Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gostyngiad Trosiannol Ebrill 2024 - Mawrth 2025

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd y cynllun rhyddhad trosiannol hwn fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.

Bydd yn cyfyngu ar gynnydd mewn biliau NDR, o ganlyniad i'r ailbrisio ar 1 Ebrill 2023. Bydd trethdalwr cymwys yn talu 33% o'i atebolrwydd ychwanegol yn y flwyddyn gyntaf (2023-24) a 66% yn yr ail flwyddyn (2024-25), cyn cyrraedd ei atebolrwydd llawn yn y drydedd flwyddyn (2025-26). 

Ariennir y rhyddhad trosiannol yn llawn gan Lywodraeth Cymru a chaiff ei ddiffinio yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Mae'r Rheoliadau yn rhagnodi rheolau i gyfrifo'r swm a godir ar gyfer eiddo sydd â chynnydd yn ei atebolrwydd NDR o fwy na £300, o ganlyniad i'r ailbrisiad. Mae'r rhyddhad ar gael i drethdalwyr ar y rhestr leol ac ar y rhestr ganolog.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £113m dros ddwy flynedd i ariannu'r rhyddhad trosiannol hwn, gan gefnogi holl feysydd y sylfaen drethu drwy gynllun trosiannol cyson a syml.

Y cynllun rhyddhad trosiannol

Ceir rhagor o fanylion yn Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Trosiannol ar gyfer Ailbrisiad 2023 | Busnes Cymru (gov.wales)