Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rolau Arweinwyr Gofal Preswyl

Ein Cartref

Mae Cyngor Sir Powys mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn agor Cartref Plant Therapiwtig o'r radd flaenaf, yn ein cymuned leol ac mae angen eich cefnogaeth arnom.   

Lleolir ein cartref yng nghefn gwlad hyfryd Gogledd Powys, ger pentref heddychlon Llanbrynmair. Mae'n breswylfa eang gyda thair ystafell wely, llety cysgu i staff, ystafell therapi, clydfan gyfforddus, lolfa ac ystafell fwyta sy'n arwain i ardd fawr. 

Bydd ein cartref yn cefnogi 3 phlentyn/unigolyn ifanc (11-18 oed) sydd ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol cymhleth oherwydd eu profiad bywyd cynnar.  

Bydd y gofod y tu allan yn ein cartref yr un mor bwysig â'r tu mewn, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc ofalu a mwytho anifeiliaid bach, garddio trwy dyfu ffrwythau, llysiau a blodau; i bawb yn ein cartref fwynhau manteision therapiwtig awyr iach ac ymarfer corff mewn amgylchedd hardd.   

Yn arwain tîm ymroddedig, byddwch yn creu cartref diogel a fydd yn gwella sefydlogrwydd lleoliadau a gallu rhianta i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, gwella eu cyfleoedd bywyd a'u lles cymdeithasol.  Bydd y cyfle unigryw hwn ym Mhowys yn ein galluogi i gefnogi plant yn eu cymunedau eu hunain, fel rhan o'n gweledigaeth i alluogi plant i aros yn agosach at eu cartrefi.  

Gofal Therapiwtig

Nod Gofal Therapiwtig yw hyrwyddo newid personol, a adlewyrchir mewn newidiadau mewn meddwl, gweithredu emosiynol ac ymddygiadol.  Bydd y tîm yn cael ei hyfforddi i fod yn wybodus am drawma i helpu plant a phobl ifanc i wella o'u hadfyd cynnar drwy ddatblygu mwy o ymddiriedaeth emosiynol a diogelwch mewn oedolion. 

 

Trosolwg o'r rolau

Byddwch yn gyfrifol am arwain tîm a fydd yn sicrhau bod plant ag anghenion emosiynol ac ymddygiadol cymhleth yn ddiogel, yn iach, yn dysgu, yn fodlon a gwrandewir ar eu barn a gweithredir arno.     

Bydd y Rheolwr Cofrestredig gyda chefnogaeth y Dirprwy Reolwr Gofal yn arwain tîm wrth ddarparu gofal therapiwtig. Byddwch yn llunio ac yn goruchwylio'r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol i fodloni'r datganiad o ddiben y byddwch wedi bod â rhan allweddol ynddo i'w ddatblygu, er mwyn sicrhau bod anghenion a chanlyniadau gofal a brofwyd gan bobl ifanc yn cael eu cyflawni. 

Bydd Dirprwy Reolwr Gofal ac Uwch Weithwyr Gofal Preswyl yn arwain y gwaith o reoli sifftiau yn ddiogel.  Byddwch yn rhannu eich profiad preswyl, ac yn cefnogi staff wrth ddarparu gofal dyddiol.  Byddwch yn gyfrifol am hyrwyddo arferion iach a diogel a chreu cartref cynnes a chynhwysol.

Byddwch yn arwain tîm hyblyg a fydd yn trefnu, yn annog ac yn rhannu gweithgareddau preswyl a hamdden sy'n bodloni anghenion y plant a'r bobl ifanc yn y cartref.  Bydd yn cynnwys gweithgareddau y tu allan megis cynnal a chadw'r gerddi, creu gardd llysiau a chyfrifoldeb am ofalu am anifeiliaid bach, eu bwydo a'u lles. 

Mae'n rhaid eich bod yn gallu gyrru a bod gennych drwydded yrru lân lawn. 

Mae'n rhaid bod gan bob deiliad swydd wiriad DBS manylach. 

Gweler y Disgrifiad Swyddam y cyfrifoldebau ac i gael mwy o fanylion.

