Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Amgen Cymorth Biliau Ynni Amgen / Taliad Tanwydd Amgen

Mae'r cynllun Cyllid Amgen yn ostyngiad untro gwerth £400 nad oes angen ei ad-dalu ar gyfer aelwydydd cymwys sydd heb dderbyn y prif daliad awtomatig fel gostyngiad ar eu bil ynni, ond sy'n dal i wynebu costau ynni uwch.

Mae'r Taliad Tanwydd Amgen (Cyllid Amgen) yn ostyngiad o £200 nad oes angen ei ad-dalu i'r rheini sydd â thanwydd amgen fel olew gwresogi, biomas a nwy petroliwm hylifol (LPG) - fel prif ffynhonnell gwresogi

Mae gofyn i unigolion wneud cais am y £400 o gyllid Amgen trwy borth Gov.UK nid trwy Gyngor Sir Powys.
Bydd y cynllun ar agor ichi wneud cais rhwng 27ain Chwefror - 31ain Mai 2023
Bydd angen i gartrefi wneud cais am y Taliad Tanwydd Amgen o £200 drwy'r porth Gov.UK nid drwy Gyngor Powys.
Bydd y cynllun ar agor i chi wneud cais rhwng 6 Mawrth 2023 i 31 Mai 2023.
Os hoffech dderbyn cymorth i wneud cais, rhif llinell gymorth y cynllun yw: 0808 175 3287

Pwy sy'n gymwys ar gyfer y cynllun £400

Nod y cynllun cyllid amgen yw cynnig cymorth cyfatebol i gartrefi sydd heb dderbyn cymorth awtomatig trwy eu bil trydan, oherwydd nid oes ganddynt gontract ar gyfer cyflenwad trydan domestig.

  • Mae'n rhaid i'r cartref fod yn brif neu unig gartref a bydd gofyn ichi ddarparu tystiolaeth o hyn.
  • Mae'n rhaid ichi fyw yn y cartref dan sylw ar ddyddiad eich cais.
  • Mae'n rhaid ichi fod yn gyfrifol am dalu'r ynni a ddefnyddir yn yr aelwyd.
  • RHAID I chi BEIDIO bod eisoes yn derbyn unrhyw fath o daliadau cymorth trwy'r prif Gynllun Cymorth Biliau Ynni neu'r Cynllun hwn yn flaenorol 
  • Nid eiddo busnes yw'r aelwyd, nac unrhyw fath arall o eiddo annomestig, ac eithrio busnesau lle mae'r prif weithgaredd busnes yn golygu darparu llety preswyl hirdymor.

Pwy sy'n gymwys ar gyfer cynllun £200

I fod yn gymwys am Gronfa Amgen Taliad Tanwydd rhaid i chi fodloni'r meini prawf canlynol ar ddyddiad eich cais:

  • Yr annedd y mae cymorth yn cael ei hawlio ar ei gyfer yw'r unig neu brif gyfeiriad preswyl yr ymgeisydd.
  • Chi sy'n gyfrifol am dalu am y tanwydd(au) amgen a ddefnyddir yn yr annedd fel prif ffynhonnell gwresogi'r aelwyd.
  • Nid yw'r aelwyd wedi derbyn neu ni fydd yn derbyn yn gyfan gwbl neu'n rhannol unrhyw daliad trwy'r prif Gynllun Cymorth Biliau Ynni neu'r Cynllun hwn o'r blaen
  • Nid yw annedd y cartref yn fangre busnes na math arall o adeilad annomestig, ac yn cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion domestig, ac eithrio busnesau y mae eu prif weithgaredd busnes i ddarparu llety preswyl hirdymor (landlordiaid ac ati). Dim ond aelwydydd, ac nid y busnesau eu hunain, all wneud cais i'r Gronfa Amgen Taliad Tanwydd.

