Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Offer yn y Cartref

wheelchair

Ydych chi yn cael trafferth gyda thasgau dyddiol fel gwisgo neu ymolchi?

'Tasgau Dyddiol' (a elwir hefyd yn 'Gweithgareddau dyddiol') yn cynnwys:

  • Hunanofal, er enghraifft, ymolchi, mynd i'r toiled, gwisgo, bwyta ac yfed.
  • 'Trosglwyddiadau' er enghraifft, mynd a chodi o'r gwely, eistedd a chodi oddi ar gadair neu'r toiled, mynd i mewn ac allan o'r gawod neu fath.
  • Gweithgareddau symudedd fel mynd lan a lawr grisiau a chael mynediad i'ch cartref a'ch gardd.
  • Gweithgareddau domestig, fel coginio, gwaith tŷ, neu siopa.

Byddwch yn ddiogel ac yn annibynnol yn eich cartref gydag offer a gwasanaethau sy'n gwneud eich bywyd yn haws.

Os yw eich anghenion yn ymwneud â symudedd, dyma rai awgrymiadau o gymorth sydd ar gael i chi.

Cadeiriau Olwyn

Mae'r GIG yn cyflenwi cadeiriau olwyn i'w benthyg am gyfnod hir trwy Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar. Gallwch gael eich cyfeirio gan eich meddyg teulu neu unrhyw weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol cofrestredig. Nid yw Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn cyfeiriadau ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae cadeiriau olwyn sy'n cael eu gwthio a chomodau ar gael i'w benthyg am gyfnod byr, (er enghraifft, ar gyfer mynd ar wyliau), drwy'r Groes Goch Brydeinig.

Sgwter Symudedd

Sylwch, os ydych yn ystyried archebu sgwter symudedd bydd rhaid i chi ystyried sut y byddwch yn ei storio a thrydanu'r batri cyn i chi brynu. Rydym ond yn darparu rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a chafodd eu rhagnodi gan weithwyr iechyd proffesiynol ac nid ydym yn darparu cyfleusterau ar gyfer storio a thrydanu ar gyfer sgwteri.