ID Pleidleiswyr
Deddf Etholiadau 2022
Newidiadau i'r ffordd yr ydym yn pleidleisio mewn rhai etholiadau penodol a'r hyn y mae angen i chi ei wybod
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr ddangos ID âllun wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer rhai etholiadau.
Bydd cyfraith newydd o'r enw Deddf Etholiadau yn effeithio ar etholiadau o fis Mai 2023, ar gyfer:
- Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
- Is-etholiadau seneddol y DU
- Deisebau adalw
- O fis Hydref 2023 bydd hefyd yn berthnasol i etholiadau cyffredinol y DU.
Nid yw hyn yn effeithio ar etholiadau Senedd Cymru, cynghorau lleol ac etholiadau Tref/Cymuned yng Nghymru gan mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am yr etholiadau hyn.
Ffurfiau Derbyniol ID Llun
Bydd gan lawer o bobl ffurf dderbyniol o ID llun yn barod. Mae rhestr lawn o'r gwahanol fathau o ID llun derbyniol, ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Hen ID llun
Gallwch barhau i ddefnyddio'ch ID llun os yw'n hen, cyn belled â'i fod yn edrych fel chi. Dylai'r enw ar eich ID fod yr un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.
Os nad oes gennych ffurf adnabod cydnabyddedig
Gallwch wneud cais am ddogfen adnabod pleidleisiwr, sef un a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, am ddim, os:
- nad oes gennych ffurflen adnabod ffotograffig a dderbynnir
- nad ydych yn siŵr a yw'ch ID llun yn dal i edrych fel chi
- rydych yn poeni am ddefnyddio ffurf ID sy'n bodoli eisoes am unrhyw reswm arall, fel defnyddio nodwr rhywedd
Mae angen i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr
Os oes angen unrhyw help arnoch i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu os hoffech ofyn am ffurflen gais bapur, ffoniwch 01597 826202.
Os ydych chi wedi newid eich enw
Rhaid i'r enw ar eich ID gyfateb i'r enw ar y gofrestr etholiadol. Os nad ydyw, bydd angen i chi naill ai:
- cofrestr i bleidleisio unwaith eto, gan ddefnyddio'ch manylion newydd, neu
- fynd â dogfen i'ch canlyn pan ewch i'r orsaf bleidleisio - ar wahân i'ch ID llun - sy'n dangos eich bod wedi newid eich enw (er enghraifft, tystysgrif briodas).
Nid yw gwahaniaethau bach yn bwysig. Er enghraifft, os yw eich ID yn dweud 'Jim Smith' yn hytrach na 'James Smith'.
Dangos ID os ydych yn etholwr anhysbys
Os ydych wedi'ch cofrestru i bleidleisio'n anhysbys ac am bleidleisio trwy fynd i'r orsaf bleidleisio, bydd angen i chi wneud cais am Dogfen Etholwr Anhysbys.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio yn anhysbys a sut i bleidleisio'n anhysbys.
Pleidleisio trwy ddirprwy
Bydd angen i chi gymryd eich ID eich hun pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ran rhywun arall. Nid oes angen i chi gymryd ei rhai ef neu hi.
Pleidleisio trwy'r post
Ni fydd effaith ar rai sy'n pleidleisio trwy'r post, a byddant yn derbyn eu papurau pleidleisio trwy'r post fel arfer.