Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Beth alla'i wneud os yw plentyn yn dweud wrthyf ei fod yn cael ei niweidio?

  • Os yw plentyn am siarad â chi, rhowch amser a lle iddo/iddi; gwrandwch ar y plentyn yn ofalus - mewn lle preifat os yn bosibl. Peidiwch â cheisio ymchwilio eich hun; peidiwch â gofyn llawer o gwestiynau i'r plentyn na rhoi geiriau yn ei geg. Cysurwch y plentyn, a dweud nad oes bai arno ef/hi o gwbl.
  • Ysgrifennwch bopeth yr ydych wedi ei glywed neu ei weld; defnyddiwch eiriau'r plentyn. Ysgrifennwch bopeth rydych chi wedi'i ddweud hefyd.
  • Dywedwch yn glir wrth y plentyn y byddwch yn rhannu'r wybodaeth y mae wedi'i roi i chi gyda rhywun a fydd yn gallu ei helpu: peidiwch ag addo cadw cyfrinach - efallai ni fydd hi'n bosibl gwneud hynny.
  • Os ydych yn gweithio gyda phlant, cysylltwch â'ch rheolwr llinell ar unwaith. Os nad ydych yn gwneud hyn, cysylltwch â Gwasanaethau Plant.

Beth sy'n digwydd ar ôl i mi roi gwybod am fy mhryderon?

Gallwch ofyn nad yw'ch enw'n cael ei ddatgelu i'r teulu yr ydych yn pryderu amdanynt, a chaiff hyn ei barchu. Dylech chi hefyd gael gwybod a yw'ch galwad wedi cael sylw - mwy na thebyg ni chewch ragor o fanylion, gan y bydd hyn yn gyfrinachol.