Toglo gwelededd dewislen symudol

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Rhagymadrodd

Pob tair blynedd, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (PSA) a chynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol. Rhaid dangos eu bod wedi ystyried ac asesu'r materion a nodir yn Rheoliadau PSA (Cymru) 2012 ac yn y Canllawiau Statudol.

Mae chwarae'n cael ei gydnabod fel un o'r hawliau sydd gan blant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - Erthygl 31 a Sylw Cyffredinol 17.

'Mae chwarae'n ymddygiad gan blant sydd wedi'i ddewis yn rhydd, ei gyfeirio'n bersonol a'i gymell yn reddfol. Nid yw'n digwydd i ennill unrhyw nod neu wobr allanol ac mae'n rhan hanfodol ac annatod o ddatblygiad iach - nid yn unig i'r plant eu hunain ond hefyd i'r gymdeithas ble maen nhw'n byw'.

Llywodraeth Cymru "Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae" 2012

 

Yn ôl Chwarae Cymru, chwarae yw un o'r ffyrdd hawsaf a mwyaf naturiol i blant o unrhyw oed gael cymryd rhan yn y gweithgarwch corfforol sydd ei angen arnynt. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach yn rhestru chwarae fel prif ddylanwad ar ymddygiad pwysau iach mewn plant.

Yn ôl papur Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2019 'Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc', mae'r cwricwlwm newydd yn gyfle i wneud mwy o weithgarwch corfforol mewn ysgolion, gan argymell y dylai pob ysgol ehangu mynediad at gyfleusterau gweithgaredd eu hysgol i'w cymunedau lleol er mwyn annog mwy o weithgarwch corfforol y tu allan i'r diwrnod ysgol.

Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod 'fel bod gan blant ddigon o gyfle i chwarae, mae angen amser a lle arnynt i chwarae, a dylai oedolion gydnabod bod hyn yn hawl sydd gan bob plentyn fel bod ganddynt yr amser a'r lle i wneud hynny'.     

Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae, 2014

Mae'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae hwn wedi bod yn gyfle i adolygu ein gwaith a'n gweithgareddau dros y tair blynedd diwethaf ers yr asesiad blaenorol, fel rhan o'r cylch comisiynu. Mae gennym nifer fawr o bartneriaid a rhanddeiliaid ym Mhowys sy'n ymrwymedig i greu cymdeithas sy'n gyfeillgar i chwarae drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwarae a hamdden, ac i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddefnyddio'r cyfleoedd hyn.

 

Cynnwys rhanddeiliaid yn y broses o gwblhau PSA 2022

Mae'r Cyngor wedi comisiynu Tîm Iechyd a Lles Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, wedi'i arwain gan Lucy Taylor y Swyddog Datblygu Dechrau'n Dda, i wneud Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022, drwy gysylltu a thrafod â gwasanaethau a phartneriaid Cyngor Sir Powys, a sefydliadau eraill, a chyfarfod â Chwarae Cymru.

Goruchwyliwyd yr asesiad gan y swyddog cyfrifol, Jenny Ashton, y Rheolwr Strategaeth a Datblygu Gwasanaethau, Rhys Stephens, y Swyddog Datblygu Gwasanaethau, gyda'r Cyng. David Selby, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus yn cymeradwyo'r adroddiad terfynol.

Roedd y gwasanaethau, partneriaid a'r sefydliadau a gyfrannodd yn cynnwys:

  • Gweithredu dros Blant
  • Gwasanaethau Teithio Llesol
  • Deallusrwydd Busnes
  • Cymorth Busnes i Ofalwyr Plant
  • Swyddog Digonolrwydd Gofal Plant
  • Tîm Trawsnewid a Chomisiynu Gwasanaethau Plant
  • Gwasanaethau Plant
  • Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu
  • Eiddo Corfforaethol
  • Cynghorwyr
  • Credu - Gofalwyr Ifanc
  • Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabledd Cymru
  • Heddlu Dyfed Powys
  • Addysg
  • Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Dechrau'n Deg
  • Freedom Leisure
  • Ysgolion Iach / Grwpiau Cyn-Ysgol Iach
  • Gwasanaethau Priffyrdd
  • Gwasanaethau Tai
  • Impelo (Dawns Powys Dance o'r blaen)
  • Gwasanaeth Anableddau Plant Integredig
  • Bwrdd Dechrau'n Dda Iau
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Bwrdd Gwasanaethau Lleol
  • Mudiad Meithrin
  • Tîm Hamdden Awyr Agored
  • Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
  • Gwasanaethau Cynllunio
  • Rhwydweithiau Chwarae
  • Iechyd y Cyhoedd
  • Y Gwasanaeth Ysgolion
  • Chwaraeon Powys
  • Swyddog Dyfodol Cynaliadwy
  • Cynghorau Tref a Chymuned
  • Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd
  • Adran Hyfforddiant
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth
  • Teithio Ymlaen: Gwasanaeth Cynghori ac Eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr
  • Yr Urdd
  • Tîm Rhaglenni Ar y We
  • Swyddog Iaith Gymraeg
  • Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad Pobl Ifanc
  • Gwasanaethau Ieuenctid

