Byw ym Mhowys
Lle gwych i fyw
Mae Powys yn sir syfrdanol sy'n cynnig golygfeydd hardd a thirweddau ysblennydd gyda mannau agored gwyrdd a threfi marchnad bywiog.
Mae gan y sir theatrau rhagorol, treftadaeth ddiwylliannol Gymreig fywiog, a sîn ffyniannus o ran crefftau a'r celfyddydau.
Mae Powys yn gartref i ddigwyddiadau gwych. Mae gan Ŵyl Lenyddiaeth y Gelli enw da rhyngwladol sy'n denu awduron ac enwogion o'r radd flaenaf. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn prysur ddod yn un o'r gwyliau bwtîc gorau ar gylchdaith gerddoriaeth yr haf, a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yw'r sioe amaethyddol fwyaf yn Ewrop.
Treuliwch eich penwythnosau yn crwydro'r 2,000 milltir sgwâr o gefn gwlad yn cael anturiaethau gwych...mae rhywbeth i bawb ei wneud — y rhai sy'n caru bywyd gwyllt, cerddwyr, beicwyr mynydd a merlotwyr. Mae gan bobl sy'n hoff o chwaraeon ddigon o ddewis gydag amrywiaeth o glybiau pêl-droed, rygbi, criced a golff lleol i ddewis ohonynt.
Mae gan Bowys ysbryd cymunedol eithriadol a rhwydweithiau cymdogol lleol cryf. Mae hefyd yn cynnig llesiant i bobl a chymunedau diogel a chefnogol i fyw ynddynt.
Rydym yn nes nag y byddech chi'n meddwl!