 

Gwerthoedd a rennir

Rydym yn chwilio am bobl sy'n gofalu ac yn gallu cysylltu â phobl ifanc. Bydd gennych brofiad helaeth mewn Gofal Preswyl, efallai bod gennych brofiad therapiwtig neu'n chwilio am leoliad therapiwtig i ddatblygu eich gyrfa.  Byddwch yn gallu dangos sut rydych yn rhannu ein gwerthoedd pan fyddwch wedi gweithio/gwirfoddoli/gofalu/cefnogi ac ysbrydoli pobl ifanc mewn ffyrdd eraill. 

Ein gwerthoedd: Proffesiynol, Cadarnhaol, Blaengar, Agored, Cydweithredol 

Rydym yn chwilio am bobl i weithio gyda ni i alluogi: 

Rhianta CADARNHAOL 

  • Allwch chi ddangos i ni sut rydych yn adeiladu perthnasoedd o ymddiriedaeth, i addysgu cysylltiad cyn cywiro? 
  • Ydych chi'n gallu meithrin ffiniau mewn modd amyneddgar a digynnwrf? 

Cymorth arbenigol PROFFESIYNOL  

  • Ydych chi eisiau bod yn rhan o dîm sy'n rhoi theori ar waith?  Byddwch yn dysgu am Ofal therapiwtig ac yna'n defnyddio'ch gwybodaeth i wneud gwahaniaeth gyda mewnbwn arbenigwyr eraill. 
  • Byddwch yn gallu dilyn polisïau, gweithdrefnau a safonau cytunedig yn eich gwaith a darparu gwasanaeth diogel ac effeithiol, sy'nsensitif i anghenion plant a phobl ifanc. 

Cyfrifoldeb AGORED 

  • Ydych chi'n fyfyriol, yn amcanus, ac yn agored i ddatblygu'ch hun gyda'ch tîm? 
  • Byddwch yn onest, yn agored, ac ni fydd ofn arnoch gyfaddef pan fyddwch wedi gwneud camgymeriad i greu diwylliant o ymddiriedaeth

Cyfleoedd BLAENGAR 

  • Allwch chi ysgogi plant a phobl ifanc, i ehangu a datblygu eu profiad trwy weithgareddau y tu mewn a'r tu allan, sgiliau newydd, ac addysg i hyrwyddo lles a chanfod eu gallu? 
  • Bydd gennych agwedd 'gallu gwneud' ac yn parhau i ddal ati i roi cynnig ar syniadau newydd tan eich bod yn dod o hyd i ffordd o gysylltu ac ysbrydoli, ni fyddwch yn rhoi'r gorau iddi! 

Hyrwyddo yn GYDWEITHREDOL  

  • Allwch chi weithio gyda phlant a phobl ifanc a'ch tîm i hyrwyddo'r canlyniadau gorau yn ein cartref? 
  • Ydych chi'n ddewr, yn barod i hyrwyddo ansawdd, a chodi pryderon
  • Byddwch yn gallu gwrando gydag urddas a pharch ar y plant a'r bobl ifanc rydym yn eu cefnogi. 

Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac mae ots gennych, rydym eich angen chi! 

 

Hyfforddiant a Chefnogaeth ar gyfer y rôl

Byddwn yn  hyfforddi'r tîm cyfan yn y model therapiwtig i gysylltu'n emosiynol â phlant.  Byddwch yn derbyn goruchwyliaeth grŵp myfyriol yn barhaus a gefnogir gan seicolegydd clinigol. 

Fel Rheolwr Cofrestredig, bydd gennych Lefel 5 yn barod mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Rheoli Gwasanaethau Preswyl i Blant a Phobl Ifanc).  Byddwch yn cael eich cefnogi i ddarparu lleoliad therapiwtig, ymgysylltu, a gweithredu gyda thîm hyfforddi'r Gwasanaethau Plant i sicrhau bod yr hyfforddiant cywir yn ei le i'ch tîm fodloni'r anghenion.

Fel Dirprwy Reolwr Gofal, bydd gennych Ddiploma Lefel 3 yn barod mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc).  Rydym hefyd yn gofyn eich bod yn gweithio tuag at Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan gwblhau o fewn blwyddyn o'ch dyddiad dechrau; byddwn yn eich cefnogi i ymgymryd â'r cymhwyster hwn.  Byddwch yn cefnogi'r Rheolwr Cofrestredig i roi'r hyfforddiant cywir yn ei le ar gyfer eich tîm.