 

 

Sut wnaethom ni hyn?

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 nid oedd yn bosib i lawer o'r gwaith ddigwydd wyneb yn wyneb, dim ond dros y ffôn ac ar-lein.  Cynhaliwyd cyfarfodydd a thrafodaethau lled-ffurfiol ar-lein â swyddogion proffesiynol arweiniol yn y meysydd polisi a restrir yn y canllawiau ar ddigonolrwydd chwarae; gwahoddwyd rhanddeiliaid a phartneriaid i gyfarfodydd ar-lein i drafod yr asesiad ac e-bostiwyd y bobl hyn i ofyn am ddiweddariad ar eu gwaith ar feini prawf perthnasol.   

Cafodd arolwg chwarae ar-lein a phapur ei anfon at blant, pobl ifanc, rhieni, lleoliadau gwaith chwarae ac ieuenctid, hamdden a darparwyr gofal plant, gweithwyr proffesiynol a chynghorau tref a chymuned.  Yn defnyddio'r arolwg, derbyniwyd adborth gan blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwarae.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu, ar-lein ac wyneb yn wyneb lle'r oedd yn bosib, â rhieni / gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a grwpiau ymylol.  Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein a thrwy Swyddog Lles a Chydraddoldeb Arweiniol Cyngor Sir Powys.  

Casglwyd gwybodaeth gan ffynonellau fel Comisiynu Plant, y Cyd-Asesiad Anghenion Strategol, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'r adrannau Addysg, Cynllunio a Hamdden.  Casglwyd data poblogaeth yn bennaf o Fanc Gwybodaeth Lles Powys.

 

Beth ddywedodd pobl

Derbyniwyd 456 o ymatebion i'r arolwg chwarae o bob rhan o'r Sir gan amrywio, wrth reswm, o ardal i ardal.  Nid oedd y cwestiynau'n orfodol felly roedd y cyfraddau ymateb yn amrywio o un cwestiwn i'r llall.  Ar y cyfan, roedd 57% o'r ymatebwyr yn cael chwarae ar ben eu hunain a 76% gyda ffrind (roedd yn bosib ticio'r ddau opsiwn).  Nid oedd 14% yn cael chwarae na chymdeithasu o gwbl; er nad yn glir, rhagdybiwn mai oherwydd y pandemig oedd hyn.

Pan ofynnwyd iddynt egluro beth oedd yn dda a beth allai fod yn well am chwarae yn eu hardal, roedd y 'da' yn tueddu i ganolbwyntio - ar wahân i bêl-droed - ar yr amgylchedd yn gyffredinol, sydd efallai'n adlewyrchu bywyd mewn Sir dra gwledig.   Ar y llaw arall, roedd 'beth allai fod yn well' yn cynnwys rhestr eithaf penodol o ddymuniadau ac yn adleisio llawer o themâu asesiadau blaenorol. 

Beth sy'n dda

Beth allai fod yn well

Digon o le

Mwy o gyfarpar, mwy o bêl-droed, mwy o goliau

Parciau

Llai o geir, traffig mwy araf

Ffrindiau

Parc sglefrio, parc dŵr, traciau beics

Coed, coedwigoedd, fforestydd

Clwb ieuenctid, mwy o weithgareddau i'r arddegau, lle dan do i gwrdd â ffrindiau

Pêl-droed (dywedodd rai bod bechgyn a phêl-droed yn gallu cymryd lle chwarae drosodd)

Mwy o bethau i blant bach a rhai dan 2 oed

Rhywle diogel

Lle glaswelltog wrth ymyl ystadau fel bod gan blant fwy o ardaloedd lleol i chwarae

Rhywle heddychlon

Bws i gyrraedd cyfleusterau

Llyn yn Llandrindod, canŵs, cychod a phydew tywod

Llai o faw cŵn

 

Ydych chi'n teimlo'n ddiogel yn chwarae neu gymdeithasu â ffrindiau?

