Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau Grant Cymorth Ychwanegol Gofal Plant Powys.

Cyflwyniad

Mae pob darparwr yn disgwyl cael rhai plant gydag anghenion ychwanegol rhyw bryd neu'i gilydd. Trwy gynllunio a threfnu'n ofalus, mae mwyafrif y plant yma'n gallu cymryd rhan yn llawn yn y gweithgareddau a'r profiadau a ddarperir. Gall ymarferwyr ofyn am arweiniad gan Dîm Gofal Plant Powys (gweler manylion y Tîm Gofal Plant yn yr atodiad).

- Mae'r manylion cyswllt fel a ganlyn.

Tîm Gofal Plant Powys - 01597 826399

powyschildcareteam@powys.gov.uk

Disgwylir i leoliadau cynllunio ar gyfer cynhwysiant (e.e. trwy eu polisi ADY neu'r polisi cynhwysiant) a'u bod yn dyrannu adnoddau staff e.e. amser CADY. Hwyrach y bydd adegau pan fydd angen cymorth ychwanegol ar ddarparwyr.

Beth yw diben Grant Cymorth Ychwanegol Gofal Plant Powys?

Sut dylid defnyddio'r cyllid

Mae cysylltiad penodol rhwng y cyllid a ddyfernir trwy'r Grant Cymorth Ychwanegol a'r oriau gofal plant a ddefnyddir gan blentyn mewn darpariaeth gofal plant cofrestredig.

Dylid gwario'r cyllid a ddyfernir trwy'r Grant Cymorth Ychwanegol yn unol ag anghenion pob plentyn unigol. Mae Anghenion Ychwanegol yn cynnwys ystod eang o anghenion, a dylid ystyried sut y gellir defnyddio'r cyllid er mwyn caniatáu mynediad cyfartal at y ddarpariaeth, yn seiliedig ar anghenion y plentyn dan sylw. Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer y dibenion canlynol:

  • Hyfforddiant ar gyfer darparwyr- gall hyn gynnwys hyfforddiant anorfodol ar anghenion meddygol penodol neu hyfforddiant mwy cyffredinol sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r ddarpariaeth gofal ar gyfer plentyn penodol.
  • Offer/Cyfarpar- hwyrach y bydd angen offer/cyfarpar ychwanegol ar rai plant. Bydd hyn yn amrywio ar anghenion y plentyn, ond gall cynnwys deunyddiau dysgu ychwanegol neu offer chwarae arbenigol. Dylai gwasanaeth iechyd yr awdurdod lleol ddarparu offer arbenigol sydd ei angen yn barhaus ar y plentyn (megis cymhorthion symudedd).
  • Staff ychwanegol- gall hyn olygu darparu cymorth arbenigol ar gyfer plant gydag anghenion mwy difrifol. Gall amrywio o helpu gydag anghenion gofal dyddiol ychwanegol, i ddatblygu cynlluniau a strategaethau dysgu mwy cymhleth ar y cyd â theuluoedd y plant a gwasanaethau allanol. Hefyd gellir defnyddio'r cyllid i dalu am staff llanw sy'n arbenigo mewn darparu cymorth ar gyfer plentyn gydag anghenion ychwanegol.
  • Addasiadau corfforol i leoliadau- gall hyn gynnwys addasiadau ar gyfer plant sydd ag angen mynediad penodol, creu mannau penodol ar gyfer plant gydag anghenion ychwanegol, newidiadau i'r lleoliad ar gyfer plant gyda nam ar y golwg, neu welliannau i acwsteg lleoliad ar gyfer plant byddar.

Pwy sy'n cael ymgeisio?

Mae'r cyllid ar gael i:

  • Ddarpariaeth gofal plant cofrestredig gydag AGC sy'n cyflenwi cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru i blant cymwys sy'n byw ym Mhowys.
  • Darpariaeth gofal plant cofrestredig gydag AGC sy'n cyflenwi gofal plant Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru i blant cymwys sy'n byw ym Mhowys.
  • Darpariaeth gofal plant cofrestredig gydag AGC sy'n cyflenwi gofal plant i blant sy'n byw ym Mhowys.

Pan gaiff cymorth cynhwysiant ei ystyried, hwyrach y bydd plant yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, yn lle cynnig cymorth unigol iddynt.

Ffactorau sy'n gallu achosi gwrthod cais:

Caiff pob cais unigol ei ystyried ar ei rinweddau unigol.  Mae'n bwysig iawn cwblhau'r cais yn llawnac yn gywir, gan ddangos yn union sut y caiff y cymorth ychwanegol ei ddefnyddio. Mae pob cais yn mynd gerbron panel i benderfynu ar ei addasrwydd. I'ch helpu cynllunio eich cais, gweler isod restr o rai o'r ffactorau a all arwain at wrthod neu ohirio cais.

Ni ddyfernir cyllid:

  • I sybsideiddio lleoedd.
  • I gefnogi plentyn nad yw'n byw ym Mhowys.
  • I gynnal hyfforddiant gorfodol nad yw'n gysylltiedig ag anghenion plentyn sy'n defnyddio'r cynnig.
  • Os na roddwyd eglurhad digonol o ran sut y caiff y cyllid ei ddefnyddio e.e. cais am gyllid ar gyfer grŵp bach, ond heb eglurhad o ran yr hyn a fyddai'n cael ei wireddu gyda'r cyllid.
  • Os nad yw cynhwysiant yn brif ddiben y cais.
  • Os gofynnir am gyllid wrth edrych yn ôl.
  • Ar gyfer adnoddau nad ydynt yn arbenigol, a ddylai fod yn rhan o'ch darpariaeth gyffredinol.
  • Ar gyfer gweithgareddau a ddylai fod yn rhan o'ch darpariaeth gyffredinol.
  • Os nad yw arweiniad a strategaethau a rannwyd eisoes wedi cael eu hymwreiddio.
  • Os bydd y ffurflen gais yn anghyflawn neu'n anodd ei darllen.

Beth sy'n digwydd ar ôl imi gyflwyno fy nghais?

Bydd angen i'r panel gynnal asesiad unigol ar bob cais er mwyn ystyried amgylchiadau penodol sy'n gysylltiedig â'r cais dan sylw. Mae'r panel yn cwrdd bob yn ail wythnos. Byddwn yn eich hysbysu am ganlyniad eich cais o fewn 1-2 wythnos o ddyddiad cyfarfod y panel.

Noder: bydd pob dyfarniad yn cael ei adolygu bob hanner tymor.  Gall dyfarniadau newid.

Os nad ydych chi'n llwyddiannus, bydd y llythyr sy'n cyfleu'r penderfyniad yn nodi'r rhesymau.

Cynhelir cyfarfodydd y panel bob yn ail wythnos.

Dylech siarad gydag aelod o'r tîm gofal plant i drafod eich cais.

** Gofalwch eich bod yn llenwi'r HOLL wybodaeth ar y ffurflen. Ni fyddwn yn gallu trafod ceisiadau os bydd gwybodaeth ar goll**

Noder: nid yw'n bosibl cytuno i roi cyllid wrth edrych yn ôl felly mae'n rhaid cyflwyno eich cais mewn da bryd.