Hysbysiad: Efallai y bydd rhywfaint o darfu ar gasgliadau ailgylchu cartrefi a gwastraff gweddilliol (bin du, sachau porffor) dros wythnos Gŵyl y Banc.
Llun o Stryd Pentrehedyn, Machynlleth ym 1896. Defnyddir y llun gyda chaniatâd Casgliad Francis Frith
Cefndir
Yn ystod yr 1980au, cafodd tri deg o goed eu plannu gan Gyngor Tref Machynlleth oddi fewn i'r ardal gadwraeth ar hyd Cefnffyrdd Canol Tref Machynlleth (A483 a'r A487) (gweler Delwedd 1) gyda help arian grant.
Rhwng yr adeg honno a nawr gwywodd nifer ohonynt a chawsant eu symud i ffwrdd, ac er bod rhai yn parhau i fod yn dda eu hiechyd, mae eraill yn edwino a / neu'n peri pryder o ran diogelwch.
Dynododd arolygon diogelwch cyffredin gan dyfwyr coed bod rhai o'r coed yn beryglus ac fe gafodd y coed hynny eu cymryd i ffwrdd ym mis Tachwedd 2021.
Mae gwaith ychwanegol sy'n berthnasol i ddiogelwch, gan gynnwys symud coed, wedi ei amserlennu ar gyfer gaeaf 2022-23. Yn anffodus, y brif anfantais i'r coed stryd oedd nad oedd "y coed yn derbyn y gofal cywir", yn ôl pobl ar "Barn Gyhoeddus" Coedwigaeth Cymru.
Trosolwg
Mae Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC), sy'n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru, wedi dynodi amnewid a gwella coed stryd Machynlleth fel cyfle i hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy'r adnodd naturiol hwn a chyfle i roi gofal teilwng i'r coed pwysig a gwerthfawr hyn.
Bydd y cynllun yn cynnwys amodau plannu llawer gwell ar gyfer unrhyw goed newydd sy'n cael eu plannu. Byddan nhw'n defnyddio pydewau coed a fydd yn gallu diogelu gwreiddiau'r coed yn ogystal â dyfrio ac awyru'r gwreiddiau i gefnogi tyfiant iach y coed.
Bydd hyn yn helpu i gadw'r coed yn iach drwy gydol eu hoes a galluogi rheolwyr y dyfodol i edrych ar eu holau'n iawn.
Cyflwyniad
Map yn dangos yr ardal lle bydd y coed yn cael eu plannu
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus fis Medi llynedd ac ymgysylltu sy'n mynd rhagddo â rhanddeiliaid, cafodd nifer o bryderon eu codi ynghylch isafu'r amhariad i fusnesau a siopwyr lleol yn ystod y gwaith.
Ar y cyd â'r contractwyr, rydym yn ceisio'n galed i isafu'r amhariad, fodd bynnag, mae natur a lleoliad y gwaith hwn yn ei gwneud hi'n anochel y bydd peth anghyfleustra yn digwydd o bryd i'w gilydd.
Pan fydd busnesau'n cael eu heffeithio'n uniongyrchol, fel masnachwyr y farchnad, bydd trafodaethau'n digwydd cyn i'r gwaith ddechrau wrth iddynt wneud cynnydd ar hyd y stryd.
Bydd y palmentydd llydan yn galluogi parhad o ran mynediad i'r holl siopau er y bydd cyfyngiad i'r lled ar adegau. Hoffem ddiolch i breswylwyr a'r rhai sy'n ymweld â Machynlleth am eu hamynedd wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau fe ddaw â manteision bioamrywiaeth ac ecolegol pwysig i ganol y dref.
Graddfa amser
Ebrill - Mehefin: Mae'r contractwyr wedi dechrau ar y gwaith o osod pydewau coed. Byddan nhw'n gweithio o gwmpas stondinau'r farchnad gan sicrhau fod cyn lleied o anghyfleustra ag sy'n bosibl i'r cyhoedd a'r masnachwyr busnes. Caiff preswylwyr a masnachwyr lleol wybod y diweddaraf ynghylch yr adeiladu sy'n mynd rhagddo a gellir cael ateb i unrhyw ymholiadau drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt a restrir.
Gorffennaf - Medi: Dylai'r rhan fwyaf o'r pydewau coed gael eu gosod yn barod ar gyfer eu coed newydd. Byddwn yn cysylltu â phobl leol ynghylch cynllun o'r enw 'Gwarcheidiaeth' ble y gall preswylwyr wneud yn siŵr bod coed yn cael eu cadw'n iach. Cysylltwch â ni os ydych am gymryd rhan.
Hydref - Tachwedd: Bydd y contractwyr yn dechrau plannu coed lled-aeddfed yn y pydewau. Ar yr adeg hon bydd angen iddynt gael eu cynnal a chadw'n dda i sicrhau tyfiant iach.
Crynodeb
Cafodd coed eu symud i ffwrdd o goedlun integrol canol Machynlleth, a chafodd rhagor eu dynodi i'w symud i ffwrdd (neu waith adfer).
Mae hyn oherwydd bod eu hiechyd yn dirywio a / neu agweddau sy'n berthnasol i ddiogelwch (fel a ddynodwyd gan dyfwyr coed hyfforddedig a chymwys) er gwaetha'r ffaith mai dim ond 30 mlwydd oed ydy'r coed.
Ceir dyletswydd cyfreithiol o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 i amnewid unrhyw goed cwympedig mewn ardal gadwraeth.
Mae manteision niferus ac amrywiol gan goed, nid dim ond pren maen nhw'n ei gynhyrchu. Maen nhw hefyd yn darparu cysgod, ychwanegu prydferthwch a gwerth amwynder, cefnogi rhywogaethau eraill, gwella ein llesiant a darparu ymwybyddiaeth o hanes, lle a pharhad.
Maen nhw'n cynyddu gwerth eiddo ac annog twristiaeth ac maen nhw mor soffistigedig a chymwynasgar fel eu bod drwy ffotosynthesis nid yn unig yn amsugno carbon deuocsid ond hefyd yn darparu ocsigen i ni ei anadlu. Mae eu gwreiddiau fel sbwng yn amsugno dŵr fel eu bod hefyd yn helpu i reoli dŵr arwyneb a lleihau llifogydd.
Mae draeniad trefol cynaliadwy (SUDs) yn ystyriaeth sylfaenol ac annatod oddi fewn i ddatblygiad cynaliadwy. Mae'n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod yr holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithio tuag at y nod o "Genedl sy'n cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â'r gallu i addasu i newid."
Mae draeniad cynaliadwy yn galluogi dull gweithredu naturiol ar gyfer arafu dŵr a'i ddal yn ôl. Gall coed a SUDs weithio gyda'i gilydd i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur fel ffurf o isadeiledd gwyrdd i arafu'r llif.
Gall colli coed fod yn emosiynol ac ysgogi teimladau anodd. Rydym yn ymwybodol o'r ffynonellau niferus o werth coed stryd Machynlleth yn ogystal â'n dyletswydd a'n rhwymedigaeth i'w hadnewyddu.
Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r argyfwng hinsawdd a natur a'r hyn all goed ei gyfrannu wrth adfer y problemau a wynebir, a hynny drwy'r amrywiaeth helaeth o werthoedd maen nhw'n ei waddoli. Rydym ni hefyd yn ymwybodol pan gafodd y coed eu plannu'n wreiddiol roedd y dechnoleg yn gyfyngedig ac mae problemau wedi codi wrth i'w gwreiddiau dyfu ac ehangu oddi fewn i'r amgylchedd trefol newidiol.
Mae cyfle ariannol wedi dod i'r fei sy'n ein galluogi ni i dyfu'r coed yn ôl ym Machynlleth a'r tro hwn byddwn yn harneisio'r systemau tyfiant tanddaearol sy'n diogelu a rhoi maeth i'r gwreiddiau oddi fewn i amgylchedd hunangynhaliol a diogel. Rydym am roi coed i'r dref a gyfer y dyfodol hir-dymor, coed a fydd yn darparu cenedlaethau'r dyfodol ym Machynlleth â hanes sy'n gyforiog o straeon ei choed.
Mwy o wybodaeth
Gwarcheidiaeth Coed
Bydd y cyngor a Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru yn cyflwyno cais i unrhyw bobl leol sydd am ddyfod yn warcheidwaid y coed. Bydd hyn yn golygu ymgymryd â gofal arbennig o'r coed, eu dyfrio a'u diogelu. Cysylltwch â Chyngor Sir Powys am wybodaeth bellach gan ddefnyddio'r manylion.