Bob amser

42%

Fel arfer

56%

Byth

2%

Sut y mae oedolion yn teimlo amdanoch yn chwarae neu gymdeithasu â ffrindiau?

Bodlon a hapus

48%

Ocê ac olreit

43%

Rhai'n flin a ddim yn hoffi gweld plant yn chwarae / cymdeithasu

8%

Y rhan fwyaf yn flin ac yn casáu gweld plant yn chwarae / cymdeithasu

1%

 

Sut fath o ardaloedd ydych chi'n chwarae neu gymdeithasu ynddynt?

Gwych, fi'n gallu gwneud popeth fi'n hoffi gwneud

40%

Ocê, fi'n gallu gwneud rhai o'r pethau fi'n hoffi gwneud

56%

Gwael, methu gwneud dim o'r pethau fi'n hoffi gwneud

4%

 

Sut wnaeth Covid effeithio ar ble y gallech chwarae a chymdeithasu?

Wedi newid ers y pandemig

49%

Fi'n dal i gymdeithasu ym mhob man fi'n hoffi mynd iddynt

51%

 

 

Beth a ddysgwyd o'r Coronafeirws

Mae Covid-19 wedi effeithio'n ddifrifol ar holl waith y Cyngor, yn enwedig ar staff, darparwyr gwasanaeth a rhai sydd angen cymorth y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel bod angen adleoli staff o wasanaethau eraill drwy'r Cynllun Parhad Busnes, y dechreuwyd ei ddilyn ym mis Mawrth 2021.  

Roedd gwasanaethau'n gweithredu o dan orchymyn 'pwysig i fusnes' tan ddechrau Mai 2022 pan ddychwelodd bob un o'r meysydd gwaith ar wahân i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwarchod y Cyhoedd ac Adnoddau Dynol at fusnes mwy neu lai fel arfer wrth i Gymru ostwng ei lefel rhybudd.  Fodd bynnag, erbyn diwedd Awst roedd y cynllun parhad wedi'i ailgyflwyno ar ôl i'r Sir weld cynnydd siarp mewn achosion Covid-19, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, wrth i don feirws newydd ysgubo dros y wlad, ac ni fu'n bosib ailafael mewn pethau tan fis Hydref 2021. Mae hyn, ynghyd â chyfyngiadau rheolau Covid, yn anochel wedi cyfyngu ar allu rhai gwasanaethau i symud ymlaen â rhai elfennau o'r Cynllun Gweithredu, er bod llawer o'r camau wedi eu cwblhau.  

Cynhaliwyd arolwg mewn ysgolion ledled y Sir a gasglodd fod 94% o blant y Sir, dros y cyfnod clo, wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel cerdded, y celfyddydau, ioga, dawns, chwaraeon, lles a ffitrwydd Joe Wickes, naill ai'n unigol neu gyda'u teuluoedd.  Fodd bynnag, casglodd adroddiad cynhwysfawr ar Les Cymunedol ym Mhowys yn dilyn y pandemig fod plant a phobl ifanc y Sir i gyd bron yn teimlo bod y pandemig wedi cael effeithiau negyddol arnynt. Roedd hyn yn cynnwys effaith ar iechyd corfforol a meddwl, ar addysg ac ar sgiliau iaith Gymraeg.

Roedd Covid yn faen tramgwydd anferth i bob gwasanaeth, er i fentrau a ffyrdd newydd o weithio ddod allan ohono.   Er i wasanaethau gael eu hatal dros dro gyda nifer o gyfyngiadau yn eu lle, roedd yn amlwg bod chwarae wedi parhau i ddigwydd yn ystod pandemig Covid-19. Bu'n bosib darparu rhai cyfleoedd chwarae drwy lwyfannau ar-lein a chyfryngau cymdeithasol; fodd bynnag, mae dywedodd rai pobl ifanc a theuluoedd eu bod yn colli'r gwasanaeth wyneb yn wyneb a bod hyn yn well ganddynt, oherwydd bod llawer o fywyd pob dydd ond ar gael ar-lein.

 

Canfyddiadau allweddol 2019-2022 (ers asesiad 2016-2019)

Mae'r statws RAG ar gyfer Mater A wedi cael ei uwchraddio o oren i wyrdd.   

