Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Llwybr 1 - Cymorth yn y Cartref yn Gyntaf

Pathway 1

Mae'n bosibl y byddwch chi a'r gweithwyr proffesiynol yn penderfynu fod angen ychydig bach yn fwy o gymorth pan fyddwch chi'n mynd adref er mwyn i chi ddychwelyd i fod yn gwbl annibynnol, yn yr achos hwn, mae'n bosibl y byddwn yn eich danfon chi adref gyda gwasanaeth Gartref yn Gyntaf neu ail-alluogi.

Mae Tîm Gartref yn Gyntaf Powys yn dod â phobl allan o'r ysbyty fel bod modd gwneud asesiadau yng nghysur a diogelwch eu cartrefi. Gwasanaeth byr dymor yw hwn (hyd at 10 diwrnod) i hyrwyddo annibyniaeth ac adfer y sgiliau a'r hyder angenrheidiol i gwblhau tasgau dyddiol yn ddiogel yn y cartref.

An Occupational Therapy-led Discharge to Recover and Assess Model in Powys is supporting people to return home promptly and safely from hospital - Powys Teaching Health Board (nhs.wales)

Tîm Ail-alluogi Powys

Mae'r Tîm Ail-alluogi yn gweithio ochr yn ochr â Thimau Therapi Bwrdd Addysgu Iechyd Powys sy'n cynnwys Therapyddion Galwedigaethol a Ffisiotherapyddion.

Ewch i'n gwefan Ail-alluogi am ragor o wybodaeth - Cymorth Ail-alluogi