Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweithwyr Gofal Dydd a Nos Preswyl

Ein Cartref

Mae Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn agor Cartref Plant Therapiwtig o'r radd flaenaf, yn ein cymuned leol ac mae angen eich cefnogaeth arnom. 

Lleolir ein cartref yng nghefn gwlad hyfryd Gogledd Powys, ger pentref heddychlon Llanbrynmair. Mae'n breswylfa eang gyda thair ystafell wely, llety cysgu i staff, ystafell therapi, clydfan gyfforddus, lolfa ac ystafell fwyta sy'n arwain i ardd fawr.

Bydd ein cartref yn cefnogi 3 phlentyn/unigolyn ifanc (11-18 oed) sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth oherwydd eu profiad bywyd cynnar.

Bydd y gofod y tu allan yn ein cartref yr un mor bwysig â'r tu mewn, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ofalu a mwytho anifeiliaid bach, garddio trwy dyfu ffrwythau, llysiau a blodau; i bawb yn ein cartref fwynhau manteision therapiwtig awyr iach ac ymarfer corff mewn amgylchedd hardd. 

Fel rhan o dîm ymroddedig, byddwch yn creu cartref diogel a fydd yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau a gallu rhianta i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, gwella eu cyfleoedd mewn bywyd a'u lles cymdeithasol.  Bydd y cyfle unigryw hwn ym Mhowys yn ein galluogi i gefnogi plant yn eu cymunedau eu hunain, fel rhan o'n gweledigaeth i alluogi plant i aros yn agosach at eu cartrefi.

Gofal Therapiwtig

Nod Gofal Therapiwtig yw hyrwyddo newid personol, a adlewyrchir mewn newidiadau mewn meddwl, gweithredu emosiynol ac ymddygiadol.  Bydd y tîm yn cael ei hyfforddi i fod yn wybodus am drawma i helpu plant a phobl ifanc i wella o'u trallod cynnar drwy ddatblygu mwy o ymddiriedaeth emosiynol a diogelwch mewn oedolion.

Y Rôl

Fel gweithiwr Gofal Preswyl, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod plant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth yn ddiogel, yn iach, yn dysgu, yn fodlon a gwrandewir ar eu barn a'i weithredu.    

Gweithwyr Gofal Preswyl fydd sylfaen y tîm sy'n darparu gofal dyddiol.  Bydd eich rôl yn gyfrifol am hyrwyddo trefn iach a diogel a chreu cartref cynnes a chynhwysol o dan gyfarwyddyd y Rheolwr Cofrestredig.  Bydd eich rôl yn rhan annatod o dîm hyblyg a fydd yn trefnu, yn annog ac yn rhannu gweithgareddau preswyl a hamdden sy'n bodloni anghenion y plant a'r bobl ifanc yn y cartref.  Bydd yn cynnwys gweithgareddau y tu allan megis cynnal a chadw'r gerddi, creu gardd llysiau a chyfrifoldeb am ofalu am anifeiliaid bach, eu bwydo a'u lles.

Bydd y Gweithiwr Gofal Preswyl Nos yn barhad o'r rôl yn ystod y dydd gan ddarparu gofal diogel drwy gydol y nos.

Mae'n rhaid eich bod yn gallu gyrru a bod gennych drwydded yrru lân lawn.

Mae'n rhaid bod gan bob deiliad swydd wiriad DBS manylach.

Gwerthoedd a rennir

Rydym yn chwilio am bobl sy'n gofalu ac yn gallu cysylltu â phobl ifanc.  Efallai nad oes gennych brofiad mewn Gofal Preswyl, ond gallwch ddangos sut rydych yn rhannu ein gwerthoedd pan fyddwch wedi gweithio/gwirfoddoli/gofalu/cefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc mewn ffyrdd eraill.

Ein gwerthoedd: Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored, Cydweithredol

Rydym yn chwilio am bobl i weithio gyda ni i alluogi:

Rhianta CADARNHAOL

  • Allwch chi ddangos i ni sut rydych yn adeiladu perthnasoedd o ymddiriedaeth, i addysgu cysylltiad cyn cywiro?
  • Ydych chi'n gallu meithrin ffiniau mewn modd amyneddgar a digynnwrf?

Cymorth arbenigol PROFFESIYNOL

  • Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm sy'n rhoi theori ar waith?  Byddwch yn dysgu am Ofal therapiwtig ac yna'n defnyddio'ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth gyda mewnbwn arbenigwyr eraill.
  • Byddwch yn gallu dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau cytunedig yn eich gwaith a darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'nsensitif i anghenion plant a phobl ifanc.