Mae'r Materion eraill i gyd yn aros ar oren sy'n dangos nad yw'r holl feini prawf ar gyfer y materion hynny wedi eu cwrdd yn llawn.  Fodd bynnag, o'r 100 o feini prawf ym Materion B-I mae'r rhan fwyaf, sef 57, yn wyrdd, neu wedi eu cwrdd yn llawn, mae 40 yn oren, wedi eu cwrdd yn rhannol, a dim ond 3 yn goch, sef heb eu cwrdd, fel yr eglurir yn y trosolwg isod.

Mater A: Poblogaeth: Dylai'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae roi trosolwg ar y data poblogaeth a demograffig a ddefnyddiwyd yn lleol i gynllunio chwarae.

Statws RAG ar gyfer Mater A

Mae data cynhwysfawr ar gael, er yn anodd cael gafael arno weithiau, felly asesir bod y meini prawf ar gyfer y mater hwn wedi eu cwrdd yn llawn, sy'n uwchraddiad, oherwydd roedd y meini prawf ond wedi eu cwrdd yn rhannol yn 2019.

Meini prawf eu cwrdd yn llawn

Wyrdd

 

 

Mater B: Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol: Dylai'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae ddarparu data am sut y bydd yr Awdurdod Lleol a'i bartneriaid yn mynd ati i gynnig cyfleoedd chwarae cynhwysol sy'n annog plant i gyfarfod a chwarae.

Statws RAG ar gyfer Mater B

Mae 6/10 o'r meini prawf yn oren, 4/10 yn wyrdd.  Nid yw hyn wedi newid ers asesiad 2019.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater C: Y lle sydd ar gael i blant gael chwarae: Mannau Agored ac Ardaloedd Chwarae Awyr Agored pwrpasol heb staff: Dylai'r Awdurdod Lleol gydnabod y gallai pob man agored yn eu hardal fod yn ardaloedd pwysig i blant gael chwarae neu fynd trwyddynt i gyrraedd ardal neu le chwarae arall.

Statws RAG ar gyfer Mater C

Mae 11/17 o'r meini prawf yn wyrdd a 6/17 yn oren.

Ar gyfer y meini prawf Mannau Agored, mae 5/6 yn wyrdd ond mae hyn yn cael ei adael i lawr gan y maen prawf ar gyfer safleoedd Tir Llwyd, sy'n oren.  Fodd bynnag, mae hyn yn uwchraddiad ers yr asesiad blaenorol.

Ar gyfer Ardaloedd Chwarae Pwrpasol Awyr Agored Di-staff, mae 6/11 yn wyrdda'r 5 arall yn oren a 2 o'r rheiny, sef datblygu safon newydd ar gyfer cyfarpar chwarae a chydnabod pwysigrwydd caeau chwarae wrth wneud penderfyniadau gwerthu, wedi eu hisraddio, ar ôl eu hasesu fel gwyrdd yn flaenorol.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater D: Chwarae dan oruchwyliaeth: Dylai'r Awdurdod Lleol geisio cynnig ystod o gyfleoedd chwarae dan oruchwyliaeth.

Statws RAG ar gyfer Mater D

Mae 11/13 o'r meini prawf yn wyrdd a 2, sef chwarae wedi'i staffio a chwarae Gwasanaeth Ieuenctid, wedi eu huwchraddio o oren ers yr asesiad blaenorol.  Dim ond 2/13 sy'n dal i fod yn oren, felly mae'r meini prawf bron i gyd wedi eu cwrdd yn llawn a'r nod fydd gwneud hyn erbyn yr asesiad nesaf.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater E: Codi tâl am chwarae:Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried pa gyfleoedd chwarae sy'n codi tâl ac i ba raddau y mae'r Awdurdod yn ystyried y taliadau hyn wrth asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae i blant o deuluoedd incwm isel yn ôl y Canllawiau Statudol.

Statws RAG ar gyfer Mater E

Mae 6/8 o'r meini prawf yn wyrdd, gyda dim ond 2/8 yn oren, er bod 1 o'r rhain sef cofnodi chwarae digost / cost isel wedi'i israddio, ar ôl ei asesu fel gwyrdd yn flaenorol.   Fel gyda Mater D, y nod fydd cwrdd â'r meini prawf hyn yn llawn erbyn yr asesiad nesaf.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater F: Mynediad at le / darpariaeth chwarae: Dylai'r Awdurdod Lleol ystyried yr holl ffactorau sy'n cyfrannu at fynediad plant at chwarae neu symud o gwmpas eu cymuned.

