Cydymffurfiaeth Gwybodaeth Hysbysiad Preifatrwydd
Ar y dudalen hon
Caiff data personol ei gasglu a'i ddefnyddio gan Dîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth Cyngor Sir Powys, sy'n rheoli:
- Ceisiadau am wybodaeth sy'n cael eu gwneud o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004,
- Mae ceisiadau sy'n cael eu gwneud gan y sawl sy'n ymarfer ei hawl diogelu data yn cynnwys
- Cais am fynediad at ddata gan destun y data hwnnw ('SAR')
- Ceisiadau am Gywiro
- Ceisiadau am Ddileu
- Cyfyngiad ar Brosesu Ceisiadau
- Ceisiadau am Wrthwynebiad
- Ceisiadau ynghylch hawliau sy'n berthnasol i wneud penderfyniad wedi'i hawtomeiddio gan gynnwys proffilio.
- Cwynion ynghylch Diogelu Data a thor diogelwch data personol
Gallwch gysylltu ag un ai'r Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth neu Gyngor Sir Powys drwy (post/e-bost/ffôn):
Cydymffurfiaeth Gwybodaeth / Cyngor Sir Powys:
Neuadd y Sir,
Spa Road East,
Llandrindod,
Powys,
LD1 5LG
information.compliance@powys.gov.uk / customer.services@powys.gov.uk
01597 826 000
Gallwch hefyd gysylltu â Swyddog Diogelu Data Cyngor Sir Powys (SDD) drwy'r dulliau cysylltu sy'n cael eu rhestru ar gyfer y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth uchod.
Pa Wybodaeth Bersonol sy'n cael ei chaglu?
Mae'r Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth yn casglu'r wybodaeth bersonol ganlynol wrth ddelio â hawliau gwybodaeth a cheisiadau am wybodaeth:
- Enwau Llawn
- Gwybodaeth bersonol a ddefnyddiwyd i sefydlu modd o adnabod yr sawl sy'n gwneud cais (e.e., rhif pasbort ac ati)
- Dyddiad geni
- Manylion cyswllt
- Yn achos 'SAR', unrhyw wybodaeth bersonol am yr ymgeisydd sydd eisoes wedi cael ei phrosesu gan feysydd gwasanaeth penodol y Cyngor (neu bob un) y mae'r cais yn berthnasol iddo / iddynt
- Unrhyw wybodaeth berthnasol sy'n ymwneud â'r gŵyn ac a gaiff ei rhannu'n wirfoddol gan yr ymgeisydd, fel ei safbwyntiau.
Mewn cysylltiad ag archwiliad i mewn i dor diogelwch data personol neu gŵyn am ddiogelu data, dim ond y data personol sy'n ffurfio rhan o'r tor diogelwch neu gŵyn dan sylw fydd y Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth yn ei brosesu er mwyn rheoli unrhyw archwiliad priodol ac asesu a oes angen rhoi gwybod amdano ai peidio i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ('ICO').
Y Sail Gyfreithiol:
Er mwyn prosesu data personol wrth ymateb i hawliau gwybodaeth neu geisiadau am wybodaeth, tor diogelwch data personol neu gŵyn am dor diogelwch data, mae'r Cyngor yn dibynnu ar Erthygl 6 (1) (c) a 6 (1) (e) Rheoliadau'r DU GDPR - mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn cydymffurfiaeth â'r oblygiad cyfreithiol y mae Cyngor Sir Powys yn amodol iddo, ac, mae prosesu'n angenrheidiol er mwyn perfformio tasg sy'n cael ei gyflawni er budd diogelwch y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a freiniwyd i'r rheolwr.
A gaiff unrhyw Wybodaeth Bersonol ei rhannu ag unrhyw un arall?
Caiff gwybodaeth bersonol, pan fo'n briodol, ei rhannu â'r canlynol:
- Adrannau mewnol y Cyngor;
- Sefydliadau eraill a allai ddarparu cymorth wrth ymgymryd â chais, cwyn neu dor diogelu;
- Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG); ac
- Unrhyw bartïon eraill pan fo'r gyfraith yn gofyn neu'n caniatáu i ni wneud hynny, yn unig.
Cadw Gwybodaeth Bersonol.
Mae'r Tîm Cydymffurfiaeth Gwybodaeth yn cadw cofnod o'r holl geisiadau ac yn cadw gwybodaeth a amlinellwyd yn yr hysbysiad hwn am 7 mlynedd nes iddi gael ei dileu. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y tîm, pe byddai'r sawl sy'n gwneud cais (neu'r SCG) yn gwneud ymholiadau am ymateb penodol, yn gallu ymateb i'r ymholiad hwnnw, gan dystiolaethu sut gafodd archwiliad i gais, cwyn neu dor diogelu ei drin a beth oedd y canlyniad.
Gwybodaeth Bellach:
Am wybodaeth am eich hawliau fel testun data a gwybodaeth am sut i gyflwyno cwyn, ewch i weld hysbysiad preifatrwydd y Cyngor fan hyn: Diogelu Data a Phreifatrwydd