Fel Uwch Weithiwr Gofal Preswyl, bydd gennych Ddiploma Lefel 3 yn barod mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc). Byddwch yn awyddus i ddatblygu a dangos eich gwybodaeth breswyl gyda'ch tîm, gan gefnogi'r tîm yn ei anghenion hyfforddiant parhaus. 

Eich cyfrifoldeb personol chi fydd cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Byddwn yn darparu pecyn cynefino cynhwysfawr a fydd yn cynnwys rheoli ymddygiad cadarnhaol, cymorth cyntaf, hyfforddiant diogelwch tân, hylendid bwyd, gofal a meddyginiaeth.  Byddwch yn cyflawni cwrs e-ddysgu gorfodol a bydd y cyfnod cynefino'n rhoi cyfle i chi ddod i adnabod eich tîm, polisïau a gweithdrefnau, a'r cartref lle byddwch yn darparu gofal. 

Bydd bod yn rhan o Wasanaethau Plant Powys yn golygu eich bod yn rhan o gymuned ddysgu a chyfle i wneud cais i'n rhaglen Gweithiwr Cymdeithasol 'Datblygu eich hun' neu Ddiploma Lefel 5 mewn Arweinyddiaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.   

Bydd gennych fynediad i ddigwyddiadau hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb megis: 

  • Theori Ymlyniad 
  • Ymddygiad Heriol 
  • Datblygiad Plant  
  • Cyffyrddiad Priodol 
  • Seminarau Cymunedau Ymarfer sy'n archwilio materion megis Camfanteisio'n Rhywiol ar Blant 

 

Amseroedd Rota

Byddwch yn arwain tîm, yn gweithredu, ac yn goruchwylio patrwm rota sy'n gweithio i'r cartref.

Bydd y Rheolwr Cofrestredig yn rheoli'r cartref yn ystod y dydd a bydd disgwyl ymgymryd â rhai sifftiau i gysylltu a chefnogi'ch tîm i sicrhau arfer gorau.

Bydd y Dirprwy Reolwr Gofal yn arwain fel uwch swyddog sifft fel rhan o'r patrwm rota wrth gefnogi'r Rheolwr Cofrestredig.

Bydd Uwch Weithiwr Gofal Preswyl yn arwain pob sifft ar batrwm rota.

Dyma enghraifft o'r amseroedd/disgwyliadau rota a fydd mewn grym yn y cartref:

Bydd Gweithwyr Gofal Dydd Preswyl yn gweithio amseroedd sifftiau o 07:15 i 15:00 a 14:00 — 22:00. 

Bydd Gweithwyr Gofal Nos Preswyl yn gweithio shifft nos o 21:30 i 07:30. 

Bydd gofal yn cael ei ddarparu 24 awr a bydd y patrwm rota yn sicrhau cydbwysedd iach rhwng darparu cefnogaeth ddwys i bobl ifanc a gorffwys ac adferiad i'r tîm staff yn dilyn hynny.   

Bydd Gweithwyr Preswyl bob amser yn gweithio gydag Uwch Weithiwr Preswyl i arwain y sifft.   

Bydd rheolwyr y cartref yn cefnogi'r tîm a bydd system ar alwad yn sicrhau bod rheolwr ar gael 7 niwrnod yr wythnos. 

Bydd system rota dreigl yn cael ei chynllunio drwy gydol y flwyddyn galendr, gan roi cyfle i staff gynllunio ymlaen llaw gan hyrwyddo cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.   

 

Buddion a Gwobrwyon

Yn ogystal â'r boddhad o wneud gwahaniaeth, byddwch yn derbyn buddion a gwobrau gwych: 

  • Gwell cyfraddau tâl  
  • Sifftiau hyblyg a rota ymlaen llaw  
  • Hyfforddiant o'r radd flaenaf a chyfleoedd datblygu  
  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith 
  • Goruchwyliaeth o'r grŵp clinigol 
  • Gostyngiadau a chynllun buddion i weithwyr  
  • Hawliad gwyliau blynyddol gwych 
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol Ardderchog 
  • Cymorth cyfrinachol am faterion iechyd sy'n effeithio ar waith