaeth gydag eraill. Mae'r rhaglen hon yn dibynnu ar gydweithio effeithiol rhwng pleidiau gwleidyddol ac unigolion blaengar. Bydd angen cydweithio ehangach ar gyfer ein rhaglen ni, gyda'r sawl sy'n gyfrifol am yr amrediad llawn o wasanaethau cyhoeddus ledled Powys a thu hwnt i'n ffiniau yng Nghymru a Lloegr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i gyflenwi a datblygu ein Rhaglen Flaengar uchelgeisiol ar gyfer Powys.

 

Y Cynghorydd James Gibson-Watt

Arweinydd Grŵp Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Cyngor Sir Powys

Y Cynghorydd Matthew Dorrance

Arweinydd Grŵp Llafur Cymru, Cyngor Sir Powys