Statws RAG ar gyfer Mater F

Mae 13/20 o'r meini prawf yn wyrdd a 3, cynllunio i wella mynediad at gerdded a beicio, rhoi hysbys i wybodaeth sy'n cyfrannu at agweddau cymunedol positif tuag at chwarae a gweithio gyda'r cyfryngau i annog portread positif o chwarae,wedi eu huwchraddioo oren yn asesiad 2019.  Mae 6/20 yn orenac 1/20, ystyried mynediad at chwarae wrth wneud penderfyniadau trafnidiaeth, yn goch. 

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

 Oren

Mater G: Sicrhau a datblygu'r gweithlu chwarae: Dylai'r Awdurdod Lleol ddarparu gwybodaeth am strwythur sefydliadol y maes polisi sy'n gyfrifol am reoli'r agenda chwarae a'r gweithlu chwarae.

Statws RAG ar gyfer Mater G

Mae 5/11 o'r meini prawf yn wyrdd a 6/11 yn oren. Nid yw hyn wedi newid ers asesiad 2019.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater H: Ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned: Dylai'r Awdurdod Lleol ymgynghori'n eang â phlant, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill i holi eu barn am ddarpariaeth chwarae.  Dylai hefyd hyrwyddo ymgysylltu â'r gymuned ehangach i ddarparu cymunedau cyfeillgar i chwarae.

Statws RAG ar gyfer Mater H

Mae 1/2 o'r meini prawf yn wyrdd ac 1/2 yn oren.  Nid yw hyn wedi newid ychwaith ers asesiad 2019.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Mater I: Chwarae fel rhan o'r holl agendâu polisi a gweithredu perthnasol: Dylai'r Awdurdod Lleol archwilio ei holl agendâu polisi o ran eu heffaith bosib ar gyfleoedd plant i gael chwarae a gwreiddio targedau a gweithredu i wella cyfleoedd chwarae ar gyfer plant ym mhob polisi a strategaeth o'r fath.

Statws RAG ar gyfer Mater I

Mae 6/19 o'r meini prawf yn wyrdd, 11/19 yn oren a 2/19 yn goch. Eto, nid yw hyn wedi newid ychwaith ers asesiad 2019.

Meini prawf wedi eu cwrdd yn rhannol

Oren

 

Yn gryno felly, nid yw'r asesiad cyffredinol ar gyfer 8 allan o'r 9 mater wedi newid - gan aros yn oren - gyda dim ond Mater A, Crynodeb o'r Boblogaeth, wedi'i uwchraddio i wyrdd.  Roedd sgôr yr holl feini prawf ar gyfer 4 mater sef Mater B - Darparu ar gyfer Anghenion Amrywiol, Mater G - Sicrhau a Datblygu'r Gweithlu Chwarae, Mater H - Ymgysylltiad a Chyfranogiad y Gymuned, a Mater I - Chwarae fel rhan o'r Agendâu Polisi a Gweithredu, heb newid o gwbl.  

Cafodd 5 maen prawf o Fater D - Chwarae Dan Oruchwyliaeth, a Mater F - Mynediad at Le / Darpariaeth Chwarae, eu huwchraddio o oren i wyrdd, cafodd 1 maen prawf o Fater E ei israddio o wyrdd i oren, a chafodd un maes prawf o Fater C - Y Lle Sydd Ar Gael i Blant Gael Chwarae, ei uwchraddio o goch i oren a 2 eu hisraddio o wyrdd i oren.   

Rhaid gweld hyn yng nghyd-destun unigryw'r cyfnod asesu, gyda chysgod pandemig Covid-19 drosto'n drwm a'r Cynllun Parhad Busnes yn cael ei weithredu dros lawer o'r cyfnod hwn.  Fodd bynnag, fel y mae'r dystiolaeth fanwl ar gyfer pob un o'r meini prawf yn ei ddangos, gwnaed cryn waith a llawer o gynnydd gyda sawl peth.   