Cyfrifoldeb AGORED

  • Ydych chi'n fyfyriol, yn amcanus, ac yn agored i ddatblygu'ch hun gyda'ch tîm?
  • Byddwch yn onest, yn agored, ac ni fydd ofn arnoch gyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad i greu diwylliant o ymddiriedaeth.

Cyfleoedd BLAENGAR

  • Allwch chi ysgogi plant a phobl ifanc, i ehangu a datblygu eu profiad trwy weithgareddau y tu mewn a'r tu allan, sgiliau newydd, ac addysg i hyrwyddo lles a chanfod eu gallu?
  • Bydd gennych agwedd 'gallu gwneud' ac yn parhau i ddal ati i roi cynnig ar syniadau newydd tan eich bod yn dod o hyd i ffordd o gysylltu ac ysbrydoli, ni fyddwch yn rhoi'r gorau iddi!

Hyrwyddo yn GYDWEITHREDOL

  • Allwch chi weithio gyda phlant a phobl ifanc a'ch tîm i hyrwyddo'r canlyniadau gorau yn ein cartref?
  • Ydych chi'n ddewr, yn barod i hyrwyddo ansawdd, a chodi pryderon?
  • Byddwch yn gallu gwrando gydag urddas a pharch ar y plant a'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi.

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac mae ots gennych, rydym eich angen chi!

Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer y rôl

Byddwn yn rhoi'r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ennill cymhwyster mewn FfCCh/Diploma NVQ Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant a Phobl Ifanc o fewn dwy flynedd y dechreuodd eich cyflogaeth.

Er mai eich cyfrifoldeb personol chi fydd cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, byddwn yn eich cefnogi i wneud hyn.  Byddwn yn eich helpu i ddangos tystiolaeth o'ch cymwyseddau trwy eich ymarfer gwaith ac yn eich galluogi i gwblhau'r Dyfarniad Egwyddorion a Gwerthoedd neu'r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan i ddatblygu ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Byddwn yn eich hyfforddi yn y model therapiwtig i gysylltu'n emosiynol â phlant.  Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth grŵp myfyriol yn barhaus a gefnogir gan seicolegydd clinigol.

Byddwn yn darparu pecyn cynefino cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rheoli ymddygiad cadarnhaol, cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelwch tân, hylendid bwyd, gofal a meddyginiaeth.  Byddwch yn cyflawni cwrs e-ddysgu gorfodol a bydd y cyfnod cynefino'n rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tîm, polisïau a gweithdrefnau, a'r cartref lle byddwch yn darparu gofal.

Bydd bod yn rhan o Wasanaethau Plant Powys yn golygu eich bod yn rhan o gymuned ddysgu a chyfle i wneud cais i'n rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol 'Datblygu eich hun' neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol. 

Bydd gennych fynediad i ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb megis:

  • Theori Ymlyniad
  • Ymddygiad Heriol
  • Datblygiad Plant
  • Cyffyrddiad Priodol
  • Seminarau Cymunedau Ymarfer sy'n archwilio materion megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant

Amseroedd Rota

Dyma enghraifft o'r amseroedd/disgwyliadau rota a fydd mewn grym yn y cartref:

Bydd Gweithwyr Gofal Dydd Preswyl yn gweithio amseroedd sifftiau o 07:15 i 15:00 a 14:00 — 22:00.

Bydd Gweithwyr Gofal Nos Preswyl yn gweithio shifft nos o 21:30 i 07:30.

Bydd gofal yn cael ei ddarparu 24 awr a bydd y patrwm rota yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng darparu cefnogaeth ddwys i bobl ifanc a gorffwys ac adferiad i'r tîm staff yn dilyn hynny. 

Bydd Gweithwyr Preswyl bob amser yn gweithio gydag Uwch Weithiwr Preswyl i arwain y sifft. 

Bydd rheolwyr y cartref yn cefnogi'r tîm a bydd system ar alwad yn sicrhau bod rheolwr ar gael 7 niwrnod yr wythnos.

Bydd system rota dreigl yn cael ei chynllunio drwy gydol y flwyddyn galendr, gan roi cyfle i staff gynllunio ymlaen llaw gan hyrwyddo cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Buddion a Gwobrwyon

Yn ogystal â'r boddhad o wneud gwahaniaeth, byddwch yn derbyn buddion a gwobrau gwych:

  • Gwell cyfraddau tâl
  • Sifftiau hyblyg a rota ymlaen llaw
  • Hyfforddiant o'r radd flaenaf a chyfleoedd datblygu
  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Gostyngiadau a chynllun buddion i weithwyr
  • Hawliad gwyliau blynyddol gwych
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog
  • Cymorth cyfrinachol am faterion iechyd sy'n effeithio ar waith