Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2023 / 2024

Mae'r cynllun trosiannol hwn nawr ar gau

Cyflwyniad

Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu drwy gynnig 75% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na'r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol.

Pa eiddo fydd yn gymwys ar gyfer y rhyddhad?

Bydd rhyddhad yn cael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad yn ei fil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

I fod yn gymwys am y gostyngiad hwn:

  • rhaid i'r eiddo busnes fod yn cael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfangwbl ar gyfer y dibenion cymwys.
  • dylai'r brif fasnach fod ar agor i'r cyhoedd.
  • dylai'r eiddo fod ar agor ac yn hygyrch i aelodau'r cyhoedd.

Rhagor o fanlyon

Am fanylion llawn y cynllun hwn, ewch i wefan Llywodraeth Cymru: Trethi annomestig: Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru - 2023-24 | Busnes Cymru (gov.wales)