Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Test article

Pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn pum maes parcio arall ym Mhowys

25 Gorffennaf 2022

O heddiw ymlaen (25 Gorffennaf), bydd pwyntiau gwefru cerbydau trydan ar gael mewn pum maes parcio arall Cyngor Sir Powys.

Bydd ychwanegu'r pum lleoliad arall hyn yn cynyddu rhwydwaith y cyngor ar gyfer gwefru cerbydau trydan i 13 o safleoedd, gan helpu trigolion ac ymwelwyr yn ystod y cyfnod pontio i ddefnyddio cerbydau trydan.

Gosodwyd y pwyntiau gwefru newydd drwy ddefnyddio grant o gronfa trawsnewid allyriadau isel iawn Llywodraeth Cymru.  Dyma'r mannau lle maent wedi'u lleoli:

  • Maes Parcio Stryd Beaufort, Crughywel
  • Maes Parcio Oxford Road, Y Gelli Gandryll
  • Maes Parcio Bowling Green Lane, Tref-y-clawdd
  • Maes Parcio Lon Dywyll, Rhaeadr Gwy
  • Maes Parcio Heol yr Eglwys, Ystradgynlais

Mae'r pwyntiau gwefru 'cyflym' a osodwyd ym mhob un o'r 13 lleoliad yn gallu gwefru cerbyd trydan yn llawn mewn tair i bedair awr, yn dibynnu ar y math a nifer y cerbydau sydd wedi'u plygio i mewn ar y pryd.

Dywedodd y Cynghorydd Jackie Charlton, Aelod Cabinet ar gyfer Powys Wyrddach: "Rydym yn ddigon ffodus i fod wedi cael pwyntiau gwefru trydan mewn nifer o feysydd parcio'r cyngor am dipyn o amser nawr ac rydym yn ddiolchgar i'r weinyddiaeth flaenorol am eu gwaith i sicrhau bod y cyllid ar gyfer y prosiect hwn yn cael ei ddiogelu.

"Mae'r cyfleusterau gwefru yn profi i fod yn gaffaeliad mawr i'w cael yn ein sir wledig, eang.  Gyda phum lleoliad arall wedi'u hychwanegu yn y cam cyffrous nesaf yn ein rhwydwaith arfaethedig o bwyntiau gwefru trydan ar draws Powys, bydd yn sicr yn hwb i'n heconomi dwristiaeth hefyd.

"Mae'r prosiect hwn hefyd yn gam pwysig i helpu pobl Powys a'n hymwelwyr i wneud dewisiadau ffordd o fyw mwy cynaliadwy yn ogystal â'n helpu i gyflawni ein huchelgais i leihau allyriadau carbon y cyngor i sero net erbyn 2030."

Mae'r pwyntiau gwefru ym meysydd parcio'r cyngor yn rhan o rwydwaith Gwefru'r Dragon (www.dragoncharging.co.uk).  Gellir eu defnyddio drwy ap Gwefru Dragon neu eu cardiau RFID. Mae cyfrifon talu wrth fynd i westeion hefyd ar gael.

I gael rhestr lawn o bwyntiau gwefru cerbydau trydan y cyngor, mwy o wybodaeth am sut i'w defnyddio a'r taliadau, ewch i Gwefru Cerbydau Trydan