Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trethi Busnes: Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024 / 2025

Rhaid i chi wneud cais am y rhyddhad hwn erbyn 1pm 31 Mawrth 2025.Ni allwn ystyried ceisiadau sy'n cael eu derbyn ar ôl y dyddiad hwn.

Cais am Ryddhad Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Ffurflen Cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch 2024/25

Cyflwyniad

Mae'r rhyddhad hwn wedi'i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Darperir y rhyddhad fel cymorth ar gyfer y sectorau hyn er mwyn sicrhau bod mwy o obaith ganddynt o adfer o'r heriau economaidd sydd wedi effeithio arnynt dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau sy'n gymwys ar gyfer 2024-25. Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi'i feddiannu drwy gynnig 40% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol, eu bod yn cadarnhau nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na'r uchafswm hwn. Mae enghraifft o ffurflen ddatganiad wedi'i hamgáu yn Atodiad 1 i awdurdodau lleol ei defnyddio wrth ddatblygu eu ffurflenni eu hunain i'w cyhoeddi a'u cyflwyno i fusnesau.    

Mae'r ddogfen hon yn darparu canllawiau ynghylch rhoi'r cynllun hwn ar waith a'i gyflwyno.

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch - Sut bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu?

Gan mai mesur dros dro yw hwn, rydym yn darparu'r rhyddhad drwy roi ad-daliad i awdurdodau lleol sy'n defnyddio'u pwerau rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.  Yr awdurdodau lleol unigol eu hunain fydd yn mabwysiadu cynllun ac yn penderfynu ym mhob achos a ddylid caniatáu'r rhyddhad o dan adran 47. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ad-daliad i'r awdurdodau lleol am y rhyddhad sy'n cael ei ddarparu yn unol â'r canllawiau hyn drwy grant o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Sut bydd y cynllun yn cael ei weinyddu?

Yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu sut i weinyddu'r cynllun er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib yn cymryd rhan a bod cyn lleied â phosib o faich gweinyddol ar dalwyr ardrethi a staff yr awdurdod lleol.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i fusnesau ynghylch manylion a gweinyddiaeth y cynllun.

Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?

Yr eiddo a fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad hwn fydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch - fel siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd a'r eithriadau i'r rhyddhad isod.

Dylai'r rhyddhad gael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad yn ei fil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. At ddibenion y cynllun hwn, bydd eiddo manwerthu fel "siopau, bwytai, caffis a llefydd sy'n gwerthu diod" yn golygu fel a ganlyn (yn ddarostyngedig i feini prawf eraill yn y canllawiau).

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Siopau (fel siop flodau, siop fara, cigydd, groser, siop ffrwythau a llysiau, gemydd, siop bapur ysgrifennu, siop drwyddedig, siop bapur newydd, siop caledwedd, archfarchnad ac ati)
  • Siopau elusen
  • Optegydd
  • Fferyllfeydd
  • Swyddfeydd post
  • Siopau dodrefn neu ystafelloedd arddangos (fel siopau carpedi, gwydr dwbl, drysau garej)
  • Ystafelloedd arddangos ceir neu garafannau
  • Canolfannau gwerthu ceir ail law
  • Marchnadoedd
  • Gorsafoedd petrol
  • Canolfannau garddio
  • Orielau celf (lle mae modd prynu neu logi gwaith celf)

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Gwasanaethau trin gwallt a harddwch
  • Trwsio esgidiau/torri allweddi
  • Asiantaethau teithio
  • Swyddfeydd tocynnau (ee ar gyfer y theatr)
  • Gwasanaethau sychlanhau 
  • Golchdai
  • Trwsio cyfrifiaduron, setiau teledu neu gyfarpar domestig
  • Trefnwyr angladdau
  • Prosesu lluniau
  • Llogi DVD neu fideo
  • Llogi offer
  • Llogi ceir
  • Swyddfeydd gwerthu a gosod tai

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Bwytai
  • Bwytai archebu o'r car
  • Siopau tecawê
  • Siopau brechdanau
  • Caffis
  • Siopau coffi
  • Tafarnau
  • Bariau neu fariau gwin

Rydym yn ystyried bod ymgynnull a hamdden yn golygu'r canlynol.

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ddarparu chwaraeon, hamdden a chyfleusterau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (gan gynnwys i wylio gweithgareddau o'r fath) ac i ymgynnull aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw.