Arhosodd 3 maen prawf yn goch ac felly heb weithredu arnynt eto, ond rhaid gweld hyn eto mewn cyd-destun a bydd y rhain yn cael eu nodi'n glir fel blaenoriaethau dros y cyfnod nesaf.  Mae'r diffygion a gofnodwyd yn erbyn yr amrywiol feini prawf hefyd wedi ein cynorthwyo i adnabod blaenoriaethau gweithredu eraill, rhai wedi eu cario drosodd o gynllun gweithredu 2019 a heb eu gweithredu'n llawn eto oherwydd cyfyngiadau Covid.  Byddwn yn eu trafod ag ystod o bartneriaid, gwasanaethau a sefydliadau i gytuno ar gynlluniau a blaenoriaethau gweithredu ar y cyd dros y tair blynedd nesaf.  

Sut y byddwn yn datblygu a darparu'r Cynllun Gweithredu

Drwy'r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, rydym wedi adolygu ein gwaith a'n gweithgareddau dros y 3 blynedd diwethaf gan adnabod lle y mae angen mwy o waith. Fodd bynnag, nid yn unig yr effeithiodd pandemig Covid yn ddifrifol ar gynnydd, mae sicrhau a chynnal lefel y cyllid yn parhau i fod yn her sylweddol a rhaid i gyllid unwaith eto fod yn flaenoriaeth weithredu allweddol.  

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Bydd y camau gweithredu sy'n cael eu hadnabod o'r Asesiad Digonolrwydd yn cael eu trafod ag unigolion, gwasanaethau a sefydliadau i sicrhau cynnydd ar sail amlasiantaethol. Bydd gwreiddio'r gweithredu yng nghynllunio'r asiantaethau yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau sydd mewn golwg.

Pwy fydd yn arwain arno?

(mae rolau a swyddogion / cyfarwyddwyr wedi newid yn ddiweddar, felly am y tro, nes bydd diweddariad ar gael)

Yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus - Y Cyng. David Selby

Cyfarwyddwr Arweiniol yr Economi a'r Amgylchedd - Nigel Brinn

Y Grŵp Monitro Chwarae

Mae chwarae'n cael ei fonitro drwy ffrwd waith Iechyd a Lles Emosiynol y Bwrdd Dechrau'n Dda o dan Strategaeth Iechyd a Gofal y Cyngor, fydd yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun.  

Gwahoddir 45 o sefydliadau i fynychu, gan gynnwys Strategaeth a Datblygu Gwasanaethau, Comisiynu Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Ieuenctid, Troseddwyr Ifanc, Iechyd y Cyhoedd, yr Heddlu, Gwasanaeth Ysgolion, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Phenaethiaid.  Mae'r cyrff trydydd sector yn cynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, Windfall, Credu, Gweithredu dros Blant, Xenzone, Cais a Mind Canolbarth a Gogledd Powys.

Hwylusir y grŵp gan y Cyngor ac mae'n cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Victoria Ruff Cock, Gwasanaethau Plant, a Samantha Shore o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.

 

 

 

Y ffordd ymlaen

Nodir isod Gynllun Gweithredu Powys sy'n adnabod themâu blaenoriaeth y tair blynedd nesaf - wedi eu gwahanu'n gynlluniau blynyddol. Mae'r cynllun wedi'i oleuo gan dystiolaeth o'r diffygion, gyda chamau gweithredu wedi eu hadnabod ar gyfer pob maes a aseswyd i fod yn oren neu'n goch ac sydd felly angen eu gwella, a hefyd gan adborth gan wasanaethau a phartneriaid a gyfrannodd i'r Asesiad.

 

Cam Gweithredu / Blaenoriaethau

Pryd

Targedau

Cysylltiadau i Faterion

1

Partneriaid, gwasanaethau, rhanddeiliaid, sefydliadau a swyddogion dylanwadol i gydnabod pwysigrwydd chwaraeon ac ystyried hyn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.  Cyfarfodydd gwasanaeth ar-y-cyd i'w cynnal drwy'r flwyddyn.

Pob blwyddyn

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater F Mater I

2

Datblygu cydweithio, cydamcanion a chyd-ganlyniadau.

 

Pob blwyddyn

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater D

3

Adnabod a chael gafael ar grantiau / ffrydiau cyllid ychwanegol, yn enwedig ar gyfer clybiau ieuenctid a rhwydweithiau chwarae.  Ystyried clustnodi potyn bychan o gyllid blynyddol i brynu darpariaeth gwaith chwarae.

Pob blwyddyn

Rhwng y partneriaid, dod o hyd i 1-2 o ffrydiau cyllid ychwanegol pob blwyddyn

Mater D

Mater G

Mater H

4

Ystod ehangach o ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori a grwpiau ffocws, gan gynnwys yn benodol i'r boblogaeth Gymraeg eu hiaith, gan gydnabod Hawl 12 yn yr UNCRC - hawl plant i gael llais yn y pethau sy'n effeithio arnynt.