Esiamplau o Aelwydydd sydd efallai'n gymwys i dderbyn y Cyllid Amgen yma:

Nodwch fod y rhestr yn berthnasol i'r cynllun £400 a £200 er enghraifft. Ond ar gyfer y £200 mae'n rhaid i chi gael Tanwydd Amgen fel eich prif ffynhonnell wresogi.

  • Trigolion cartrefi mewn parciau
  • Tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cymdeithasol a phreifat, prydleswyr, lle mae landlord yn cyflenwi ynni trwy fesurydd masnachol
  • Trigolion cartrefi preswyl sy'n talu am eu gofal eu hunain yn rhannol neu'n gyfan gwbl  
  • Aelwydydd mewn cychod preswyl ar angorfeydd preswyl
  • Aelwydydd ar rwydwaith trydan preifat, er enghraifft, a gyflenwir gan rwydwaith gwres
  • Aelwydydd oddi ar y grid
  • Aelwydydd teithwyr ar safleoedd awdurdodedig
  • Aelwydydd sy'n byw mewn cartref ar eiddo busnes a ddefnyddir yn rhannol neu'n gyfan gwbl at ddibenion domestig
  • Aelwydydd mewn llety dros dro/â chymorth
  • Aelwydydd sy'n byw mewn eiddo a ddefnyddir yn rhannol neu'n gyfan gwbl at ddiben llety preswyl hirdymor gan gynnwys landlordiaid a chartrefi gofal
  • Eiddo preswyl yn gyfan gwbl a wasanaethir gan fesurydd masnachol ar safle masnachol ehangach lle mae'r ymgeisydd yn gallu dangos tystiolaeth fod yr aelwyd ar wahân i unrhyw eiddo busnes sy'n rhannu'r un cyflenwad.
  • Byddai ffermwyr sy'n byw mewn ffermdai domestig ar fferm yn cael eu hystyried yn gymwys, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd eraill.
  • Dylai fod aelwydydd mewn llety dros dro (neu barciau gwyliau) sy'n gyfrifol am dalu am gyfleustodau, ac sydd wedi byw yno am fwy nag 1 mis cyn gwneud cais, yn gymwys

Y Broses Ymgeisio

Mae angen ymgeisio trwy'r ddolen isod i borth Gov.Uk .

Bydd tîm llywodraeth ganolog y DU yn gweithio allan a ydych yn gymwys i dderbyn taliad ai peidio.

Wedyn bydd Cyngor Powys yn cael ei hysbysu'n uniongyrchol a ydych yn gymwys i dderbyn y cymorth grant.

Nesaf, bydd gofyn inni gyflawni gwiriadau cyn talu'r cymorth ichi. Gall hyn olygu gwiriadau cefndir ar unrhyw fas data perthnasol a dulliau eraill i gadarnhau eich cymhwysedd. Hefyd bydd gofyn inni geisio tystiolaeth gennych ar unrhyw fater nad ydym wedi llwyddo i'w wirio. Felly, hwyrach y bydd gofyn inni gysylltu â chi'n gyntaf.

Ein bwriad yw gwneud taliadau o fewn 30 diwrnod o glywed gan y llywodraeth ganolog eich bod yn gymwys. Fodd bynnag, os oes angen inni gysylltu â chi ynghylch rhywbeth, gall cymryd mwy o amser.

Sut i ymgeisio?

Ar gyfer y cynllun gwerth £400 gwnewch gais o 27 Chwefror 2023: https://www.gov.uk/apply-energy-bill-support-if-not-automatic

Noder: bydd y ddolen yn mynd â chi i wefan y llywodraeth ganolog i gyflwyno eich cais

Ar gyfer y cynllun gwerth £200 gwnewch gais o 6 Mawrth 2023: Help with your energy bills: If you use alternative fuels for heating - GOV.UK (www.gov.uk)

Noder: bydd y ddolen yn mynd â chi i wefan y llywodraeth ganolog i gyflwyno eich cais

Llinell gymorth ar gyfer ceisiadau: 0808 175 3287