  • Meysydd a chlybiau chwaraeon
  • Cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • Campfeydd
  • Atyniadau twristaidd
  • Amgueddfeydd ac orielau celf
  • Plastai a thai hanesyddol
  • Theatrau
  • Lleoliadau cerddoriaeth fyw
  • Sinemâu
  • Clybiau nos

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ymgynnull aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw.

  • Neuaddau cyhoeddus
  • Tai clybiau, clybiau a sefydliadau

Rydym yn ystyried bod gwestai, eiddo llety a phreswyl a llety hunanarlwyo yn golygu'r canlynol:

Hereditamentau lle mae'r rhan annomestig yn cael ei defnyddio i ddarparu llety preswyl fel busnes:

  • Gwestai, tai llety a thai preswyl
  • Cartrefi gwyliau
  • Parciau a safleoedd carafannau

Rhyddhad ôl-weithredol

Ni cheir gwneud dyfarniadau rhyddhad newydd yn ôl-weithredol ar gyfer blynyddoedd blaenorol o dan delerau'r cynllun. Er bod pwerau eang awdurdodau lleol yn golygu ei bod yn bosibl i ryddhad yn ôl disgresiwn gael ei ddyfarnu yn ôl-weithredol am hyd at chwe mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol, nid yw cyllid ar gyfer unrhyw ddyfarniadau o'r fath yn dod o dan delerau'r cytundeb cyllido ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Ni ellir ond gwneud addasiadau yn ôl-weithredol os oes rhyddhad eisoes wedi'i ddyfarnu o dan delerau'r cynllun yn y flwyddyn berthnasol a bod atebolrwydd y trethdalwr yn cael ei ddiwygio yn dilyn hynny, o ganlyniad i newid mewn amgylchiadau.

Ystyriaethau eraill

Er mwyn gallu manteisio ar y rhyddhad, dylai'r hereditament gael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl at y dibenion cymwys. Yn debyg i fathau eraill o ryddhad, yr hyn sy'n digwydd yn yr eiddo sy'n bwysig yn hytrach na'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio. Felly, os yw hereditamentau yn cael eu defnyddio, ond nid yn bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer y pwrpas cymwys, ni fyddant yn gymwys i gael y rhyddhad. I osgoi amheuaeth, dylid ystyried bod hereditamentau a gaeodd dros dro oherwydd cyngor y Llywodraeth ar COVID-19 yn hereditamentau sydd wedi'u meddiannu at ddibenion y rhyddhad hwn.

Nid oes bwriad i'r rhestr uchod fod yn un gwbl drylwyr, gan y byddai'n amhosibl rhestru'r holl ddefnyddiau manwerthu, hamdden a lletygarwch amrywiol sy'n bodoli. Hefyd bydd rhai enghreifftiau'n codi o ddefnydd cymysg. Fodd bynnag, y bwriad yw rhoi arweiniad i'r awdurdodau lleol ynghylch y mathau o ddefnydd sy'n gymwys am y rhyddhad ym marn Llywodraeth Cymru at y diben hwn. Dylai awdurdodau lleol benderfynu dros eu hunain a yw eiddo penodol nad yw ar y rhestr yn gyffredinol debyg o ran natur i'r uchod. Os felly dylid ei ystyried yn gymwys ar gyfer y cynllun. Yn yr un modd, os nad yw eiddo yn debyg yn gyffredinol i'r rhai ar y rhestr uchod, ni ddylai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Mae'r rhyddhad ardrethi yn cael ei roi yn ôl disgresiwn. Os yw awdurdodau lleol yn penderfynu defnyddio'u disgresiwn i beidio â chaniatáu rhyddhad i fusnesau cymwys, efallai y byddent yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol ar gyfer unrhyw faterion cyfreithiol a allai godi o ganlyniad i benderfyniad o'r fath, fesul achos.  

Efallai y bydd busnesau o'r farn eu bod wedi gallu parhau i fasnachu ar lefel sylweddol yn ystod y cyfyngiadau Coronafeirws, ac felly efallai na fyddent yn dymuno gwneud cais am y rhyddhad.

Y mathau o hereditamentau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r mathau o ddefnydd nad ydynt yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru fel defnydd manwerthu, hamdden neu letygarwch at ddiben y cynllun hwn, ac na fyddai'n gymwys i gael y rhyddhad. Fodd bynnag, yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu a yw hereditamentau yn debyg o ran natur i'r rhai sy'n cael eu rhestru ac os na fyddent yn gymwys i gael y rhyddhad o dan y cynllun.

