Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cymorth Ariannol i Ofalwyr

Os ydych yn ofalwr di-dâl, efallai y gallwch gael cymorth ariannol i'ch helpu gyda'ch dyletswyddau gofalu.

Mae llawer o bobl yn treulio amser yn gofalu am bobl eraill na fyddent o bosibl yn gallu gofalu amdanynt eu hunain heb rywfaint o help. Os ydych yn darparu gofal a/neu gymorth di-dâl i berson arall sydd â salwch, anabledd, neu gyflwr hirdymor, efallai y cewch eich cydnabod yn gyfreithiol fel gofalwr di-dâl sy'n darparu gofal angenrheidiol.

Gallai'r person rydych yn ei helpu fod yn aelod o'r teulu neu'n ffrind, a gallech fod yn ei gefnogi gyda'i anghenion iechyd corfforol neu feddyliol, neu'r ddau.

Fel gofalwr di-dâl efallai y bydd rhywfaint o gymorth ariannol y gallwch ei gael i chi'ch hun.

Lwfans Gofalwr

Mae Lwfans Gofalwr yn fudd-dal a delir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).

Gellir ei dalu i bobl 16 oed a throsodd sy'n gofalu am berson arall am o leiaf 35 awr yr wythnos. Mae'n rhaid bod y person sy'n derbyn gofal yn cael Lwfans Gweini; Elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl (y gyfradd ganolig neu uwch) neu elfen byw bob dydd y Taliad Annibyniaeth Bersonol.

Os ydych yn gofalu am fwy nag un person, dim ond am ofalu am un ohonynt y gallwch wneud cais. Os oes gan berson fwy nag un person yn gofalu amdano, dim ond un sy'n gallu hawlio Lwfans Gofalwr.

Os yw'r person rydych yn gofalu amdano yn byw ar ei ben ei hun (neu mae rheolau DWP yn ei drin fel pe bai'n byw ar ei ben ei hun) a'i fod yn cael budd-daliadau prawf modd fel Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, os byddwch yn gwneud cais am Lwfans Gofalwr gallai hyn leihau faint o arian a gaiff y person sy'n derbyn gofal yn ei fudd-daliadau. Mae'n bwysig bod y person rydych yn gofalu amdano yn cytuno y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr. Argymhellir bod y ddau ohonoch yn cael cyngor gan sefydliad fel CAB cyn i chi hawlio.

Gallwch gael gwybod a ydych yn gymwys i gael Lwfans Gofalwr a gwneud cais amdano ar https://www.gov.uk/carers-allowance.

Lwfans Gweini

Mae Lwfans Gweini yn helpu gyda chostau ychwanegol os oes gennych anabledd sy'n ddigon difrifol fel bod angen rhywun arnoch i'ch helpu i ofalu amdanoch.

Fe'i telir ar 2 gyfradd wahanol ac mae'r swm a gewch yn dibynnu ar lefel y gofal sydd ei angen arnoch oherwydd eich anabledd.

Gallech gael £61.85 neu £92.40 yr wythnos i helpu gyda chefnogaeth bersonol os ydych:

  • ag anabledd corfforol neu feddyliol
  • o oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu'n hŷn
  • Nid yw'n cwmpasu anghenion symudedd.

Gallai'r budd-daliadau eraill a gewch gynyddu os ydych yn cael Lwfans Gweini.

Nid oes rhaid i chi gael rhywun yn gofalu amdanoch er mwyn hawlio.

I ddysgu mwy am gymhwysedd a gwneud cais am Lwfans Gweini, ewch i https://www.gov.uk/attendance-allowance.

Gostyngiad Treth y Cyngor i ofalwyr

Os ydych yn gofalu am rywun ac yn byw gyda nhw, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.

I ddysgu mwy am gymhwysedd a sut i wneud cais am y gostyngiad hwn, ewch i'n tudalen Treth y Cyngor: Help i ofalwyr

Dolenni defnyddiol

GOV.UK - Budd-daliadau a chymorth ariannol os ydych yn anabl neu os oes gennych gyflwr iechyd.

Credu - Cymorth Ariannol a Chyfreithiol.

Cyngor ar Bopeth Powys, Ffôn 0345 6018421