Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ymhle fydda' i'n byw?

Byddwn yn ceisio dod o hyd i gartref i ti gyda gofalwyr maeth lleol fel dy fod yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda dy deulu a dy ffrindiau ac i bara i wneud unrhyw weithgareddau neu hobïau rwyt ti'n eu mwynhau.  Os yw'n bosibl byddi di'n mynd i'r un lle a dy frawd a dy chwaer.

Pwy fydda' i'n byw gyda?

Children with a dog

Byddi di'n byw gyda Gofalwyr Maeth - pobl sydd wedi dewis i roi cartref cariadus a chroesawgar i blant a phobl ifanc sy'n methu byw gartref am ryw reswm gyda'u teuluoedd biolegol.  Mae pob math o bobl yn penderfynu fod yn Ofalwyr Maeth; pobl sengl, cyplau, pobl gyda phlant ifanc, eraill sydd heb blant a rhai sydd â phlant sydd wedi tyfu i fyny a gyda theuluoedd eu hunain. Weithiau bydd plant eraill sy'n cael eu maethu yn byw yn y ty.

Pa mor hir fydda' i'n byw yna?

Mae'n anodd dweud yn gywir pa mor hir y byddi di'n byw gyda Gofalwyr Maeth gan fod pob plentyn yn wahanol.   Weithiau mae plant yn aros mewn gofal maeth am amser byr tra bod pethau'n cael eu sortio gartref.  Bydd rhai plant yn aros am hirach - dylet siarad efo dy weithiwr cymdeithasol am ba mor hir y byddi di'n aros gyda gofalwyr maeth.