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Gwasanaethau ariannol (ee banciau, cymdeithasau adeiladu, peiriannau arian parod, bureaux de change, benthycwyr diwrnod cyflog, siopau betio, gwystlyddion)
  • Gwasanaethau meddygol (ee milfeddygon, deintyddion, meddygon, osteopathiaid, ceiropractyddion)
  • Gwasanaethau proffesiynol (ee cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau yswiriant, ymgynghorwyr ariannol, tiwtoriaid)
  • Swyddfeydd dosbarthu Swyddfa'r Post
  • Meithrinfeydd dydd
  • Llety cŵn a chathod
  • Clybiau casino a gamblo
  • Cartrefi arddangos ac ystafelloedd marchnata
  • Asiantaethau cyflogaeth

Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

Os nad yw hereditamentau fel arfer yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw, ni fyddant yn gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun, hyd yn oed os oes defnydd atodol o'r hereditament y gellid ystyried ei fod yn syrthio o dan y disgrifiadau yn Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad? 

Hereditamentau gwag

Dylai pob eiddo sy'n wag ar 1 Ebrill 2024 gael ei eithrio rhag y rhyddhad hwn. Fodd bynnag, o dan y cynllun Rhyddhad Eiddo Gwag gorfodol, bydd eiddo gwag yn derbyn gostyngiad o 100% yn ei ardrethi ar gyfer y tri mis cyntaf (ac mewn rhai achosion y chwe mis cyntaf) o fod yn wag.

Hereditamentau sy'n eiddo i awdurdod lleol neu sy'n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo

Mae hereditamentau sy'n eiddo i awdurdod lleol neu sy'n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo, er enghraifft canolfannau ymwelwyr, siopau gwybodaeth i dwristiaid a siopau coffi neu siopau rhoddion sy'n rhan o adeiladau hanesyddol ac yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, yn esempt o'r cynllun hwn.

Faint o ryddhad sydd ar gael?

Cyfanswm y rhyddhad a ariennir gan y Llywodraeth sydd ar gael i bob eiddo o dan y cynllun hwn ar gyfer 2024-25 yw 40% o'r bil perthnasol. Mae hyn yn amodol ar uchafswm o £110,000 i bob busnes ar draws eu holl eiddo yng Nghymru.

Dylid cymhwyso'r rhyddhad i'r bil net sy'n weddill ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol (gan gynnwys elfennau yn ôl disgresiwn a ariennir yn llawn neu'n rhannol gan yr awdurdod lleol) ac unrhyw ryddhad arall yn ôl disgresiwn a ariennir gan grantiau adran 31 (ac eithrio'r rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad ehangach yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31). Mae'r mathau o ryddhad y dylid eu cymhwyso cyn y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn cynnwys categorïau o ryddhad yn ôl disgresiwn a oedd ar gael cyn Deddf Lleoliaeth 2011 (e.e. rhyddhad ardrethi ar gyfer elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol, sefydliadau nid-er-elw, caledi, eiddo gwag). Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau ehangach yn ôl disgresiwn i gynnig gostyngiadau pellach y tu allan i'r cynllun hwn neu ryddhad ychwanegol i hereditamentau o fewn y cynllun. Pan fo awdurdod lleol yn cymhwyso rhyddhad a ariennir yn lleol o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998, dylid ei gymhwyso ar ôl y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Bydd cymhwysedd ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi a'r rhyddhad ei hun yn cael ei asesu a'i gyfrifo ar sail ddyddiol. Dylid defnyddio'r fformiwla ganlynol wrth benderfynu ar swm y rhyddhad ardrethi i'w ganiatáu ar gyfer hereditament penodol yn ystod blwyddyn ariannol:

  • Swm y rhyddhad i'w ganiatáu = V x 0.4, lle
  • V yw'r tâl dyddiol am yr hereditament ar gyfer y diwrnod trethadwy ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol ac unrhyw ryddhad arall yn ôl disgresiwn (ac eithrio'r rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31).

Dylid cyfrifo hyn gan anwybyddu unrhyw addasiadau blwyddyn flaenorol i'r atebolrwydd sy'n syrthio ar y diwrnod.

Bydd busnesau sy'n defnyddio mwy nag un eiddo yn gallu cael Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer pob eiddo cymwys, o fewn uchafswm o £110,000 i bob busnes ar draws Cymru.

Gall busnes gydag un eiddo a rhwymedigaeth o fwy na £275,000 yn weddill (ar ôl unrhyw ryddhad) ddefnyddio dyraniad cyfan y rhyddhad. Ni fydd unrhyw fusnesau eraill sy'n eiddo i'r busnes hwnnw yn gymwys o dan y cynllun.

Mae eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi'i eithrio o'r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach oherwydd y rheolau amlfeddiannaeth yn gymwys am y cynllun rhyddhad hwn, o fewn yr uchafswm.

Newidiadau i hereditamentau presennol gan gynnwys newid meddiant

Bydd eiddo gwag sy'n dechrau cael ei ddefnyddio ar ôl 1 Ebrill 2024 yn gymwys i gael y rhyddhad hwn o ddyddiad ei feddiannu.

Os oes newid meddiant yn ystod y flwyddyn ariannol, ar ôl i'r rhyddhad gael ei ddarparu i'r hereditament, bydd y meddiannydd newydd yn gymwys i dderbyn y rhyddhad ar sail pro-rata os ydynt yn gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar weddill y dyddiau meddiannu gan ddefnyddio'r fformiwla yn yr adran Faint o ryddhad sydd ar gael?

Dylid gweithredu'r gostyngiad yn ddyddiol gan ddefnyddio'r fformiwla a nodir uchod. Dylai hereditament a grëwyd o ganlyniad i raniad neu uniad yn ystod y flwyddyn ariannol, neu pan fo newid defnydd wedi bod, gael ei ystyried o'r newydd ar gyfer y gostyngiad ar y diwrnod hwnnw.

Y terfyn arian parod a rheoli cymorthdaliadau

Ni chaiff talwr ardrethi, o dan unrhyw amgylchiadau, fynd y tu hwnt i'r terfyn arian parod, sef £110,000, ar draws eu holl hereditamentau yng Nghymru. Pan fo gan dalwr ardrethi gysylltiad cymwys â thalwr ardrethi arall, dylid ystyried y talwyr ardrethi hynny fel un talwr ardrethi at ddibenion y terfynau arian parod. Ystyrir bod gan dalwr ardrethi gysylltiad cymwys ag un arall yn yr achosion isod:

  • mae'r ddau dalwr ardrethi yn gwmnïau ac mae un yn is-gwmni i'r un arall, neu mae'r ddau'n is-gwmnïau i'r un cwmni; neu
  • dim ond un talwr ardrethi sy'n gwmni ac mae gan y talwr ardrethi arall y fath fuddiant yn y cwmni hwnnw a fyddai'n golygu mai ef fyddai cwmni daliannol yr un arall, pe bai'r talwr ardrethi arall yn gwmni.

Dechreuodd cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau newydd y DU ar 4 Ionawr 2023, pan ddaeth Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 i rym. Mae'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn debygol o fod yn gymhorthdal o dan y gyfundrefn newydd. Bydd angen i unrhyw ryddhad a ddarperir gan awdurdodau lleol o dan y cynllun hwn gydymffurfio â rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau domestig a rhyngwladol y DU.

I'r graddau y mae awdurdod lleol yn bwriadu darparu rhyddhad sydd o dan y trothwyon Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA), mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn caniatáu i gyfranogwr economaidd (ee cwmni daliannol a'i is-gwmnïau) dderbyn hyd at £315,000 mewn cyfnod o 3 blynedd (sef blwyddyn 2024-25 a'r ddwy flwyddyn ariannol flaenorol). Nid oedd cynlluniau  Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru cyn 2023-24 yn cael eu darparu fel cymhorthdal. Dylai awdurdodau lleol ofyn i'r talwyr ardrethi, ar sail hunanasesu, ddatgan fel rhan o'u cais am Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch nad ydynt yn mynd y tu hwnt i'r terfyn arian parod na'r terfyn MFA.

Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw cydymffurfio â'r holl ddarpariaethau rheoli cymorthdaliadau perthnasol, gan gynnwys gofynion MFA o ran gweithdrefnau a thryloywder. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau gan Lywodraeth y DU.

