Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Alla' i weld fy nheulu a fy ffrindiau?

Galli di siarad gyda dy weithiwr cymdeithasol am y ffordd orau i gadw mewn cysylltiad gyda dy deulu a'th ffrindiau.  Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn gwrando ar dy farn er mwyn gwneud yn siwr dy fod yn hapus ac yn ddiogel.

Alla' i ddod a fy mhethau o adref?

Wrth gwrs, byddi di'n gallu dod â dy bethau o adref a bydd angen i ti siarad efo dy weithiwr cymdeithasol i drefnu hyn.

Beth am ddillad ac arian poced?

Tra dy fod mewn gofal maeth byddi di'n cael arian poced a bydd dy ofalwr maeth yn siarad â thi am hyn.  Bydd dy ofalwr maeth yn cael arian i dalu am dripiau ysgol a gweithgareddau ac i brynu'r pethau sydd eu hangen arna ti - dillad ac esgidiau newydd, teganau ac ati.