Gwella'r cylch adborth.

 

Pob blwyddyn

O leiaf un digwyddiad ymgysylltu ac ymgynghori pob blwyddyn

Mater B

Mater C

5

Adolygu ac ehangu'r ddarpariaeth chwarae a hyfforddiant gwaith chwarae.

Pob blwyddyn

Partneriaid a sefydliadau i adnabod ac ymgeisio am gyllid i gynnig mwy o hyfforddiant

Mater G

6

Parhau i hyrwyddo pwyntiau gwybodaeth (Dewis / Info Engine) a chyfleoedd i gyfeirio pobl ymlaen.

Pob blwyddyn

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater D

7

Sicrhau bod data ar gael i eraill (hyrwyddo, dosbarthu a rhannu) ac i bwrpas cynllunio.  Mapio arolygon Chwarae i'r dyfodol, gyda GIS.

Pob blwyddyn

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater A

Mater B

8

Datblygu'r broses cadw cofnodion canolog ymhellach. Corff canolog i fod yn gyfrifol am gasglu data gweithlu gan wasanaethau sy'n cael eu comisiynu a'u rheoleiddio, tebyg i'r dull newydd gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer data'r gweithlu Gofal Cymdeithasol.Awdurdodau lleol i ddarparu rhestr lawn a chywir o'r holl wasanaethau sy'n cael eu comisiynu, eu rheoleiddio a heb eu rheoleiddio ac sy'n darparu gwasanaethau gwaith chwarae a choladu a chyflwyno data gweithlu.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater E

Mater G

9

Creu cofrestr ganolog o'r holl fannau agored ac ardaloedd chwarae a'u monitro'n flynyddol i gadarnhau bod archwiliadau diogelwch wedi eu gwneud.

Blwyddyn 1

 

 

Sefydlu beth sydd ar gael ar hyn o bryd

Adnabod unrhyw ofynion ychwanegol

Datblygu cofrestri fel bo'n briodol

Mater C

10

Mwy o waith gydag ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth o chwarae a defnydd y gymuned o dir yr ysgol.Ail-edrych ar gyfathrebu ag ysgolion er mwyn gallu rhoi mwy o gymorth iddynt ar weithgareddau awyr agored, chwarae a lles plant, gan gynnwys gwybodaeth ac anogaeth i ysgolion agor eu tir ar gyfer chwarae, e.e. taflenni gwybodaeth a chymorth Chwarae Cymru.

Cynllun hirdymor i sicrhau bod ysgolion yn cydbwyso'r risg Covid yn erbyn rhoi mynediad i asiantaethau allanol.

Blwyddyn 1

Cysylltu i'r Grant Ysgolion Bro a bidiau llwyddiannus

Mater C

Mater I

11

Cefnogi ysgolion i dderbyn hyfforddiant Kerbcraft / beicio gan ystyried cyfyngiadau eu cyfleusterau.  Adolygu sut y comisiynir y rhaglenni hyn fel bo'n ofynnol gweithio gyda'r cyfleusterau sydd gan yr ysgol i'w cynnig.

Gweithio gyda Sustrans i ddatblygu gweithgareddau cerdded a beicio ar gyfer meysydd chwarae / iard yr ysgol.

Blwyddyn 1

 

 

 

 

Blwyddyn 2

Sefydlu pa ddarpariaeth sy'n bodoli'n barod

 

Gweithio gyda'r ysgolion i wella'r hyfforddiant Kerbcraft / beicio

Mater F

Mater I

12

Datblygu trefi Teithio Llesol ymhellach i gynyddu cerdded a beicio.

Ystyried a ddylai fod eithriadau i'r Canllaw Dylunio Teithio Llesol fel y gellir cymeradwyo mwy o lwybrau.  

Adolygu'r dosbarthiadau / sut y cymhwysir y canllawiau.

Blwyddyn 1

 

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater F

13

Cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol yn ystod y broses CAT i ystyried chwarae a dysgu sut i wneud asesiadau o werth chwarae ac OSA.

