Rheoli eich gwastraff
Yn unol â'r gyfraith, mae dyletswydd gofal gan bob busnes, sefydliad/mudiad ac elusen, i sicrhau fod eu gwastraff a deunyddiau ailgylchu yn cael eu prosesu'n gywir.
Mae deddfwriaeth amgylcheddol yn newid yn rheolaidd, ac mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r gyfraith. Gallwn helpu trwy gynnig gwasanaethau pwrpasol, cost effeithiol ac effeithlon i fusnesau i sicrhau eich bod yn trin ac yn prosesu gwastraff a deunyddiau ailgylchu yn gyfreithlon.
Trwy weithio gyda'n cwsmeriaid, gallwn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â'r rheoliadau tra'n gwneud eich rhan dros yr amgylchedd trwy ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl.
Fel busnes, sefydliad/mudiad neu elusen, mae'n bwysig gwybod yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud gyda'ch gwastraff i gydymffurfio gyda'r rheoliadau. Dyma ychydig o awgrymiadau defnyddiol i'w cadw mewn cof:
Gwnewch ddefnydd o gwmni rheoli gwastraff sydd â thrwydded addas, megis Ailgylchu Masnachol Powys, i brosesu eich gwastraff a deunyddiau ailgylchu yn gyfreithlon.
Gofynnwch bob tro i weld trwydded cludwr gwastraff y cwmni rheoli gwastraff cyn arwyddo contract. Gallwch gysylltu hefyd gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i wirio fod y cwmni rheoli gwastraff a ddewiswyd gennych chi wedi'i gofrestru i symud a phrosesu gwastraff a deunyddiau ailgylchu masnachol.
Sicrhewch eich bod yn cael nodyn trosglwyddo gwastraff bob tro ar gyfer eich gwastraff a'ch deunyddiau ailgylchu gan ei gadw'n ddiogel am isafswm o ddwy flynedd.
Peidiwch â gadael i unrhyw un fynd â'ch sbwriel a'ch deunyddiau ailgylchu ymaith oni bai eich bod wedi gwirio eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig a bod eich gwastraff yn cael ei gludo i safle a drwyddedir i dderbyn gwastraff masnachol - fe fyddwch yn wynebu dirwy.
Peidiwch â defnyddio'r Canolfannau Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu na'r Safleoedd Ailgylchu Cymunedol; mae'r safleoedd hyn at ddefnydd domestig (tai) yn unig.
Peidiwch â storio eich gwastraff na deunyddiau ailgylchu ar dir cyhoeddus neu ar y briffordd heb ganiatâd Cyngor Sir Powys.
Peidiwch â llosgi unrhyw wastraff na deunyddiau ailgylchu sydd gennych chi heb drwydded oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru.