Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Y Broses Recriwtio

The Recruitment Process

Chwilio ac ymgeisio 

Chwiliwch am eich rôl berffaith ar ein tudalen swyddi ar ein gwefan. Ar ôl i chi ddod o hyd i swydd sy'n eich gweddu chi, bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais ar-lein, mae'n syml, dilynwch y broses gam wrth gam. Ar ôl ei chyflwyno, byddwn yn anfon e-bost atoch chi i'ch hysbysu ein bod ni wedi derbyn eich cais. 

Rhestr fer a chyfweliadau

Pan fydd y swydd wag wedi cau, bydd y rheolwr recriwtio yn gwneud rhestr fer o'r ceisiadau. Os fyddwch wedi bod yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost yn eich gwahodd am gyfweliad. Felly, cadwch lygad ar ein mewnflwch!

I gefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog, mae Cyngor Sir Powys yn gweithredu cynllun cyfweliad gwarantedig ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog. Bydd cyfweliad gwarantedig yn cael ei gynnig i unigolion sydd wedi gwasanaethu yn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi ac yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y rôl fel yr amlinellir yn Manylion y Person.

Adborth / Cynnig swydd

Ar ôl y cyfweliad, bydd y rheolwr recriwtio yn cysylltu â chi i roi adborth i chi a rhoi gwybod a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus. Bydd yn cynnig y swydd i chi ar lafar yn amodol ar gyflawni gwiriadau cyn-cyflogaeth.

Os nad oeddech chi'n llwyddiannus am y rôl, gallwch wneud cais am adborth drwy e-bostio recruitment@powys.gov.uk

Gwiriadau cyn-gyflogaeth

Ar ôl cynnig y swydd i chi, bydd angen i ni gyflawni ychydig o wiriadau cyn-gyflogaeth. Efallai y bydd hyn yn swnio fel dipyn o dasg, ond mae angen i ni gael geirdaon, ac mewn rhai achosion Gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a gwiriadau meddygol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n monitro eich e-byst fel bod cyn lleied o oedi ag sy'n bosibl.

Newyddion grêt - pan fydd eich gwiriadau cyn-gyflogaeth wedi dod yn ôl, byddwch yn derbyn contract a dyddiad dechrau.

Croeso!

Edrychwn ymlaen at eich cael chi fel aelod o'r tîm.