Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

A ddylwn fod yn poeni?

Efallai eich bod yn gofidio neu'n ofnus am rannu'r pryderon sydd gennych, a beth fydd yn digwydd o ganlyniad i hyn - yn enwedig os ydych mewn cysylltiad â'r teulu. Efallai nad ydych yn sicr bod plentyn yn cael ei niweidio, neu efallai nad ydych yn credu bod gennych ddigon o wybodaeth i'w roi i rywun arall.

Ond cofiwch...oni bai eich bod yn dweud wrth rywun, nid oes unrhyw ffordd o wneud yn siwr os oes angen help ar y plentyn hwnnw ai peidio, a gall y cam-drin parhau. Efallai bydd gennych wybodaeth bwysig a fydd yn helpu Gwasanaethau Plant i wneud y penderfyniadau gorau ar gyfer y plentyn. Gall y wybodaeth hefyd sicrhau bod y teulu'n derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

Os ydych yn ansicr p'un ai os dylech roi gwybod am y pryderon sydd gennych, mynnwch air â'r gweithiwr cymdeithasol ar ddyletswydd, ac yna fe allwch benderfynu gyda'ch gilydd ar y ffordd orau o weithredu ar ran y plentyn.

Cysylltiadau

Eich sylwadau am ein tudalennau