 

Blwyddyn 1

Cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned

Mater C

14

Gwneud mwy o ddatblygu perthynas, ymgysylltu a gweithio'n gydweithredol â Chynghorau Tref a Chymuned.  Defnyddio astudiaeth achos Llangatwg fel enghraifft i annog cymunedau i ehangu mynediad a darpariaeth i bobl anabl yn lleol.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C

Mater H

15

Fel rhan o broses adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol, diweddaru'r Asesiad Mannau Agored, cynnal asesiad Seilwaith Gwyrdd, a chryfhau'r fframwaith polisi ar hyrwyddo cerdded a beicio.

(i gynnwys ail-edrych ar safonau ac integreiddio â seilwaith gwyrdd)

Drwy'r Cynllun Datblygu Lleol, monitro ystod o ddarpariaeth awyr agored gan adnabod y bylchau i oleuo cynlluniau i ddod.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C

Mater F

Mater I

16

Darparu a defnyddio mesurau i warchod caeau chwarae ysgolion pan wneir penderfyniadau gwerthu, drwy'r Asesiad Mannau Agored a Pholisi DM3 y Cynllun Datblygu Lleol.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C

17

Yr adran dai i fynd ati'n weithredol i ddileu'r man gwan gyda datblygiadau tai sy'n caniatáu i geisiadau gael eu rhannu i leihau nifer yr unedau ac osgoi gofynion OSA.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C

18

Cynnwys anghenion chwarae ar safleoedd sipsiwn a theithwyr fel rhan o'r asesiad i ddod o ardaloedd chwarae ar safleoedd tai trefol.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater B

19

Blaenoriaethu arwyddion dwyieithog ar gyfer chwarae, gan gynnwys 'dim cŵn'.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C Mater F

20

Datblygu mwy ar gyfleoedd a darpariaeth chwarae gwyliau i grwpiau penodol, sydd ar hyn o bryd yn brin a heb gyllid digonol.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater D

21

Pwysleisio'r opsiynau sydd ar gael yn lle cyfarpar chwarae sefydlog a hyrwyddo gwybodaeth a chanllawiau Chwarae Cymru i'r holl bartneriaid ar sut i greu amgylchedd chwarae da.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater C

22

Datblygu a hyrwyddo sgiliau bywyd awyr agored a datblygu mwy ar raglenni llythrennedd corfforol.

Annog pob ysgol i weithredu Rhaglen Ysgolion Chwareus Powys a defnyddio chwarae creadigol fel cyfrwng i wella lles ac adfer o Covid.

Annog mwy o leoliadau blynyddoedd cynnar i ymuno â'r cynllun Ysgolion Iach.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater I

23

Casglu mwy o ddata i fonitro faint o chwarae awyr agored sy'n digwydd yn rheolaidd mewn ysgolion.

 

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater I

24

Cefnogi ysgolion i ddatblygu mwy o gyfleoedd tu allan i oriau ar gyfer plant Cyfnod Sylfaen.

Cefnogi ysgolion i ddatblygu mwy o glybiau a gweithgareddau amser cinio a thu allan i oriau a gweithio gyda'r Rhwydweithiau Chwarae i ddod yn Ysgolion Chwareus.

Yn dilyn cynllun peilot, cyflwyno'r cynllun cenedlaethol ar agor tiroedd ysgolion y tu allan i oriau ysgol.

 

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater I

25

Annog a hyrwyddo manteision pobl hŷn a phobl iau'n dod at ei gilydd.  Ar ôl Covid pan ganiateir hynny, ehangu'r ystod o weithgareddau chwarae rhwng gwahanol genedlaethau.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater I

26

Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol o 2020 ymlaen a'r Gwasanaethau Trafnidiaeth i gydnabod ac ystyried pwysigrwydd cynnig cyfleoedd chwarae i blant ynghyd ag adnabod ffyrdd o asesu ac ateb anghenion pob ag unrhyw grŵp, gan gynnwys grwpiau sy'n aml yn cael eu hymylu.

Ymgysylltu â'r gymuned ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Darparu mwy o ddata i ddangos tystiolaeth o'r angen.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater F

Mater I

27

Gwneud mwy o wagu biniau ar feysydd chwarae - darparu biniau baw cŵn ar wahân.

Blwyddyn 1

Trafod rhwng Gwasanaethau Powys

Mater C

28

Hyrwyddo dull risg a budd o wneud asesiadau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys i Gynghorau Tref a Chymuned.

Blwyddyn 1

I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol

Mater I

 

Am fwy o fanylion a gwybodaeth, gallwch ddarllen yr Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae llawn yn Chwarae ym Mhowys - Cyngor Sir Powys