Grant Twf Busnes Powys
Fel rhan o'u hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Powys yn darparu Grant Twf Busnes Powys a ariennir gan Lywodraeth y DU drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
Os ydych yn gweithredu busnes presennol ym Mhowys, gyda chynlluniau i dyfu a/neu sicrhau cynaliadwyedd yn y cyfnod heriol hwn, gallech fod yn gymwys ar gyfer y grant twf busnes.
Nod yr ymyriad grant yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o'u datblygiad i sefydlu, cynnal, tyfu ac arloesi, gan gynnwys drwy rwydweithiau lleol.
- Grantiau rhwng £1000 a £25,000 ar gael.
- Bydd pob grant a ddyfernir yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys neu uchafswm o £5000 ar gyfer pob swydd a grëwyd a/neu £5000 ar gyfer pob swydd a ddiogelir, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael mynediad at y grant)