Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Pwy sy'n trefnu maethu preifat?

Who arranges private fostering

Trefnir maethu preifat gan y gofalwr arfaethedig a rhieni geni'r plentyn, neu weithiau y plant hŷn eu hunain.

Nid yw awdurdodau lleol yn cymeradwyo nac yn cofrestru gofalwyr maeth preifat yn ffurfiol, ond mae'n rhaid iddynt fodloni eu hunain bod lles plant sydd, neu a fydd, yn cael eu maethu'n breifat o fewn eu hardal, neu a fydd, yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo'n foddhaol.

A yw gofalwyr maeth preifat yn cael eu talu?

Mae unrhyw drefniant ariannol yn cael ei wneud rhwng gofalwyr maeth preifat a rhieni geni. Fel gofalwr y plentyn mae'n bosibl eich bod yn gymwys i hawlio budd-daliadau penodol, e.e. budd-dal plant, ond bydd unrhyw daliadau cynnal a chadw byddwch yn eu derbyn gan rieni'r plentyn yn cael eu hystyried os byddwch yn gwneud cais am fudd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd. Bydd gwasanaethau cymdeithasol yn cynnig cyngor ynghylch budd-daliadau.

Hysbysu'r gwasanaethau cymdeithasol

Mae'r gyfraith yn dweud bod yn rhaid i unrhyw un sy'n bwriadu gwneud tefniant maethu preifat - neu sydd eisoes yn maethu plentyn yn breifat - yn hysbysu'r gwasanaethau cymdeithasol.

Sut rwy'n gwybod a yw trefniant yn bodloni'r meini prawf ar gyfer maethu preifat?

Mae angen i chi feddwl am y cwestiynau hyn:

  • Ydw i'n gofalu am blentyn nad yw'n berthynas agos?
  • Ydyn nhw'n byw gyda fi?
  • Ydy'n drefniant llawn amser?
  • Fydd yn para am 28 niwrnod neu fwy?

Os ydych wedi ateb 'yn gadarnhaol' i'r holl gwestiynau hyn, mae'n cael ei ystyried yn faethu preifat ac mae'n rhaid i chi hysbysu Cyngor Sir Powys amdano.

Pam bod rhaid i mi ddweud wrth y gwasanaethau cymdeithasol?

Mae'n bwysig bod gwasanaethau cymdeithasol yn gwybod am y trefniadau maethu preifat am sawl rheswm:

  • Mae'n rhaid iddynt fod yn hapus bod y trefniadau er budd gorau'r plentyn, e.e. bod y cartref maethu preifat yn ddiogel a bod holl aelodau'r cartref yn addas i ofalu am y plentyn. Bydd Gwiriadau Manylach y Swyddfa Cofnodion Troseddol yn cael eu cynnal ar bob aelod o'r cartref dros 16 oed.
  • Byddant yn rhoi cymaint o gymorth a chyngor i'r gofalwr maeth preifat ag sydd ei angen arnynt.