Cyfiawnder Ieuenctid
Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) Powys yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 17 oed sydd wedi bod yn ymhel ag ymddygiad troseddol. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys staff o'r gwasanaethau cymdeithasol, addysg, yr heddlu, y gwasanaeth prawf ac iechyd. Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag asiantaethau eraill sy'n gallu helpu.
Mae'r YJS yn goruchwylio pobl ifanc a gafodd eu hatgyfeirio gan yr heddlu, neu eu dedfrydu gan y llys ieuenctid.
Byddwn yn edrych ar bob sefyllfa yn unigol a phenderfynu pa ymyrraeth sydd ei hangen. Gallai hynny gynnwys gwaith sy'n ymwneud yn benodol â'r drosedd a gyflawnodd yr unigolyn, cymorth gydag addysg, hyfforddiant a gwaith, neu help i drechu camddefnyddio sylweddau neu unrhyw broblemau iechyd.
Rydym yn gweithio gyda'r a'r Panel i helpu'r plant a'r bobl ifanc a'u teuluoedd sydd angen cymorth yn gynt.
Dioddefwyr
Mae Cyfiawnder Adferol yn ganolog i waith Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Powys. Mae hyn yn golygu bod dioddefwyr (yn bobl ifanc ac yn oedolion) y trosedd gan bobl ifanc yn gallu disgwyl gwrandawiad, a chymryd rhan os dymunant.
Byddwn yn ymgynghori â dioddefwyr trosedd ieuenctid ac yn trefnu i'r sawl a'i cyflawnodd wneud yn iawn amdano neu ddefnyddio ffurfiau eraill ar iawndal lle bo hynny'n briodol. Byddwn hefyd yn cynorthwyo'r rhieni a'r gofalwyr.
Cyngor Pwysig
Pe byddai eich plentyn yn cael ei arestio neu ei holi (ei gyfweld yn wirfoddol) mewn cysylltiad â'i ymddygiad troseddol, byddai Cyfiawnder Ieuenctid Powys yn argymell yn gryf y dylech geisio cyngor cyfreithiwr, yn hytrach na'i fod yn cael ei gyfweld heb siarad â chyfreithiwr yn gyntaf.
Cysylltiadau
Eich sylwadau am ein tudalennau