I gael cyngor pellach, cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau yn Llywodraeth Cymru drwy'r manylion isod:

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru

Mae'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gael i fusnesau cymwys sy'n gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nod y rhyddhad yw darparu cymorth ar gyfer y sectorau hyn er mwyn sicrhau bod mwy o obaith ganddynt o adfer o'r heriau economaidd sydd wedi effeithio arnynt dros y blynyddoedd diwethaf. Bydd busnesau cymwys yn cael gostyngiad o 40% yn eu rhwymedigaeth net ar gyfer ardrethi annomestig yn 2024-25. Ni ddylai uchafswm gwerth ariannol y rhyddhad ardrethi a ganiateir, ar draws pob eiddo yng Nghymru sy'n cael eu defnyddio gan yr un busnes, fod yn fwy na £110,000. 

Bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu fel cymhorthdal ar ffurf Cymorth Ariannol Lleiaf (MFA). Rhaid i'r un busnes beidio â hawlio cyfanswm o fwy na £315,000 o MFA dros dair blynedd (gan gynnwys 2024-25). Nid oedd cynlluniau Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru cyn 2023-24 yn cael eu darparu fel cymhorthdal ac ni ddylid eu cyfrif tuag at y terfyn MFA. Felly, rhaid i werth gros y rhyddhad a hawlir gan yr un busnes beidio â bod yn fwy na £110,000 yng Nghymru ar gyfer 2024-25 (i gydymffurfio â thelerau'r cynllun hwn) neu £315,000 o 2022-23 i 2024-25, gan gynnwys y blynyddoedd hynny (i gydymffurfio â gofynion rheoli cymorthdaliadau). Rhaid i fusnesau sy'n hawlio'r rhyddhad ddatgan nad yw'r swm a hawlir yn mynd y tu hwnt i'r terfynau hynny, cyn y gellir dyfarnu'r rhyddhad.

Mae angen i fusnesau ddatgan eu bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd a nodwyd yn y ddogfen ganllawiau hon a nodi ar gyfer pa eiddo y maent yn dymuno hawlio rhyddhad. Os yw 40% o'r atebolrwydd ar draws eiddo'r busnes yn fwy na £110,000 neu'r terfyn MFA, bydd angen i fusnesau nodi ar gyfer pa eiddo yr hoffent hawlio'r rhyddhad. Gall busnesau ddewis ar gyfer pa eiddo y byddant yn ceisio rhyddhad. Pan fydd cyfanswm y rhyddhad a ganiateir ar gyfer eiddo eraill yn agos i'r uchafswm o £110,000 neu'r terfyn MFA, gellir caniatáu swm o ryddhad sy'n llai na 40% ar gyfer eiddo cymwys arall.

Rhaid cyflwyno ffurflen gais i bob awdurdod lleol y mae'r busnes yn gwneud cais am ryddhad ar gyfer eiddo yn ei ardal. Rhaid i bob ffurflen gynnwys manylion pob eiddo y gwneir cais am ryddhad ar ei gyfer ar draws Cymru. Os na wneir cais, ni ellir rhoi rhyddhad.

Bydd unrhyw ymgais gan fusnes i wneud cais bwriadol i hawlio mwy na £110,000 o ryddhad yn ei roi mewn perygl o golli unrhyw ryddhad a roddwyd o dan y cynllun i'r busnes hwnnw gan unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru. Bydd gwybodaeth ar ryddhad a hawliwyd o dan y cynllun yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol eraill a Llywodraeth Cymru, gan eu galluogi i adnabod unrhyw hawliau sy'n gyfanswm o fwy na £110,000 a gweithredu ar y rhain os oes angen.

Ni fydd Llywodraeth Cymru a Cyngor Sir Powys yn goddef unrhyw ymgais gan fusnes i ffugio'u cofnodion na rhoi tystiolaeth ffug i gael y gostyngiad hwn. Mae hyn yn cynnwys hawlio cymorth sy'n fwy na'r uchafswm o £110,000 neu'r trothwy eithrio. Gall busnes sy'n gwneud cais ffug am unrhyw ryddhad, neu sy'n rhoi gwybodaeth ffug neu'n gwneud sylwadau ffug er mwyn cael rhyddhad, fod yn euog o dwyll o dan Ddeddf Twyll 2006 a gall wynebu camau cyfreithiol, yn ogystal â cholli unrhyw Ryddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer eu holl eiddo o dan gynllun 2024-25.