Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceisiadau am Eithriadau Trin Gwastraff

Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016: Eithriadau Trin Gwastraff T3 a T7.

Eithriadau Trin Gwastraff T3 a T7.

Mae Pennod 3 'Trin Gwastraff' o Atodlen 3 i Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (EPR) yn pennu'r gweithrediadau trin gwastraff sydd wedi'u heithrio rhag bod angen trwydded amgylcheddol. Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (legislation.gov.uk).

Yng Nghymru, rhaid i'r rhan fwyaf o eithriadau trin gwastraff gael eu cofrestru gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cyfoeth Naturiol Cymru / Trwyddedau a chaniatâd. Ond mae dau eithriad y mae'n rhaid eu cofrestru gyda'r awdurdod lleol. Y rhain yw:

  • T3 - Trin metelau gwastraff ac aloion metel trwy wresogi at ddibenion tynnu saim.
  • T7 - Trin brics, teils a choncrit gwastraf' trwy falu neu leihau maint.

Mae amodau a gofynion penodol y mae'n ofynnol eu bodloni ar gyfer eithriadau trin gwastraff T3 a T7, fel y nodir ym Mhennod 3 Atodlen 3 yr EPR.

Ar gyfer eithriadau T3, y rhain yw:

  • nad yw cyfanswm y gwastraff sy'n cael ei storio neu ei drin ar unrhyw un adeg yn fwy na 10 tunnell,
  • bod y gwastraff yn cael ei storio mewn lleoliad diogel gyda draeniad wedi'i selio,
  • mae gan yr offer fewnbwn thermol cyfradd net o lai na 0.2 megawat, a
  • phan fo'n cael ei ddefnyddio ynghyd â chyfarpar arall (p'un a yw'n cael ei weithredu ar yr un pryd â chyfarpar arall o'r fath ai peidio), mae cyfanswm mewnbwn thermol cyfradd net yr holl gyfarpar yn llai na 0.2 megawat.

Ar gyfer eithriadau T7, y rhain yw:

  • nad yw cyfanswm y gwastraff a drinnir dros unrhyw gyfnod o 1 awr yn fwy nag 20 tunnell,
  • nad yw cyfanswm y gwastraff sy'n cael ei storio ar unrhyw un adeg yn fwy na 200 tunnell,
  • bod y gwastraff yn cael ei storio mewn man diogel cyn ei drin,
  • bod y driniaeth yn cael ei chyflawni yn y man cynhyrchu, neu yn y man lle mae'r gwastraff wedi'i drin yn mynd i gael ei ddefnyddio, ac
  • nad yw'r gwaith yn arwain at ryddhau i'r aer sylwedd a restrir ym mharagraff 6(3) o Ran 1 o Atodlen 1, o'r EPR, ac eithrio mewn cyfanswm sydd mor ddibwys fel ei fod yn analluog i achosi llygredd neu fod ei allu i achosi llygredd yn ddibwys.

NODYN: Mae'r mathau perthnasol o wastraff ar gyfer eithriadau T3 a T7 hefyd wedi'u pennu o dan Bennod 3 o Atodlen 3 i'r EPR.

Cofrestru T3 a T7.

Fel y nodir o dan Atodlen 2 yr EPR Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 (legislation.gov.uk) yr awdurdod cofrestru eithrio ar gyfer eithriadau trin gwastraff T3 a T7 yw:

  • Ar gyfer trin gwastraff a wneir ar beiriannau symudol gan weithredwr o Gymru a Lloegr, yr awdurdod lleol y mae prif le busnes y gweithredwr wedi'i leoli yn ei ardal;
  • ar gyfer trin gwastraff a wneir ar beiriannau symudol gan weithredwr nad yw o Gymru a Lloegr, yr awdurdod lleol y gweithredir y gwaith symudol yn ei ardal gyntaf;
  • ar gyfer trin gwastraff nad yw'n cael ei wneud ar offer symudol, yr awdurdod lleol yr ymgymerir â'r driniaeth gwastraff yn ei ardal.

NODYN: Lle mae'r driniaeth gwastraff yn weithgaredd sy'n uniongyrchol gysylltiedig â gweithgaredd a ganiateir, rhaid i'r gweithgaredd trin gwastraff gael ei ymgorffori yn y Drwydded Amgylcheddol gyfredol.

Mae cofrestru eithriadau trin gwastraff T3 a T7 yn rhad ac am ddim a rhaid ei wneud trwy ddarparu'r canlynol:

  • y manylion perthnasol, a
  • manylion y prif gyswllt.

NODYN: Ni ellir cofrestru mwy nag un eithriad trin gwastraff ar yr un pryd ac ni cheir cofrestru mwy nag un gweithredwr yn yr un lleoliad ar gyfer yr un eithriad trin gwastraff.

Ar ôl cofrestru, bydd manylion perthnasol yr eithriad trin gwastraff yn cael eu cofnodi ar gofrestr eithriadau trin gwastraff yr awdurdod lleol, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y cofrestriad, a bydd yn ddilys am gyfnod o dair blynedd. Gellir gweld cofrestr Cyngor Sir Powys yma: Cofrestr o Weithrediadau Gwastraff Eithriedig T3 a T7

Gellir adnewyddu cofrestriad unrhyw bryd yn y mis cyn i'r cofrestriad ddod yn annilys, trwy ddarparu'r wybodaeth a nodir uchod.

Rhaid darparu hysbysiadau am unrhyw newidiadau i'r manylion perthnasol a'r prif fanylion cyswllt yn ddi-oed.

I gofrestru, adnewyddu neu roi hysbysiad o unrhyw newidiadau i'r manylion perthnasol/manylion cyswllt sylfaenol ar gyfer eithriad trin gwastraff, gyda Chyngor Sir Powys, cwblhewch a dychwelwch y FFURFLEN hon .

Bydd cofnodion ar y gofrestr eithrio trin gwastraff yn cael eu dileu pan ddaw cofrestriad yn annilys; os daw'r awdurdod lleol yn ymwybodol nad yw'r driniaeth gwastraff eithriedig yn weithredol mwyach neu os yw'r driniaeth gwastraff yn peidio â bod yn weithrediad eithriedig.

Cofnodion.

Lle mae gwaith gwastraff eithriedig T3 neu T7 yn cael ei gyflawni gan offer symudol; rhaid cadw cofnodion cronolegol o faint, natur, tarddiad a, lle bo'n berthnasol, cyrchfan a dull trin yr holl wastraff a waredir neu a adenillir; a rhaid cadw cofnodion o'r mannau lle cyflawnir y gweithrediad.

Rhaid cadw'r cofnodion hyn am gyfnod o 2 flynedd - yn ystod y cyfnod hwn rhaid i'r cofnodion fod ar gael i Gyngor Sir Powys ar gais.

Archwiliadau Cyfnodol.

Byddwch yn ymwybodol y gall Cyngor Sir Powys gynnal archwiliadau cyfnodol o unrhyw eithriadau gwastraff T3 a T7 cofrestredig, yn ôl yr angen.

Cysylltu

Cysylltwch â Gwarchod yr Amgylchedd yn uniongyrchol os oes angen unrhyw gymorth neu wybodaeth bellach arnoch:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu