Swyddi ar Lwybr Graddfa
Os ydych mewn Swydd ar Lwybr Graddfa bydd dal angen i chi wneud hyfforddiant achrededig sy'n gysylltiedig â'ch rôl ond mae'n bosibl y bydd Cyngor Sir Powys yn trefnu'r hyfforddiant yn fewnol.
Mewn swyddi ar Lwybr Graddfa bydd gweithwyr yn cael eu talu rhwng 70%-90% o'r cyflog y bydden nhw'n ei dderbyn pe baen nhw'n gwbl gymwys, yn dibynnu ar hyd yr hyfforddiant dan sylw. Ar ôl cymhwyso, bydd gweithwyr yn cael eu talu ar raddfa sy'n cyfateb i staff sydd wedi cymhwyso'n llawn.
Dylai'r llwybr hwn arwain at swyddi parhaol oni nodir yn wahanol.
Gwneud cais i ymuno â'r Gronfa Talent Prentisiaethau Ffurflen gais cronfa talent prentisiaethau